Back
Caerdydd yn cwblhau rhaglen carbon niwtral gyntaf ar gyfer ailwynebu ffyrdd Cymru

08/07/22

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud y gwaith cyntaf i roi wyneb newydd ar ffyrdd carbon niwtral yng Nghymru.

Mae ychydig o dan 13,000m2o Northern Avenue, o ffordd ymadael yr M4 i Curlew Close, wedi cael wyneb newydd gan ddefnyddio agregau Slag Steel sy'n arbed mwy na 50% mewn costau carbon o gymharu â defnyddio agregau crai mewn 'cwrs arwyneb' confensiynol.

Bydd y carbon sy'n weddill a grëwyd yn y gwaith ail-wynebu yn cael ei wrthbwyso gan ddefnyddio Cynllun Carbon wedi'i Ddilysu (VCS) - sy'n atal datgoedwigo pellach ym Mrasil - a thrwy blannu 100 o lasbrennau yn y ddinas i gydnabod y cynllun.

Gan weithio'n agos gyda'n contractwr Miles Macadam, mae'r rhan hon o Northern Avenue wedi cael wyneb newydd gan greu 53 tunnell o garbon, o'i gymharu â 104 tunnell a fyddai wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddio deunydd cymysgedd poeth ac agregau naturiol.

Yr ôl troed carbon i gludo deunyddiau ar ac oddi ar y safle oedd 8 tunnell, o'i gymharu â 17 tunnell o garbon a fyddai wedi'i gynhyrchu i chwarela'r garreg o ymhellach i ffwrdd, gan arbediad carbon cyffredinol o 50.4%.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r cyngor wedi ymrwymo i fod yn gyngor carbon niwtral erbyn 2030, drwy ein Strategaeth Un Blaned.

"Newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein planed a rhaid cymryd camau i leihau faint o garbon sy'n cael ei gynhyrchu yn ein bywydau bob dydd.  Fel cyngor, rydym wedi asesu ôl troed carbon ein holl wasanaethau a gweithrediadau, felly gellir cymryd camau i'w leihau'n sylweddol er mwyn cyrraedd ein nod carbon niwtral. 

"Mae lleihau carbon yn y diwydiant petrogemegol, sy'n cynnwys rhoi wyneb newydd ar y ffyrdd, yn dipyn o gamp a, lle y bo'n briodol, byddwn yn ceisio defnyddio'r technegau a ddefnyddiwyd i roi wyneb newydd ar y rhan hon o Rodfa'r Gogledd ar ffyrdd eraill yn y ddinas."

Dywedodd Charlie Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr Miles Macadam: "Mae Miles Macadam bob amser wedi ymdrechu i arloesi ar gyfer arwynebau ffyrdd cynaliadwy. Ers ei gyflwyno ym 1995, gan ddefnyddio ein cynnyrch 'Milepave' rydym bob amser wedi darparu ateb arwynebau carbon isel, gan sicrhau arbediad carbon o 37% dros ddeunyddiau confensiynol a'n nod yw lleihau ein hôl troed carbon yn barhaus drwy ein gweithrediadau.

"Gan weithio ar y cyd â Chyngor Caerdydd ar y cynllun hwn a defnyddio cynnyrch newydd 'SteelPhalt' sef agregau Steel Slag, roeddem yn gallu lleihau'r carbon a oedd wedi'i wreiddio ymhellach yn sylweddol, tua 50% ac arbed 1,477 tunnell o agregau crai rhag cael eu chwareli, sy'n gyflawniad enfawr."