Back
Tymor Ysgol newydd yn dod â help ariannol ar gyfer hanfodion ysgol.


1/9/2022

O fis Medi, bydd dysgwyr cymwys yng Nghaerdydd yn derbyn cymorth ariannol ychwanegol gan gynllun Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru (Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad) sy'n helpu gyda chost gwisg ysgol, offer chwaraeon, deunydd ysgrifennu, a dyfeisiau. Mae hyn yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim.

Yr wythnos diwethaf, datgelodd ymchwil gan Sefydliad Bevanfod y rhan fwyaf o Gymry yn torri'n ôl ar eitemau hanfodol oherwydd costau byw cynyddol.[2]Wrth i'r tymor newydd nesáu, mae Cyngor Caerdydd yn annogrhieni i wneud cais am y gefnogaeth mae ganddyn nhw hawl iddi.

Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae hyd at 40% o ddysgwyr sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn colli allan ar gymorth ychwanegol sydd ar gael iddynt.  Eleni, mae Caerdydd wedi ymrwymo i helpu rhieni a gofalwyr i fanteisio ar yr arian y mae ganddynt hawl iddo.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Bydd llawer o bobl yn teimlo effeithiau'r argyfwng costau byw presennol ond i rai teuluoedd mae'r effaith yn llawer iawn mwy.  Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw'r wasgfa ariannol yn rhwystr i addysg. Mae ein timau wrth law i sicrhau bod y rhieni hynny sydd ei angen fwyaf yn cael yr help y mae ganddynt hawl iddo.

"Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol, ac rwy'n annog unrhyw un sy'n credu y gallen nhw fod yn gymwys i gysylltu, fel y gallant gael y gefnogaeth gywir drwy gydol y flwyddyn ysgol."

Os ydych chi'n deulu â phlantnad ydyntyn cael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd a bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Cyngor Caerdydd eich cefnogi. I gadarnhau a ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (cPYADd) a Hanfodion Ysgol (GDD - Mynediad) sy'n cynnwys cefnogaeth ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau, ewch iPrydau Ysgol am Ddim (caerdydd.gov.uk)

 

Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu alw draw yn un o'n Hybiau

Os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hawl hefyd i help ychwanegol drwy Hanfodion Ysgol (GDD - Mynediad).I gael mynediad i'r cynllun eleni, ewch i

Grant Datblygu Disgyblion (Y Grant Gwisg Ysgol yn flaenorol) (caerdydd.gov.uk)

Mae nifer o ysgolion yng Nghaerdydd yn rhedeg cynlluniau ailgylchu gwisg ysgol a chynhelir mentrau gwisg ysgol eraill ledled y ddinas fel yr elusen A Better Fit.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddpobdysgwyr cynradd yng Nghymru yn cael Pryd Ysgol am Ddim fel rhan o'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno dros y tair blynedd nesaf gan ddechrau gyda'r dysgwyr ieuengaf.  Bydd pob plentyn mewn Dosbarth Derbyn yn cael Prydau Ysgol am Ddim o fis Medi eleni.

Mae'r polisi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob dysgwr cynradd dros y tair blynedd nesaf. Am fwy o wybodaeth, ewch iDarganfod mwy am brydau ysgol am ddim | LLYW.CYMRU.

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o gymorth i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â phwysau costau byw. Mae hyn yn cynnwys cymorth i gael bwyd, cyngor ar filiau tanwydd y gaeaf, cymorth gydag ôl-ddyledion rhent a llawer mwy. Rydym yn annog unrhyw un sy'n cael anawsterau ar hyn o bryd i gysylltu â'n Tîm Cyngor Ariannol ar 029 2087 1071, e-bostiohybcynghori@caerdydd.gov.uk, galw i mewn i unrhyw Hyb neu ymweld âwww.caerdydd.gov.uk/costaubyw

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 


[1]Bevan Foundation Snapshot of Poverty Report, July 2022

[2]Adroddiad Tlodi Sefydliad Bevan, Gorffennaf 2022