Back
Ysgol Uwchradd Cathays : "Cymuned ddysgu hynod gynhwysol ac uchelgeisiol lle mae'r disgyblion a'r staff yn ffynnu" medda

22/7/2022 

Mewn ymweliad diweddar gan Estyn, canfu'r arolygwyr fod gan Ysgol Uwchradd Cathays arweinwyr ysbrydoledig a diwylliant o uchelgais uchel wedi'i ategu gan y genhadaeth 'cyfleoedd i bawb'.

Yn ei adroddiad, disgrifiodd Arolygiaeth Addysg Cymru yr ysgol uwchradd yng Nghaerdydd yn

gymuned ddysgu hynod gynhwysol ac uchelgeisiol lle mae'r disgyblion a'r staff yn ffynnu a lle mae'r arweinwyr wedi creu ethos lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u hannog i ragori.

Canmolodd yr arolygwyr arweinwyr yr ysgol ar bob lefel am gynnal ffocws di-ildio ar werthuso a gwella pob agwedd ar waith yr ysgol, yn enwedig effeithiolrwydd arfer yn yr ystafell ddosbarth. Aethant ymlaen i ddweud bod y staff yn wybodus, yn frwdfrydig ac wedi ymrwymo'n llwyr i wella cyfleoedd bywyd y disgyblion.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod disgwyliadau uchel ac arferion ystafell ddosbarth sefydledig yn creu amgylchedd dysgu deinamig a bod gan staff ymrwymiad cyson i rannu arfer da, gwella addysgu, a galluogi pob disgybl i gyflawni ei botensial. O ganlyniad, caiff gwersi eu cynllunio'n ofalus a chânt eu cyflwyno'n fedrus i ysgogi diddordeb y disgyblion a'u hysbrydoli i gyflawni'n uchel.

Nododd arolygwyr Estyn fod y disgyblion yn rhoi gwerth mawr ar amrywiaeth ddiwylliannol yr ysgol ac yn ei ddathlu, gan drin ei gilydd â pharch a datblygu'n llwyddiannus yr agweddau a'r ymddygiadau allweddol a fydd yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr gydol oes a dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru. Maent yn gwrtais ac yn gyfeillgar ac yn ymddwyn yn berffaith mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol, gan arddangos agwedd gadarnhaol ddiamheuol tuag at eu dysgu a'u bywyd ysgol yn gyffredinol.

Gan fyfyrio ar lwyddiant yr ysgol, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy'n falch iawn o ddarllen y sylwadau cadarnhaol gan Estyn a dylai cymuned gyfan Ysgol Uwchradd Cathays deimlo'n hynod falch.

"Mae'r adroddiad yn dwyn i'r amlwg ddyhead uchel yr ysgol ar gyfer ei disgyblion a'igweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer cwricwlwm eang a chytbwys sy'n datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol a fydd yn galluogi ei disgyblion i gystadlu'n effeithiol am gyfleoedd cyflogaeth a lleoedd addysg uwch.

"Un o'r uchafbwyntiau i mi yw clywed bod Estyn yn cydnabod sut mae'r ysgol yn dangos ffyrdd y mae'r disgyblion yn croesawu amrywiaeth a sut mae hyn yn cael ei ddathlu drwy fywyd ysgol. Maent yn eithriadol o falch o berthyn i gymuned yr ysgol, ac yn ffynnu yn yr ethos hapus, diogel a gofalgar sydd wedi'i sefydlu. Mae'n braf dysgu am y rhan sylweddol y mae lles yn ei chwarae yn yr ysgol a bod y disgyblion yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn cael eu trin yn deg. Maent wedyn yn dangos lefel uchel o ymddiriedaeth a pharch tuag at yr ysgol, ei staff a'i gilydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry; "Hoffwn longyfarch y pennaeth, y llywodraethwyr a'r staff am eu gwaith caled a'u hymroddiad sydd wedi arwain at y canlyniad cadarnhaol hwn, gan sicrhau'r sylfeini ar gyfer dyfodol cyffrous i'r ysgol."

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Stuart Davies, Pennaeth Ysgol Uwchradd Cathays: "Rwy'n falch iawn o fyfyrwyr a staff Ysgol Uwchradd Cathays. Mae'n wych bod Estyn wedi cydnabod eu gwaith caled, eu hymrwymiad a'u balchder yn yr ysgol, yn enwedig o ystyried heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae'r adroddiad wir yn adlewyrchu'r ysgol a gwnaeth y tîm arolygu ddeall yn glir y gwaith y mae fy nghydweithwyr, ein myfyrwyr a'u teuluoedd yn ei wneud gyda'i gilydd bob dydd i wneud ein cymuned yn gymaint o lwyddiant. Roeddwn yn arbennig o falch bod ein hymdrechion i sicrhau profiadau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn ogystal â'r gwaith a wnawn i gefnogi lles dysgwyr yn cael eu cydnabod yn yr adroddiad a bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r gymuned hapus, gytûn a chynhwysol yr ydym yn ymdrechu i fod".

Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, y Cynghorydd Peter Wong: "Mae'n adroddiad hynod o gadarnhaol sy'n cydnabod y diwylliant o lwyddiant y mae'r staff a'r myfyrwyr wedi'i greu yn Ysgol Uwchradd Cathays. Rwy'n falch bod ein cymuned amrywiol yn Ysgol Uwchradd Cathays yn gwasanaethu Caerdydd gyfan, ac rwy'n edrych ymlaen at weld ysgol newydd yn cael ei hadeiladu sy'n gwobrwyo ac yn cyflawni uchelgeisiau ein myfyrwyr."

Mae'r angen i ddisodli Ysgol Uwchradd Cathays wedi'i nodi dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru fel cynllun blaenoriaeth y mae angen buddsoddi ynddo.

Pe bai cynlluniau yn y dyfodol yn symud ymlaen, byddai'r datblygiad yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol ac yn sicrhau cyfleusterau gwell ar y safle, sydd ar gael at ddefnydd y gymuned ar sail a rennir.

I ddarllen yr adroddiad llawn ewch ihttps://www.estyn.llyw.cymru/