Back
Arolygiad yn cymeradwyo Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd

02.08.22
Mae adroddiad swyddogol newydd ar safonau yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd wedi nodi gwelliannau sylweddol mewn sawl maes.

Ymhlith y gwelliannau sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad mae:

  •  Gostyngiad mawr yn y rhai sy'n dod i'r system gyfiawnder wrth i'r GCI ganfod ffyrdd gwell o atal risg a darparu her a chefnogaeth
  • Gostyngiad yn nifer yr aildroseddu gan blant
  • Mae gostyngiad yn y defnydd o ddedfrydau carchar gan fod gan y farnwriaeth nawr hyder yng ngallu'r gwasanaethau lleol i oruchwylio gorchmynion cymunedol

Heddiw cyhoeddwyd yr adroddiad, gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi (HMIP), a daw ar ôl adolygiad tair wythnos o'r GCI, sy'n gweithio gyda phlant rhwng 10-18 oed yng Nghaerdydd i helpu i atal troseddu, lleihau troseddu gan y plant hynny yn y system a sicrhau mai dim ond pan fo angen y defnyddir y ddalfa.

Daw wedi i archwiliad cynharach, yn 2020, raddio'r gwasanaeth fel un 'Annigonol'. Yn yr ailgyflwyniad, a gynhaliwyd yn ystod mis Mawrth ac Ebrill eleni, mae'r gwasanaeth - sy'n cynnwys partneriaeth o Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Caerdydd - wedi cael ei uwchraddio i 'Angen Gwelliant'.

"Mae GCI Caerdydd yn gwneud cynnydd ac wedi ymdrechu'n sylweddol i fynd i'r afael â'r materion y daethon ni o hyd iddynt yn 2020," meddai Justin Russell, y Prif Arolygydd Prawf. "Mae bellach mewn meysydd allweddol, mewn meysydd allweddol, i ddelio ag anghenion plant dan eu goruchwyliaeth, gwella eu bywydau, ac amddiffyn y gymuned leol.

"Er bod sgôr o 'Angen Gwella' yn golygu bod ganddo dipyn o ffordd i fynd eto, mae GCI Caerdydd yn dangos arwyddion y gall, ac y bydd, yn parhau i ddatblygu."

Ar ôl i adroddiad beirniadol 2020 gael ei ryddhau, cyhoeddodd y GCI 'Ein Dyfodol Ni i Gyd', cynllun dwy flynedd i drawsnewidcyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd a gwnaeth bedwar addewid sydd wedi'u cynllunio i wella'r ffordd y mae'n mynd i'r afael â'r risgiau y mae rhai plant yng Nghaerdydd yn eu hwynebu, gan gynnwys cael eu targedu ar gyfer ecsbloetio troseddol:

  •  Sicrhau bod ffocws i arweinyddiaeth a rheolaeth a’i fod yn effeithiol
  • Defnyddio data a dadansoddiadau a rennir yn well i gefnogi plant ac asesu gwasanaethau yn well
  • Sicrhau y gall staff ar draws gwasanaethau weithio'n effeithiol
  • Gwella'r arlwy i blant a theuluoedd i sicrhau bod gwasanaethau'n 'cyflawni ein nodau'

Ymhlith y camau cyntaf i'w cymryd oedd ail-lunio strwythur arweinyddiaeth y GCI, gan gynnwys penodi Graham Robb yn gadeirydd annibynnol Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd, sy'n goruchwylio'r GCI. Yn 2020, dywedodd: "Mae'r strategaeth hon wedi cael ei datblygu gyda staff, pobl ifanc, y Cyngor a sefydliadau partner – felly mae'n ddatganiad ar y cyd grymus iawn am y dyheadau sydd gan Gaerdydd ar gyfer rhai o'r plant sydd fwyaf tebygol o achosi niwed neu gael eu niweidio gan eraill.”

Nawr, yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad newydd, dywedodd: "Mae HMIP wedi cydnabod tri pheth allweddol sy'n cefnogi cynnydd:

  •  Ymrwymiad arweinwyr i wneud i newid go iawn ddigwydd
  • Arweinyddiaeth a staff sydd bellach yn gweithio mewn ffyrdd profedig fel tîm a gyda phartneriaid fel yr heddlu, addysg, iechyd a phrawf; a
  • Dadansoddiad gwell o'r gwaith sy'n cael ei wneud a'r canlyniadau i blant

"Ond yn fwy na dim, mater o helpu staff sy'n gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys yn y gymuned, yw dod o hyd i'r ffyrdd gorau o weithio gyda phlant a'u teuluoedd. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau i gael canlyniadau da i gymunedau, y rhai gafodd niwed a'r plant eu hunain."

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd y Cynghorydd Huw Thomas, cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, Charles Janczewski, yr is-gadeirydd ac Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru:  "Mae'r arolygiad hwn yn dangos i ni fod plant yng Nghaerdydd sy'n mynd i drafferthion nawr yn cael eu herio'n well a'u cefnogi i wella eu cyfleoedd bywyd a bod dioddefwyr trosedd yn cael eu cefnogi'n well.

"Llongyfarchwn bawb sydd wedi gweithio i gyflawni'r gwelliant hwn, yn enwedig wrth iddo gael ei gynnal yn ystod y ddwy flynedd o uchafswm effaith COVID.

"Mae'r adroddiad hefyd yn atgyfnerthu ein dadansoddiad ein hunain bod y sylfeini nawr yn iawn a bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld gwelliant sylweddol pellach."

Bydd yr adroddiad newydd, sy'n cynnwys nifer o argymhellion, gan gynnwys annog y GCI i ganolbwyntio sylw ar wella ansawdd gwaith achos gwaredu llys, nawr yn llywio strategaeth ddiwygiedig ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd fydd yn cael ei lansio ym mis Medi ac sy'n deillio o farn plant, staff, partneriaid a chynghorwyr.

Gair i’r Golygydd

Darperir gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd gan: Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd

Sefydliadau Aelod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd yw: Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, C3SC, Llywodraeth Cymru, Heddlu De Cymru (tîm lleol), Comisiynydd Heddlu a Throsedd, De Cymru, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru