Back
Caerdydd i ddod yn Lanach a Gwyrddach gyda strategaeth ailgylchu newydd


22/9/22
 
Gallai newidiadau i'r ffordd y mae trigolion Caerdydd yn ailgylchu eu gwastraff gael eu cyflwyno ar draws rhannau helaeth o'r ddinas mewn ymgais i wella cyfraddau ailgylchu a gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Mae'r argyfwng hinsawdd yn achosi i ddinasoedd ar draws y byd newid faint o ynni ac adnoddau maen nhw'n eu defnyddio, felly yn ogystal â gwella faint rydyn ni i gyd yn ei ailgylchu, bydd y strategaeth newydd hefyd yn ceisio lleihau'r swm cyffredinol o wastraff rydyn ni i gyd yn ei gynhyrchu, ac ail-weithgynhyrchu ein deunyddiau wedi'u hailgylchu fel y gellir eu haddasu at ddibenion gwahanol a'u defnyddio eto.

Mae'r strategaeth ailgylchu newydd yn dilyn y 'glasbrint' a ddyluniwyd gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid sydd wedi gweld Cymru yn dod y drydedd genedl orau yn y byd o ran ailgylchu. Mae llawer o awdurdodau yng Nghymru eisoes wedi dechrau casgliadau ailgylchu ar wahân, gan weld lefelau uchel o gydymffurfiaeth ymysg y cyhoedd a gwell cyfraddau ailgylchu. 

Yn gynharach eleni fe wnaeth tua 4,000 o gartrefi yn y ddinas gymryd rhan yn y peilot lle bu rhaid i ddinasyddion wahanu'r deunydd y gellir eu hailgylchu a'u gosod mewn cynwysyddion penodol i'w casglu. Poteli a jariau mewn un cynhwysydd, papur a chardbord mewn cynhwysydd arall, a phlastig a metel / tun mewn trydydd cynhwysydd.

Ac yn gynharach eleni fe wnaeth dros 3,000 o drigolion gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar sut y gellid newid casgliadau gwastraff i wella cyfraddau ailgylchu, gwella ansawdd yr ailgylchu, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau plastig untro, a helpu i wneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd ailgylchu mwyaf blaenllaw yn y byd.

Mae dadansoddiad annibynnol diweddar gan WRAP o wastraff cyffredinol a gyflwynir i'w gasglu wrth ymyl y ffordd yng Nghaerdydd wedi dangos y gallai dros hanner cynnwys y bagiau a'r biniau gael ei gyflwyno i'w ailgylchu mewn gwirionedd. 

Nawr, bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod Strategaeth Ailgylchu ar gyfer y ddinas hyd at 2025 yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 28 Medi,  sy'n argymell:

  • Cyflwyno'r cynllun peilot yn raddol i gartrefi mewn mwy o rannau o'r ddinas.
  • Llunio cynlluniau peilot pellach i ddatblygu ffyrdd o sicrhau bod pobl sy'n byw mewn blociau o fflatiau neu Dai Amlfeddiannaeth yn gallu ailgylchu'n well (tua 30% o gartrefi'r ddinas).
  • Cynyddu nifer yr eitemau y gellir eu cyflwyno wrth ymyl y ffordd ac mewn lleoliadau ailgylchu cymdogaethol, er mwyn helpu trigolion  i ailgylchu pethau fel batris; pecynnau (cartonau) Tetra; podiau coffi; tecstilau ac eitemau trydanol bach yn hawdd; a
  • Threialu dulliau i gyfyngu ar swm y gwastraff cyffredinol y gall aelwydydd ei gyflwyno i'w gasglu, gan gynnwys symud i gasgliad bob tair wythnos ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu mewn ardaloedd lle mae trigolion â biniau olwynion, a chyfyngiad o ddau fag bob pythefnos mewn ardaloedd lle mae gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu mewn bagiau. Bydd casgliadau ar wahân ar gyfer gwastraff hylendid (cewynnau plant a gwastraff anymataliaeth) yn parhau i fod ar waith.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Caerdydd: "Er mwyn gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd mae angen i ni wneud newidiadau ar frys i sut mae'r ddinas yn defnyddio adnoddau. Mae gwella'r ffordd rydyn ni'n ailgylchu yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud ac mae'n un o'r ffyrdd hawsaf o wneud gwahaniaeth. Rydym hefyd yn credu y bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i gadw ein dinas yn lân"

Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn rhoi cymysgedd o'u deunydd ailgylchu mewn bag plastig gwyrdd i'w gasglu gan y Cyngor. Mae hwn wedyn yn cael ei gymryd i gyfleuster ailgylchu deunyddiau lle mae'r deunyddiau'n cael eu gwahanu cyn cael eu hanfon i'w hailgylchu a'u prosesu. Fodd bynnag, mae'r dull hwn yn arwain at lefel uchel o halogiad, ac mae deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu fel bwyd a chewynnau yn cael eu rhoi yn y bagiau gwyrdd sy'n effeithio ar allu'r Cyngor i ailgylchu deunyddiau. Ac mae'r dull casglu hwn hefyd yn cynhyrchu lefel uchel o blastig untro (y bagiau gwyrdd) sy'n wael i'r amgylchedd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Wrth gynnal y peilot fe welon ni ganlyniadau cadarnhaol iawn. Gostyngodd halogiad o gyfartaledd o 30% i ddim ond 6%. Roedd y system yn ymddangos yn haws i bobl ddeall ac wrth gwrs roedd yn cael gwared ar yr angen am fagiau plastig untro gwyrdd. Roedd pawb ar eu hennill o ran gwella cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff plastig diangen. Ar hyn o bryd mae nifer y bagiau gwyrdd rydym yn eu cyflenwi i aelwydydd Caerdydd bob blwyddyn - 23.7 miliwn - bron yn ddigon i'w lapio o amgylch y blaned pe byddent i gyd ar un rholyn enfawr.  Mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni roi diwedd arno."

Yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mae'r Strategaeth Ailgylchu wedi'i llunio i roi mesurau ar waith fydd yn helpu'r ddinas i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ac osgoi cosb ariannol. Er bod lefelau ailgylchu Caerdydd ymhlith y gorau o unrhyw ddinas fawr yn y DU ac yn Ewrop mae hi dal i fod y tu ôl i holl awdurdodau lleol eraill Cymru. Roedd perfformiad ailgylchu yn 2021/22 tua 60% sy'n golygu bod y ddinas wedi methu â chyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 64% sy'n rhwymol yn gyfreithiol. Fe allai methu cyrraedd y targed o 64% arwain at gosb ariannol.

Targed Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw sicrhau perfformiad ailgylchu o 64% rhwng 2019/20 a 2023/24. Mae hyn yn cynyddu i berfformiad ailgylchu o 70% o 2024/25 ymlaen.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Caerdydd yn darparu casgliadau gwastraff bwyd wythnosol, casgliadau bagiau gwyrdd wythnosol ar gyfer deunydd ailgylchu cymysg, casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos yn yr haf, casgliadau gwastraff gweddilliol bob pythefnos, casgliadau hylendid bob pythefnos (ar gais), a chasgliadau gwastraff swmpus (ar gais).

Mae'r strategaeth yn edrych ar sut y gellir gwella'r ffigurau ailgylchu, gan symud o ailgylchu deunydd cymysg i ailgylchu deunydd ar wahân; defnyddio sachau/cadis y gellir eu hailddefnyddio yn lle'r bagiau plastig untro gwyrdd; cynyddu cyfleoedd i ailgylchu'n hawdd mewn cymdogaethau lleol, gan gynyddu'r ystod o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd, hyrwyddo ailddefnyddio ac atgyweirio a gwella perfformiad ailgylchu gwasanaeth gwastraff Masnach y Cyngor.

Mae tua 30% o eiddo yng Nghaerdydd yn cynnwys fflatiau a thai a rennir neu Dai Amlfeddiannaeth. Yn gyffredinol, mae gan y mathau hyn o eiddo lefel uwch o ddiffyg cyfranogiad mewn ailgylchu a lle mae ailgylchu'n digwydd, mae lefelau uchel o halogiad o fewn yr ailgylchu deunydd cymysg. Mae'r strategaeth yn argymell datblygu cynlluniau peilot i fynd i'r afael â'r heriau gwahanol i ailgylchu sy'n wynebu'r eiddo hyn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Rydyn ni'n gwybod bod nifer o heriau yn ein hwynebu. Rydyn ni'n byw mewn dinas fawr gyda stoc dai amrywiol, poblogaeth fyrhoedlog, cyfran uchel o fusnesau a digwyddiadau ar raddfa fawr, sydd i gyd yn dod â gwastraff ychwanegol. Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni'n gwybod y gallai ansawdd ein hailgylchu fod yn llawer gwell. Ni ddylai bron i draean o'r deunydd sy'n cael ei gasglu yn ein bagiau gwyrdd fod yno ac mae'r rhain yn cael eu hanfon i'w llosgi ar hyn o bryd. Ac mae gwastraff bwyd a deunydd ailgylchadwy a ddylai fod mewn cadi bwyd neu fagiau gwyrdd yn cyrraedd ein biniau a bagiau du.

"Rydyn ni ar drothwy argyfwng hinsawdd, gyda chanlyniadau difrifol i ddynoliaeth a chenedlaethau'r dyfodol ar draws y byd, gan gynnwys Caerdydd. Mae'r broses o orboethi atmosffer y blaned wedi cael ei achosi gan bobl, y defnydd anghynaladwy o adnoddau'r Ddaear, ac yn enwedig gan yr allyriadau carbon cysylltiedig.  Ni sy'n achosi'r holl wastraff rydyn ni'n ei roi y tu allan i'n cartrefi. Mae'n elfen weledol iawn o'n hôl troed hinsawdd, yn enwedig wrth ystyried cylch oes y deunyddiau, o ble maen nhw wedi dod, a sut y cawsant eu cynhyrchu. Gallwn ymfalchïo bod Cymru'n chwarae rhan arweiniol wrth ddylunio a gweithredu rhai o'r strategaethau ailgylchu a gwastraff mwyaf cynaliadwy yn y byd ac ar hyn o bryd ni yw'r drydedd genedl orau ar gyfer ailgylchu yn fyd-eang. Mae Caerdydd hefyd yn perfformio'n dda mewn perthynas â dinasoedd craidd eraill y DU, ond y tu ôl i awdurdodau eraill yng Nghymru o ran ein perfformiad ailgylchu. Mae angen i ni i gyd nawr wneud ein rhan i wella'r ffordd rydyn ni'n ailgylchu a lleihau faint o wastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu.

"Y ffaith yw ein bod ni'n llosgi deunyddiau gwerthfawr, ac fel Cyngor, yn syml, ni allwn barhau i gasglu gwastraff wedi'i gyflwyno'n anghywir ar stepen drws pawb. Mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb ar y cyd am y deunyddiau rydyn ni'n eu cynhyrchu. Mae ffordd llawer mwy cynaliadwy o reoli ein gwastraff, sy'n lleihau ein hôl troed carbon yn helaeth, ac yn parchu adnoddau gwerthfawr y ddaear. Gallwn leihau'r swm a ddefnyddiwn, gan ail-ddefnyddio lle bynnag y gallwn, ac yna gwahanu ein deunyddiau ailgylchu fel y gellir eu haddasu at ddibenion gwahanol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu economi gylchol, lle rydym yn rheoli'r gwastraff yn iawn fel adnodd gwerthfawr. Think refuse, reduce, re-use, repair, repurpose, recycle.

"Rydyn ni wedi ymgynghori â thrigolion ynglŷn â system newydd, ac rydym wedi cynnal treialon. Rydyn ni'n gwybod bod cefnogaeth ar draws y ddinas i wneud y newidiadau hyn, ond rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi y gallai'r newidiadau achosi anghyfleustra i rai. Fodd bynnag, mae'r strategaeth hon yn darparu llwybr i ni i gyd wneud newidiadau cadarnhaol er lles ein planed. Mae angen i bawb gefnogi'r strategaeth a chefnogi ein gilydd ar ein ffordd i ddod yn ddinas lanach, fwy cynaliadwy.

 

Pwyntiau allweddol Strategaeth Ailgylchu Caerdydd hyd at 2025

 

Rhaglen newid raddol i gynnwys:

Parhau i symud o ailgylchu cymysg mewn bagiau plastig gwyrdd i ailgylchu wrth ymyl ffordd mewn cynwysyddion ar wahân

Lleihau'r 23.7m o fagiau plastig gwyrdd untro rydyn ni'n eu defnyddio bob blwyddyn

Treialu dulliau newydd o ailgylchu mewn fflatiau a Thai Amlfeddiannaeth

Treialu dulliau newydd o gyfyngu ar gasgliadau gwastraff cyffredinol (biniau du) gan gynnwys casgliadau bob tair wythnos o bob pythefnos ac i ddau fag y pythefnos i'r rheiny sy'n cyflwyno bagiau ar hyn o bryd

Gwella cyfleoedd i ailgylchu (parthau ailgylchu yn y gymuned)

Cynyddu nifer y deunyddiau y gellir eu hailgylchu (cewynnau, podiau coffi ac ati)

Hyrwyddo ailddefnyddio ac atgyweirio er mwyn gwella ailgylchu

Glanhau'r stryd ar yr un diwrnod a gorfodaeth lymach ar ôl casgliadau.