Back
Disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi yng nghanolfan addysg Caerdydd

05.08.22
Mae adroddiad ar safonau yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Bryn Y Deryn yng Nghaerdydd wedi darganfod bod staff wedi creu "amgylchedd dysgu braf llawn anogaeth” lle mae disgyblion yn teimlo eu bod “yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr".

Mae'r adroddiad, gan Estyn - yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru - yn nodi nifer o ganfyddiadau cadarnhaol ynglŷn â’r UCD, sy'n darparu gwersi academaidd, galwedigaethol a datblygiad personol i 74 o ddisgyblion rhwng 14 ac 18 oed.

Mae gan yr holl ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ond nodwyd yng nghrynodeb yr adroddiad fod y staff yn gwybod eu hanghenion “yn arbennig o dda” a’u bod yn meddu ar y sgiliau i’w cefnogi i wneud cynnydd, yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. "O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da pan maen nhw'n ymuno â'r UCD," meddai.

Ymhlith y gweithgareddau a gynigir i ddisgyblion ym Mryn y Deryn mae celf a dylunio, astudiaethau cyfrifiadurol, coginio, llythrennedd emosiynol, meithrin perthynas a hyfforddiant camddefnyddio sylweddau ac mae’r cymwysterau a dyfarniadau sydd ar gael yn cynnwys Lefelau Mynediad, BTECs, Gwobrau Lefel 1 a 2, TGAU a Safon UG, Astudiaethau Galwedigaethol BTEC, dyfarniad Arweinyddiaeth Chwaraeon a chyfranogiad yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin.

"Mae disgyblion yn cael amrywiaeth o gyfleoedd yn yr UCD," meddai'r adroddiad, "ac mae'r profiadau hyn yn caniatáu i ddisgyblion ennill cymwysterau sy'n cefnogi eu camau nesaf yn dda."

Ymhlith y pethau cadarnhaol eraill sy'n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad mae:

  •  Mae nifer o ddisgyblion yn gwrando'n astud ar staff ac ar eu cyfoedion ac yn dilyn cyfarwyddiadau'n hyderus
  • Mae nifer yn datblygu sgiliau darllen priodol ac yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu annibynnol yn raddol
  • Mae eu sgiliau creadigol yn gryfder nodedig ac mae'r gwaith celf a gynhyrchir gan ambell ddisgybl o "ansawdd eithriadol", yn cael ei adlewyrchu yn eu canlyniadau TGAU.  "Mae eu gwaith celf yn cael ei arddangos yn falch ar draws adeiladau'r UCD," meddai'r adroddiad

Cafodd ymagwedd yr UCD at les ymhlith disgyblion hefyd ei ganmol fel "rhagorol". Ychwanegodd: "Mae ymddygiad o safon uchel iawn... gydag achosion o fwlio yn brin. Mae llawer o ddisgyblion yn gwella eu hymddygiad, eu hyder a'u gwydnwch o ganlyniad uniongyrchol i'r gefnogaeth fugeiliol ac ymyriadau arbenigol."

Oherwydd y pandemig, nid yw cyfraddau presenoldeb yr ysgol rhwng 2020 a 2022 yn rhan o adroddiad Estyn gydag ymyriadau’r UCD ar ddisgyblion sy'n absennol yn gyson “yn cael fawr ddim effaith". Nodwyd hefyd yn yr adroddiad, "nid yw’r cofnod presenoldeb bob amser yn gywir".  Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod arweinwyr ysgolion wedi cydnabod yr angen i wella sgiliau Cymraeg ail iaith pob disgybl.

Canmolodd Estyn ymrwymiad ac ymroddiad pennaeth yr UCD sy'n "gwerthfawrogi lles staff". Mae effaith hyn, meddai, yn amlwg yn y lefelau uchel o ymddiriedaeth rhwng y staff a’r disgyblion."

Mae perthynas waith dda hefyd rhwng yr UCD a Chyngor Caerdydd, yn enwedig drwy'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12.  Wedi'i gynllunio'n wreiddiol fel mesur tymor byr, mae'r UCD bellach wedi sicrhau cyllid mwy hirdymor iddi barhau.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Caerdydd ei bod wrth ei bodd gyda'r sylwadau cadarnhaol a wnaed gan Estyn yn yr adroddiad.  "Dylai Bryn y Deryn fod yn falch iawn o'r arolwg," meddai. "Mae darparu addysg anghenion dysgu ychwanegol yn heriol iawn ond mae'r staff, dan arweiniad y pennaeth, yn gwneud gwaith gwych ac wedi creu amgylchedd dysgu diogel a phositif.

"Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod bron bob un disgybl yn cyflawni amrywiaeth o achrediadau mewn meysydd sy'n adlewyrchu eu galluoedd a'u diddordebau a bod llawer sy'n gadael Cyfnod Allweddol 4 yn symud ymlaen i fyd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth."

Dywedodd Fiona Simpson, pennaeth yr UCD:  "Mae dysgwyr, staff, rhieni/gofalwyr a phwyllgor rheoli Bryn y Deryn ac Uned Cyfeirio Disgyblion Canolfan Carnegie yn hynod o falch o'r adroddiad cadarnhaol hwn.  Roedd yn brofiad heriol ar ddiwedd cwpl o flynyddoedd anodd oherwydd Covid ond mae'n dangos yn glir ymroddiad y staff a bod ethos a diwylliant gwych yr ysgol yn cael ei amlygu gan y dysgwyr.

"Rydyn ni'n credu mai ni yw'r ysgol gyntaf i gael adroddiad gan Estyn yn sôn yn uniongyrchol am ein cefnogaeth wych i gefndir LHDTC+ dysgwyr ac rydym yn falch iawn o hyn.

"Gofynnwyd i Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie greu astudiaeth achos i Estyn yn seiliedig ar y systemau trawma rhagorol a'r effaith y maent wedi'i chael ar yr ysgol a dysgwyr."

Er mwyn darllen yr adroddiad llawn gan Estyn, dilynwch y ddolen hon: https://www.brynyderynpru.co.uk/post/estyn-report-may-2022