Back
Dros 40 mlynedd o gyfnewid ieuenctid gyda Stuttgart

3/8/2022
 
Dros 40 mlynedd o gyfnewid ieuenctid gyda Stuttgart

A group of people posing for a photo on a mountainDescription automatically generated with medium confidence

Mae pobl ifanc sy'n defnyddio Gwasanaeth Ieuenctid Gogledd Trelái a darpariaeth Gwasanaethau Ieuenctid ehangach Caerdydd, wedi cychwyn ar eu cyfnewid ieuenctid gyda Chanolfan Ieuenctid Stamheim yn Stuttgart am 41fed tro.

Bydd y grŵp o wyth plentyn 13-17 oed, yn treulio 10 diwrnod yn archwilio Awstria, yn mwynhau gweithgareddau dan do ac awyr agored yn ogystal ag ymweliadau ag Amgueddfa Mercedes Benz a pharc thema.

Meddai'r Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cynghorydd Peter Bradbury; "Fel person ifanc fy hun, roeddwn i'n arfer mynychu Canolfan Ieuenctid Gogledd Elái ac mae'n braf clywed am y cyfle cyffrous hwn sefyn rhoi profiadau gwerthfawr a chofiadwy i bobl ifanc, ac efallai na fydd ganddyn nhw fynediad atynt fel arfer.

"Mae Caerdydd wedi ei gefeillio â Stuttgart ers blynyddoedd lawer gyda'r berthynas rhwng ein dwy ddinas yn parhau'n gryf.  Wrth i Gaerdydd a Stuttgart barhau i groesawu teithiau cyfnewid ieuenctid, mae hyn yn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, ennill sgiliau newydd a meithrin cyfeillgarwch."

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ewch i:www.cardiffyouthservices.wales/cy/