Back
Anrhydeddu'r Cyngor am ymrwymiad i bersonél y Lluoedd Arfog

26.07.22
Mae Cyngor Caerdydd wedi'i anrhydeddu â gwobr aur fawreddog Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS) am ei gefnogaeth i'r Lluoedd Arfog.

Y wobr uchaf yn yr ERS, fe'i cyflwynir i'r cyflogwyr hynny sy'n cyflogi a chefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu'r Adfyddin, cyn-filwyr a'u teuluoedd ac fe'i lansiwyd yn 2014 gan Brif Weinidog y DU ar y pryd, David Cameron, i sicrhau bod personél a chyn-filwyr yn cael eu trin yn deg.

Dywedodd Leo Docherty, y Gweinidog Amddiffyn: "Waeth beth fo’ch maint, lleoliad neu sector, mae cyflogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn dda ar gyfer busnes ac mae'r gwobrau hyn yn cydnabod y gefnogaeth eithriadol gan gyflogwyr ledled y DU a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt a’u llongyfarch."

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael ein cydnabod gyda Gwobr Aur ERS. "Byddwn bob amser yn croesawu ceisiadau am swyddi gan aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys milwyr wrth gefn a chadetiaid na fydd byth o dan anfantais annheg ar unrhyw gam o'n proses recriwtio a dethol.

"Mae cynwysoldeb yn rhan allweddol o'n diwylliant yn y cyngor ac rydym yn falch o greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

"Mae ein cydweithwyr sydd â chysylltiadau â’r Lluoedd Arfog yn cael effaith mor gadarnhaol ar ein busnes, yn enwedig trwy eu gwytnwch a'u gallu i addasu, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt."

I ennill gwobr, rhaid i gyflogwyr ddangos eu bod yn cynnig 10 diwrnod ychwanegol o absenoldeb i filwyr wrth gefn a sicrhau bod polisïau AD cefnogol ar waith ar gyfer cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, gwirfoddolwyr y Llu Cadetiaid a gwŷr/gwragedd a phartneriaid y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Rhaid iddynt hefyd hyrwyddo'r manteision o gefnogi'r rhai o fewn cymuned y Lluoedd Arfog drwy annog eraill i arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Mae'r cyngor yn un o 12 cyflogwr o Gymru a fydd yn derbyn gwobr mewn digwyddiad arbennig ym mis Rhagfyr.