Back
Ffyrdd fydd wedi cau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 2 Hydref

26/09/22


Wrth i Hanner Marathon Caerdydd gael ei gynnal Ddydd Sul 2 Hydref, mae disgwyl i'r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly gofynnir i drigolion ac ymwelwyr gynllunio ymlaen llaw a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.

Ddydd Mercher 28 Medi, bydd y ffyrdd canlynol wedi cau yn y Ganolfan Ddinesig er mwyn gosod a chlirio pentref y digwyddiad.

O 5am Ddydd Mercher 28 Medi tan hanner dydd Ddydd Mawrth 4 Hydrefbydd Heol y Coleg ar gau o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Rhodfa'r Brenin Edward VII (gellir cael mynediad tan 6am Ddydd Sadwrn 01 Hydref.)

O 5am Ddydd Iau 29 Medi tan ganol Ddydd Mawrth 4 Hydrefbydd Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau i'r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas. Bydd mynediad i fusnesau a gwasanaethau brys yn cael ei ganiatáu hyd at Ddydd Sadwrn 1 Hydref.

Bydd y ffyrdd canlynol wedi cau o 5am Ddydd Gwener 30 Medi tan ganol nos Ddydd Sul 2 Hydref:

 Rhodfa'r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o'r gyffordd â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)

 Rhodfa'r Amgueddfa o'r pen caeedig â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Gerddi'r Orsedd

Heol Gerddi'r Orsedd

Heol Neuadd y Ddinas o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Heol y Gogledd.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a 12 hanner dydd Ddydd Sul 2 Hydref:

 Heol y Gogledd i'r de o'r gyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â'r A4161

 Yr A4161 o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin,

 Ffordd y Brenin o'r gyffordd â'r A4161 i'r gyffordd â Heol y Dug

 Heol y Dug a Stryd y Castell

 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan.

Bydd y ffyrdd canlynol wedi cau rhwng 6am a 10.45am Ddydd Sul 2 Hydref:

Heol y Gogledd o'r gyffordd â Heol Colum i'r gyffordd â Boulevard de Nantes (ceir mynediad i'r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett, tua'r gogledd ar hyd Heol y Gogledd).

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm:

Heol Colum

Plas-y-Parc o'r gyffordd â Maes St Andrew i'r gyffordd â Heol Colum.

Ar Ddydd Sadwrn 1 Hydref a Dydd Sul 2 Hydref, hwylusir y trefniadau mynediad canlynol:

Mynediad yn unig i Beatty Avenue o'r gyffordd â Heol Ogleddol y Llyn (gan gynnwys Gerddi Jellicoe, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)

Bydd mynediad i ac o Sgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli o Heol y Gogledd / Heol Corbett.

Lady Mary Road o'r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Llyn

Ddydd Sul 2 Hydref, fe fydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn eu tro o 8.30am tan 3.10pm i hwyluso llwybr y ras

Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Neville Street

Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange

 Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa'r Harbwr a Roald Dahl Plas

Plas Bute, Rhodfa Lloyd George a Stryd Herbert

Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Heol Windsor

 Stryd Adam, Plas Fitzalan yn mynd ar draws Heol Casnewydd

 Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany

Heol Marlborough, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian

 Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn - bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank tan bo Heol y Dderwen Deg yn ailagor, pan geir mynediad eto drwy'r brif fynedfa.

  • Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa'r Amgueddfa.

Os caiff y ras ei chwblhau'n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.

Bydd y giât fysiau ar Heol y Porth yn cael ei atal dros gyfnod y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar 2 Hydref.