Back
Annog y Cyngor i godi prisiau Cerbydau Hacni

23/09/22


Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynlluniau i gynyddu prisiau cerbydau hacni gan rhwng 18% a 41% ar deithiau o fewn y ddinas, ond mae am ystyried cynnig amgen gan gwmni tacsi blaenllaw cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

Mae'r cynnydd, a gynigiwyd gan Gabinet Cyngor Caerdydd ym mis Mehefin, ac a osodwyd mewn ymateb i'r cynnydd mewn costau tanwydd a cheir ail law, gydag ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 11 a 25 Gorffennaf.

 

Yn y cyfnod hwnnw, mae'r cyngor wedi derbyn 226 o lythyrau cefnogi, wedi'u arwyddo'n unigol ond union yr un fath, gan yrwyr Caerdydd trwyddedig, ac un gwrthwynebiad - gan Dragon Taxis yng Nghaerdydd, oedd â chynnig gwahanol.

 

Yn y llythyrau cefnogi, honnodd gyrwyr fod y fasnach mewn "sefyllfa argyfyngus oherwydd pwysau chwyddiant sydd wedi taro... yn galetach nag mewn diwydiannau eraill." Ychwanegodd bod llawer o yrwyr wedi gadael eu gwaith, gan feio'r cynnydd o 61% mewn costau disel rhwng Mawrth 2018 a Gorffennaf eleni a'r cynnydd o 32% ym mhris cyfartalog ceir ail law rhwng Ebrill 2021 ac Ebrill 2022.

 

"Mae gan lawer o yrwyr Hackney wedi rhoi'r gorau iddi," dywed y llythyr, "oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu ennill digon o arian i fyw arno ar ôl treuliau. Os nad yw'r cynnydd yn cael ei weithredu mae ein masnach yn mynd i ddirywio ymhellach a bydd llai o dacsis Hackney ar gael."

 

O dan y cynnig newydd - fydd yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 28 Medi - byddai prisiau tocynnau yn codi gan wahanol gyfraddau yn dibynnu ar hyd y daith, amser y dydd a diwrnod yr wythnos.

 

Byddai'r pris uchaf am daith 10 milltir rhwng 5am ac 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn cynyddu gan 18.1%, o £20.40 i £24.10. Byddai'r un pellter ar nosweithiau yn ystod yr wythnos (8pm-10pm) a rhwng 5am a 10pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yn costio £26,70, sef cynnydd o 30.1% ar y tâl presennol o £20.40. Ar unrhyw ddiwrnod rhwng 10pm a 5am, a thrwy'r dydd ar Wyliau Banc, byddai taith 10 milltir yn codi gan 41.6%, o £21.40 i £30.30.

 

Yn nhabl cynghrair yr awdurdodau lleol am brisiau dwy filltir, mae Caerdydd ar hyn o bryd yn safle rhif 161 (£6) ond byddai'r codiad arfaethedig i £7.50 yn golygu y byddai yn safle rhif codi i 45ain o blith 358 o ardaloedd cyngor.

 

Yn eu cynnig gwahanol, sy'n awgrymu cynnydd o 13.43% ar gyfartaledd fesul taith, dywedodd Dragon Taxis eu bod yn cynrychioli dros 800 o yrwyr sydd wedi'u trwyddedu gan Gyngor Caerdydd. "Cydbwysedd rhwng yr hyn sy'n deg i yrwyr a'r hyn y gall teithwyr ymdopi ag e fu'r conglfaen i ni," dywed y cwmni.

 

"Rydym hefyd o'r farn hirdymor bod rhaid ystyried y cynnydd yn y tariff yn ofalus i beidio 'cosbi' teithwyr yn annheg i'r graddau y bydd yn effeithio'n sylweddol ar y galw gan deithwyr."

 

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, Y Cynghorydd Dan De'Ath: "Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r cynnydd mewn prisiau tanwydd a cheir ail law wedi'i chael ar y fasnach cabiau trwyddedig ac yn y meysydd hyn mae'r cynnydd wedi bod yn uwch o lawer na chyfradd safonol chwyddiant.

 

"Ond mae'n rhaid i ni gydbwyso tystiolaeth o gostau cynyddol a thegwch i yrwyr ac ystyried y cwsmer."

 

Yn yr adroddiad i'r Cabinet, mae aelodau wedi cael cais i benderfynu rhwng y cynnig gwreiddiol neu fabwysiadu'r awgrym gwahanol gan Dragon Taxis ac i osod 8 Hydref fel y dyddiad pan ddaw'r newidiadau i rym. (i'w gadarnhau)