Back
Datblygu gweithlu dwyieithog ar gyfer prifddinas ddwyieithog


8/7/22

Mae Cyngor Caerdydd yn cymryd camau arwyddocaol i ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y brifddinas wrth i nifer y cyflogeion sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg barhau i gynyddu.

 

Dros y 12 mis diwethaf, mae nifer y staff sy'n gweithio i'r awdurdod sydd â sgiliau Cymraeg wedi cynyddu gan 8.6% arall ers 2020-21, ac ar hyn o bryd mae'n cynrychioli mwy na 14% o'r gweithlu, ac eithrio ysgolion.

 

Yn ystod 2021-22, bu cynnydd o 158% hefyd yn nifer y swyddi a hysbysebwyd lle'r oedd sgiliau Cymraeg yn ofyniad hanfodol a chynnydd o fwy na 100% i bron i 650 o swyddi a hysbysebwyd gyda sgiliau Cymraeg yn ddymunol.

 

Mae'r twf yn cynrychioli'r gwaith sydd ar y gweill i gyflawni'r weledigaeth o Gaerdydd fel brifddinas wirioneddol ddwyieithog, lle mae'r Gymraeg wedi'i gwreiddio yng ngwead bywyd bob dydd, ac ymrwymiad y Cyngor i wneud y sefydliad yngweithle cynyddol ddwyieithog, er mwyn cefnogi'r nod hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Fel rhan o'n huchelgais Caerdydd Ddwyieithog, cydnabuom mai un ffactor pwysig wrth gyflawni ein nodau fyddai meithrin gweithlu dwyieithog i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i drigolion Caerdydd gael mynediad atynt.

 

"Dyna pam rydym yn cynnig cyfle i'r holl staff, o bob gallu iaith, i ddysgu Cymraeg neu adeiladu ar eu sgiliau presennol am ddim ac rwy'n falch iawn o ddweud bod dros 1,000 o staff Cyngor Caerdydd wedi cymryd rhan mewn cyrsiau Cymraeg yn ystod 2021/22 a bod bron i 1,000 o swyddogion wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg."

 

Mae cynnydd Caerdydd o ran tyfu ei staff dwyieithog yn un o'r mesurau sydd wedi'u cynnwys yn adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg eleni, a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Iau, 14 Gorffennaf. Mae'r safonau'n ceisio gwella'r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu cael gan sefydliadau yn Gymraeg a chynyddu'r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg.

 

Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau eraill yn 2021/22 gan gynnwys cymeradwyo Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog 2022-27, sy'n cefnogi strategaeth Iaith Gymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg ac yn nodi sut mae'r brifddinas yn ceisio sicrhau'r twf mewn siaradwyr Cymraeg yma i helpu i gyrraedd y nod hwn.

 

Mae addysg yn sbardun hollbwysig i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y ddinas, gyda Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor yn cyd-fynd yn agos â strategaeth Caerdydd Ddwyieithog. Mae'r adroddiad blynyddol yn nodi y dyrannwyd lleoedd dosbarth Derbyn i fwy na 650 o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer medi 2021, sef 17.3% o'r cyfanswm a dderbynnir ledled y ddinas.

 

Mae cyflawniadau eraill yn yr adroddiad blynyddol yn cynnwys y nifer uchaf erioed o 14.5 miliwn o eiriau a gyfieithwyd gan dîm Caerdydd Ddwyieithog y Cyngor yn ystod 2021-22 - cynnydd o 25% o'i gymharu â 2020-21 a mwy na 25,000 o bobl yn ymgysylltu â Gŵyl ddigidol Tafwyl, a gefnogwyd gan y Cyngor, ac a gafodd ei ffrydio'n fyw o Gastell Caerdydd tra bod cyfyngiadau Covid ar waith.