Back
Ymweliad brenhinol â Chaerdydd

Ymwelodd y tywysog Charles a duges Cernyw â Chaerdydd heddiw.

Yn dilyn ymweliad ag adeilad newydd y BBC, lle gwnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Mount Stuart ganu iddyn nhw, aethon nhw am dro byr ar draws y Sgwâr Canolog i weld cerflun y cyn-bennaeth ysgol a'r hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth, Betty Campbell MBE.

Ar ôl cyfarfod ag aelodau o deulu Campbell, ymwelodd y tywysog â Neuadd y Ddinas, lle cymerodd y saliwt gan Warchodlu Dragwniaid 1afy frenhines ar ôl iddynt ddychweliad o arfer eu Rhyddid i'r Ddinas drwy orymdeithio drwy strydoedd y ddinas gyda'u gynnau yn eu lle, eu drymiau'n curo, a'u baneri'n hedfan.

Meddai Pennaeth Milwrol Gwarchodlu Dragwniaid 1afy frenhines, yr is-gyrnol Hugo Lloyd:  "Mae'n fraint enfawr cael gorymdeithio drwy Gaerdydd, dinas y mae gennym berthynas hir a chlos â hi.  Rydym yn rhoi pwys mawr ar ein cysylltiadau â'r brifddinas, sy'n gartref i lawer o'n milwyr. Mae'n berthynas sydd wedi'i hadeiladu ar barch a theyrngarwch ac yn rhywbeth nad ydym byth yn ei gymryd yn ganiataol."

Nododd yr orymdaithddychweliad y gatrawd, sy'n cael eu hadnabod fel y Marchoglu Cymreig, o ddwy daith heddwch CU, a oedd ill dwy'n chwe mis o hyd, i Mali yng Ngorllewin Affrica fel rhan o Ymgyrch Newcombe.

Yn y cyfamser, ymwelodd duges Cernyw â RISE Caerdydd, yr elusen sy'n ymateb i Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn y Siop Un Stopar safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Buddsoddodd y Cyngor yn y Siop Un Stop ar gyfer dioddefwyr benywaidd VAWDASV, sydd wedi'i lleoli gyda'r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (CAYRh) Rhanbarthol yn yr ysbyty.

Cyflwynir RISE fel partneriaeth rhwng Cymorth i Fenywod Caerdydd, Bawso a Llamau ac, y llynedd, ymatebwyd i fwy na 7,000 o alwadau i'w llinell gymorth a chefnogwyd dros 3,500 o fenywod a phlant.

Cyfarfu'r dduges â chynrychiolwyr o'r cyngor a'r partneriaid cyn sgwrsio â rhai defnyddwyr gwasanaeth sy'n cael eu cefnogi gan yr elusen, staff a gwirfoddolwyr.