Back
Trefniadau ar gyfer Proclamasiwn Brenhinol y Brenin Siarl III yng Nghaerdydd

09.09.22
Mae trefniadau wedi’u gwneud ar gyfer cynnal digwyddiad cyhoeddus allweddol yng Nghymru yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elisabeth.

Bydd Proclamasiwn y Brenin newydd yn cael ei gynnal ddydd Sul yng Nghastell Caerdydd am hanner dydd pan fydd Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol yng Nghymru fel y brenin newydd.

Cyn y Proclamasiwn, bydd Gwarchodlu’r Proclamasiwn yn cynnwys 26 o ddynion 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol, gyda chefnogaeth Band y Cymry Brenhinol ac yng nghwmni'r masgot catrawd, yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas am 11.25am ar hyd Boulevard de Nantes, Heol y Gogledd a Heol y Dug i Gastell Caerdydd. Bydd rhai ffyrdd ar gau.

Yn y castell, bydd Herodr Arbennig Arfau Cymru, Tom Lloyd, yn gwneud y Proclamasiwn yn Saesneg ac fe fydd Arglwydd Raglaw De Morgannwg, Morfudd Meredith, yn cyhoeddi'r Brenin Siarl yn Gymraeg.

Cynhelir y seremoni ym mhresenoldeb Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Arglwydd Faer Caerdydd, y Gwir Anrhydeddus y Cynghorydd Graham Hinchey, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Syr Robert Buckland.

Ar ôl darllen y Proclamasiwn, bydd aelodau o 104 Catrawd (Casnewydd) y Magnelwyr Brenhinol yn tanio salíwt 21 gwn cyn canu Duw Gadwo’r Brenin a Hen Wlad Fy Nhadau.

Mae croeso hefyd i aelodau’r cyhoedd fynychu’r digwyddiad. Bydd gatiau i'r castell yn agor am 10am ond dim ond lle i tua 2,000 o bobl fydd, a bydd y mynediad ar sail y cyntaf i'r felin.

Daw'r seremoni ar ôl i Gaerdydd chwarae rhan allweddol yn ymateb Cymru i farwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines, a gafodd ei chyhoeddi brynhawn ddoe.

Heddiw am 1pm, taniodd y 104 Catrawd salíwt 96 gwn – oedd yn cynrychioli bob blwyddyn o'i bywyd – yng Nghastell Caerdydd ac am 2pm agorodd yr Arglwydd Faer ac arweinydd y Cyngor lyfrau cydymdeimlo yn Neuadd y Ddinas. Bydd y rhain yn parhau ar agor i'r cyhoedd rhwng 9am a 5pm bob dydd, tan 5pm ar ddiwrnod yr Angladd Gwladol.

Mae llyfrau cydymdeimlo ar agor hefyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac ar-lein yn www.Royal.UK.

Gellir gosod teyrngedau blodau er cof am y Frenhines ar y lawntiau bob ochr i brif fynedfa Neuadd y Ddinas rhwng 9am a 5pm.

Bydd baneri ar adeiladau’r Cyngor, sydd ar hyn o bryd ar eu hanner, yn cael eu codi unwaith ddydd Sadwrn, 10 Medi, am 11am i gyd-fynd â Darlleniad o Brif Broclamasiwn y brenin newydd yn Llundain a Salíwt 21 Gwn Brenhinol yng Nghastell Caerdydd am 11am ar yr un diwrnod. Gall y cyhoedd fynychu'r salíwt. Bydd y castell yn agor am 10am, ond dim ond lle i tua 2,000 o bobl fydd - eto, ar sail y cyntaf i'r felin.

Bydd baneri yn dychwelyd i hanner mast am 1pm ddydd Sul wedi'r Proclamasiwn yng Nghaerdydd.