Back
Cyngor i wella amddiffynfeydd llifogydd Caerdydd

23/09/22

Mae disgwyl i system amddiffyn rhag llifogydd sydd wedi'i chynllunio i amddiffyn eiddo yn ne-ddwyrain Caerdydd rhag cynnydd yn lefelau'r môr am y 100 mlynedd nesaf, gael ei chymeradwyo gan Gyngor Caerdydd.

 

Bydd gwaith adeiladu'r cynllun, y bydd 85% ohono'n cael ei dalu  gan Lywodraeth Cymru, a Chyngor Caerdydd yn cyfrannu'r 15% sy'n weddill, yn dechrau'n gynnar y flwyddyn nesaf, a'i gwblhau erbyn Awst 2025.

 

pan fydd yn gyflawn, disgwylir iddo gynnwys:

  • Rhwystr creigiog ar hyd yr arfordir i reoli erydiad a llanw uchel
  • Pyst seiliau haenog ar hyd cylchfan Ffordd Lamby
  • Argloddiau pridd wedi'u cynnal, ac
  • Amddiffyniad creigiog i Bont Ffordd Lamby

 

Ac fe fydd:

  • Yn rheoli'r risg o lifogydd i 1,116 o eiddo preswyl a 72 eiddo di-breswyl, ynghyd â safle teithwyr Ffordd Rover
  • Darparu amddiffyniad yn erbyn digwyddiad tywydd garw unwaith-mewn-200 mlynedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer effeithiau newid hinsawdd
  • Ymhen 50 mlynedd (hanner oes y prif amddiffynfeydd) bydd arglawdd pridd ym Mharc Tredelerch yn cael ei gynyddu a bydd wal llifogydd yn cael ei chodi yng Ngerddi Windsor, ar gost y Cyngor, yr amcangyfrifir y bydd yn £3.15m pan gaiff ei adeiladu

 

Pan gynigiwyd y cynllun gyntaf ym mis Mehefin 2021, amcangyfrifwyd y byddai'r gost arfaethedig yn is na'r sefyllfa bresennol. Mae adroddiad sy'n mynd gerbron Cabinet y Cyngor ddydd Mercher nesaf, 28 Medi, yn egluro bod y cynnydd oherwydd bod angen amddiffynfeydd arfordirol mwy o faint a bod angen amddiffyn darnau hirach o Afon Rhymni a'r cynnydd yng nghost deunyddiau ar draws y byd ac agweddau cysylltiedig â'r gwaith.

 

Nod y cynllun yw cael cyn lleied o effaith â phosibl ar fywyd gwyllt ac mae'n cynnwys darparu llwybr cerdded newydd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru a chysylltu â hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bod eisoes.

 

Croesawodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, yr adroddiad.

 

"Fel dinas arfordirol, mae Caerdydd mewn perygl oherwydd llifogydd, yn enwedig gan fod lefel y môr yn codi a stormydd yn dod yn fwy cyffredin," meddai.

 

"Yn amlwg mae angen i ni flaenoriaethu cryfhau ein hamddiffynfeydd llifogydd ar hyd y glannau, yn enwedig gan fod eiddo preswyl mewn ardaloedd sydd mewn perygl.

 

"Mae angen i'r ddinas hefyd weithredu'n gyflym ac o ddifri wrth ymuno â'r ymdrechion byd-eang i arafu newid hinsawdd ar frys. Bydd angen i hyn gynnwys ymdrechion gan y cyngor, busnesau a phob un ohonom wrth i ni geisio lleihau faint o garbon rydyn ni'n ei gynhyrchu."

 

Mae swyddogion y Cyngor wedi argymell bod cynghorwyr yn cymeradwyo'r cynlluniau, ymrwymo i gyfrannu 15% o'r gost ac i roi'r hawl i swyddogion fwrw ymlaen â'r gwaith.