Back
Angen Gwarcheidwaid Coed i helpu i ofalu am goed sychedig Caerdydd

04.08.22
Diolch i’r llu o wirfoddolwyr parod, mae 20,000 o goed newydd wedi cael eu plannu yng Nghaerdydd ers yr hydref diwethaf fel rhan o raglen eang iawn i blannu coed gyda'r nod o gefnogi bioamrywiaeth a chynyddu canopi coed y ddinas o 18.9% i 25%.

Ond mae angen tipyn o ddŵr ar goed newydd i oroesi ac mae'r tywydd poeth diweddar wedi arwain Cyngor Caerdydd i ofyn i fwy o drigolion ddod yn 'Warcheidwaid Coed' i helpu i ofalu am y coed, a gofalu am y miloedd ohonynt sydd ar ochrau strydoedd y ddinas.

Meddai Chris Engel, Rheolwr Prosiect Coed Caerdydd: "Ar y cyfan fe allwch chi weld pan mae coeden wedi’i dadhydradu drwy edrych ar ei dail - os ydyn nhw'n dechrau gwywo, os yw’r dail yn felyn, neu os yw’n colli dail, yna mae’n arwydd sicr bod angen ychydig o ddŵr arni.

"Bydd coed bob amser yn elwa ar gael ychydig o ddŵr bob dydd - mae angen mwy o ddŵr ar y rhai mwy o faint rydyn ni wedi'u plannu - ond mewn gwirionedd bydd unrhyw beth yn helpu, yn enwedig yn gynnar yn y bore neu gyda'r nos ar ôl i’r tymheredd ostwng. Fel hynny mae llai o ddŵr yn cael ei golli i anwedd.

"Mae hyd yn oed coed hŷn yn dioddef pan fo glawiad mor isel ag y bu'n ddiweddar a byddem yn gofyn i drigolion feddwl am y coed allai fod wedi bod yn sefyll ar y stryd y tu allan i'w tŷ am genedlaethau ac unrhyw rai rydym wedi eu plannu ar y strydoedd yn ddiweddar. Yn sicr ar gyfer coed newydd mae’r haf hwn yn addo bod yn weddol heriol.

"Mae llawer o'n gwirfoddolwyr eisoes yn ein helpu drwy gadw llygad ar y coed sydd wedi cael eu plannu yn eu cymdogaeth, ond rydyn ni am i gymaint o goed â phosib ffynnu, fel y gallant ddechrau gwneud yr holl bethau rhyfeddol rydyn ni'n gwybod eu bod yn eu gwneud. Po fwyaf o warcheidwaid coed sydd gennym yn gweithio gyda ni, y mwyaf o goed y bydd gennym yr hydref nesaf, a'r gynharaf y gallwn ni i gyd ddechrau elwa."

Mae'r coed a blannwyd dros y chwe mis diwethaf yn cynnwys coed ffrwythau megis afalau, cyll, gellyg ac eirin a choed sydd ddim yn ffrwytho fel gwernen, ffawydden, oestrwydden a cherddinen. Gyda'i gilydd maen nhw'n cwmpasu ardal o dir sy'n cyfateb i 11.2 o gaeau pêl-droed.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae'r ymateb cymunedol i brosiect Coed Caerdydd wedi bod yn anhygoel. Mae'r diolch i wirfoddolwyr ar draws y ddinas fod yna newid sylweddol wedi bod yn nifer y coed a blannwyd dros y tymor diwethaf.

"Rydyn ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni, ond mae rhoi dŵr i 20,000 o goed yn waith enfawr, a bydd unrhyw gymorth pellach y gall trigolion ei roi dros yr wythnosau nesaf o wir fudd i'r coed, ac i'n hymdrechion i wneud Caerdydd yn ddinas Un Blaned."

Bydd tîm Coed Caerdydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau di-dâl, addas i deuluoedd yr haf hwn i ddathlu byd natur. Bydd y digwyddiadau'n cynnwys amrywiaeth o weithdai ar bynciau gan gynnwys:

  •  adnabod coed
  • helfeydd chwilod, a
  • sesiynau codi sbwriel

Bydd gwybodaeth ar gael am wirfoddoli gyda Choed Caerdydd ac adnoddau cyfoethogi byd natur ar gyfer grwpiau cymunedol, a bydd cyfle hefyd i ddweud eich dweud ar safleoedd posibl ar gyfer plannu coed yn ystod y tymor nesaf (Hydref 2022-Mai 2023).

Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal yn:

  •  Hyb STAR, Dydd Gwener, 5 Awst (3-5pm)
  • Hyb yr Eglwys Newydd, Dydd Sadwrn, 6 Awst (1-3pm)
  • Hyb Llanisien, Dydd Gwener, 12 Awst (10am-12pm)
  • Llyfrgell Pen-y-lan, dydd Gwener, 12 Awst (1-3pm)
  • Castell Coch, Dydd Sadwrn, 13 Awst (9am-3pm)
  • Pafiliwn Butetown, Dydd Gwener, 19 Awst (10am-2pm)
  • Parc Maitland, Dydd Gwener, 19 Awst (11am-4pm)
  • Llyfrgell Ganolog, Dydd Mawrth, 30 Awst (2pm)
  • Hyb Y Tyllgoed, Dydd Sadwrn, 10 Medi (10am-3pm)

Cysylltwch â coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk os hoffech chi fynychu neu ddod yn warcheidwad coed.

Sut i guro'r cyfnod sych – a rhoi dŵr i'r coed a'r planhigion!

 
Ar ôl y Gorffennaf sychaf ers bron i ganrif a'r posibilrwydd o amodau sych yn ymestyn i fis Awst, mae arbed dŵr yn flaenoriaeth. Ond mae 'na ffyrdd o wneud i'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio fynd ymhellach... a helpu natur yn y broses

  • Mae gwastraff llwyd yn golygu unrhyw ddŵr cartref gwastraff sydd ddim yn cael ei ystyried yn garthion (dŵr toiled wedi'i fflysio). Felly, mae hyn yn golygu dŵr golchi llestri, dŵr o beiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri a’r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio i gael cawod neu ymolchi. Fel arfer, gall dŵr llwyd gynnwys cemegau niweidiol ond bydd defnyddio cynhyrchion 'gwyrdd' fel Ecover a Bio-D yn cyfyngu ar effeithiau negyddol eu defnyddio i ddyfrio planhigion
  • Os oes gennych system hidlo dŵr llwyd, gwych! Os nad oes, wedi i chi gasglu eich dŵr llwyd, efallai trwy bwynt casglu trwy bwynt draenio allanol, gadewch iddo sefyll am ddiwrnod fel y gall micro-organebau ddechrau dirywio’r cynhwysion actif hyn a gall halogyddion suddo i'r gwaelod
  • Mewn tywydd poeth, gall pathogenau ddatblygu yn y dŵr llwyd os caniateir iddo sefyll yn rhy hir felly defnyddiwch ef ar gyfer planhigion addurnol neu goed yn hytrach na llysiau, er enghraifft. Bydd y dŵr sy'n cael ei ddefnyddio i olchi llysiau yn iawn ond mae angen bod yn ofalus gyda dŵr o farbeciw
  • Peidiwch â dyfrio planhigion yn uniongyrchol gyda dŵr llwyd. Rhowch botyn planhigyn yn y pridd ger y planhigion ac arllwys y dŵr llwyd i mewn iddo felly gall y micro-organebau dorri i lawr yn y pridd a
  • Pheidiwch byth â rhedeg dŵr llwyd drwy bibell ddŵr na systemau chwistrellu

Am fwy o awgrymiadau ynghylch dŵr llwyd, ewch i http://www.reuk.co.uk/wordpress/water/greywater/