Back
Datgladdu camlas gyflenwi’r dociau ar Ffordd Churchill

08/09/22

 

Mae'r gamlas gyflenwi'r dociau o dan Ffordd Churchill wedi ailymddangos - gyda'r gwaith o dynnu 69 o drawstiau concrit 7.5 tunnell sy'n gwahanu'r gamlas oddi wrth y ffordd gerbydau yn mynd rhagddo.

 

Bydd 70 metr o'r gamlas yn cael ei ddatgelu'n llawn erbyn diwedd yr wythnos nesaf, gyda gwaith ar y gweill i adeiladu dwy bont droed ar draws y gamlas, fel rhan o'r cynllun.

 

Roedd y gamlas gyflenwi'r dociau ar Ffordd Churchill yn gwasanaethu Camlas Morgannwg, a oedd yn 25 milltir o hyd ac yn cysylltu Merthyr Tudful a Chaerdydd - ac roedd yn dod â dur a haearn i lawr i'r ddinas. Roedd y gamlas yn dod â dŵr i'r dociau ym Mae Caerdydd, er mwyn sicrhau y gallai'r dociau weithredu 24 awr y dydd, hyd yn oed pan roedd y llanw'n isel.

 

Gorchuddiwyd y gamlas rhwng 1948 a 1950 pan gaewyd Camlas Morgannwg, ac mae bellach yn cael ei datgladdu fel rhan o uwchgynllun ehangach i greu Cwr y Gamlas fywiog newydd yn nwyrain y ddinas.

 

Bydd ailymddangosiad y gamlas yn creu cynefin dŵr newydd yng nghanol y ddinas gyda gofod cyhoeddus glas/gwyrdd, a gerddi glaw i reoli draeniad dŵr wyneb. Bydd seddi awyr agored newydd mewn steil amffitheatr hefyd yn cael eu cyflwyno, ynghyd ag ardal berfformio awyr agored.

 

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i adeiladu llwybr beicio newydd ar Rodfa'r Orsaf gyda phalmentydd lletach a chyfleusterau croesi gwell, a chyffordd newydd well rhwng Stryd Adam a Ffordd Churchill.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Bydd agor camlas gyflenwi'r dociau a'r cynllun trafnidiaeth newydd nid yn unig yn creu canolfan ardal newydd ar gyfer y ddinas ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad newydd, ond hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli llif traffig a draeniad dŵr wyneb yng nghanol y ddinas.

 

"Bydd cyfres o erddi glaw yn cael eu hadeiladu, gyda phridd a phlanhigion penodol sy'n trin y dŵr wyneb a chael gwared ar lygryddion cyn i'r dŵr lifo i mewn i'r gamlas. Bydd hyn yn sicrhau bod 3,700 m2o ddŵr yn cael ei ddargyfeirio o'r system garthffosiaeth bob blwyddyn, gan leihau cost ac ynni trin dŵr drwy'r orsaf bwmpio carthion ym Mae Caerdydd."

 

Mae'r prosiect hwn yn rhan o gynllun meistr ehangach i ddatblygu ardal newydd yn y ddinas, gan gysylltu Heol y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford a Lôn y Barics i greu datblygiad defnydd-cymysg, dwysedd uchel gan ddenu cartrefi, gwestai, lletygarwch, swyddfeydd o ansawdd uchel, unedau hamdden a manwerthu.