Back
Cyngor Caerdydd yn ennill Aur mewn Cynllun Adnabod Cyflogwr Amddiffyn

26/09/22


Mae Cyngor Caerdydd wedi ennill y wobr aur yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn Llywodraeth y DU.


Mae'r Cynllun Adnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) yn annog cyflogwyr i gefnogipwysigrwydd  amddiffyniad ein gwladac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.Rhoddir gwobrau efydd, arian ac aur i sefydliadau sy'n addo, dangosneu'n eirioli cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog ac sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd gyda Chyfamod y Lluoedd Arfog.


Gwobr Aur ERSyw'r anrhydedd fwyaf sydd ar gael, ac i gyflawni hyn, rhaid i sefydliadaufodloni rhestr helaeth o gyflawniadau megis arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan ddangos cymwysterau sy'n gyfeillgar i'r lluoedd yn rhagweithiol a helpu pobl sy'n gadael y lluoedd arfog i bontio i gyflogaeth.


Fel Cyngor, rydym yn arwyddwr balch Cyfamod y Lluoedd Arfog ac wedi ymrwymo i gefnogi cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a holl gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd ac o fewn ein sefydliad. Mae gan y Cyngor bolisïau Adnoddau Dynol cefnogol yn eu lle ac maent yn darparu gwyliau ychwanegol i luoedd wrth gefn. Mae gan y Cyngor hefyd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog sy'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol a Help for Heroes i gefnogi cyn-filwyr yn ein cymuned drwy'r Gwasanaeth Cynghori i Gyn-filwyr.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:"Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn 'Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn' uchel ei bri. Mae Cyngor Caerdydd yn ymdrechu i gefnogi aelodau o'r lluoedd arfog, y gorffennol a'r presennol, a'u teuluoedd, yn ein sefydliad a'r gymuned ehangach ac rydym yn falch o'r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog."

Dywedodd Leo Docherty, y Gweinidog Amddiffyn: "Waeth beth fo'u maint, lleoliad, neu sector, mae cyflogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn dda i fusnesau. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod y gefnogaeth ragorol a roddir i'n lluoedd arfog gan gyflogwyr ledled Prydain a hoffwn ddiolch a llongyfarch i bob un ohonynt."

Mae 12 cyflogwr yng Nghymru ymhlith 156 sydd wedi'u dyfarnuâ Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwr y Weinyddiaeth Amddiffyn.