Back
Disgybl yn Ysgol Gynradd Pontprennau yn torri record byd am enwi gwledydd ac arian cyfred


19/7/2022


Mae disgybl Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Pontprennau wedi creu hanes drwy ddod y person ieuengaf i adrodd prifddinasoedd ac arian cyfred pob un o 195 gwlad y byd, yn hyderus ac yn gyflymach nag erioed, mewn 7 munud a 15 eiliad.

Enillodd Anne Winston, sy'n wyth oed, y record byd mewn digwyddiad wedi'i ffrydio'n fyw a drefnwyd gan OMG Book of World Records.

Pan oedd Anne yn dair oed, ac yn teithio i'r feithrinfa ac oddi yno ac yna'n ôl ac ymlaen i'r ysgol, byddai ei thad yn sôn wrthi am holl wledydd gwahanol y byd. Dyma daniodd ei hawydd i ddysgu mwy am y prifddinasoedd a'u harian, a dros gyfnod o bedair blynedd, dysgodd Anne ei hun amdanyn nhw.

Wrth ddisgrifio'r broses, dywedodd Anne; "Roedd fy nysgu'n eithaf hamddenol i ddechrau, a byddwn i'n treulio 15 - 20 munud yr wythnos yn dysgu set newydd o brifddinasoedd ac arian cyfred. Tua'r diwedd, roeddwn i'n ymarfer bob dydd."

Ychwanegodd; "Rwy'n falch iawn fy mod i wedi cyflawni'r record byd hon a wnes i fel teyrnged i fy nhad-cu hyfryd fu farw'n ddiweddar. Rwy'n gobeithio y bydd fy ymgais yn ysbrydoli llawer o blant eraill ledled y byd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Hoffwn ddiolch i fy nheulu cyfan, athrawon, ffrindiau a phawb sydd wedi dymuno'n dda ac sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nhaith i wneud hyn yn bosibl."

Wrth adfyfyrio ar y gamp. dywedodd ei rhieni balch Mr Winston Jacob a Mrs Jincy Winston, "O oedran ifanc iawn fe sylwon ni fod gan Anne ddawn i gofio gwybodaeth a'r cyfan wnaethon ni oedd bwydo ymhellach i mewn i hynny. Wnaethon ni erioed freuddwydio am roi cynnig ar record byd, heb sôn am ei chyflawni. 

"All geiriau ddim disgrifio ein hemosiwn a'n llawenydd ac rydyn ni wir yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at bethau mawr iddi yn y dyfodol."

Ychwanegodd Pennaeth Ysgol Gynradd Pontprennau, Ian James: "Mae Anne yn ferch ifanc anhygoel sydd wrth ei bodd phob agwedd ar ei dysgu. Mae ei record byd yn dangos ei sgiliau cofio a'i gwybodaeth gyffredinol gwych. Mae'n fraint cael Anne yn ddisgybl."

Roedd y record flaenorol yn yr un categori gan ferch 10 oed, a gydag ymgais lwyddiannus Anne, hi yw deiliad presennol y record o ran oedran. Roedd cynrychiolwyr o OMG Book of Records yn bresennol yn y digwyddiad ar-lein a chyflwynwyd ei thystysgrif i Anne yn fyw ar yr awyr ar ôl iddi dorri'r record.

I wylio record Anne ewch i Youtubeyma