Back
Arian ar gael i weithredwyr bysus ddarparu bysus trydan newydd ar gyfer y ddinas

08/10/22

Cyn hir fe allai Caerdydd gael hyd yn oed mwy o fysus trydan yn gweithredu ledled y ddinas diolch i grant gwerth £8 miliwn sydd wedi'i gynllunio i sicrhau cerbydau glanach ar ein strydoedd.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn gwneud penderfyniad yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 20 Hydref, a fyddai'n caniatáu i weithredwyr bysus wneud cais am arian Llywodraeth Cymru i helpu i gynyddu nifer y bysus trydan sy'n gweithredu yng Nghaerdydd.

Fe allai pob cwmni bysus sy'n gweithredu yng Nghaerdydd gael y cyfle i wneud cais am yr arian.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd am weld pob bws sy'n gweithredu yng Nghaerdydd yn cynhyrchu dim allyriadau erbyn 2035.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Fe osododd y cyngor ei Strategaeth Fysus fis Tachwedd y llynedd. Rydym am gynyddu nifer y bobl sy'n teithio ar fysus yng Nghaerdydd ac mae ein strategaeth yn anelu at wneud hyn drwy:

  • Gyflwyno prisiau rhatach;
  • Gweithio gydaTrafnidiaeth Cymrui ddatblygu system docynnau integredig sy'n gweithio gyda'r Metro a BeiciauOVO;
  • Cael mwy o fysiau allyriadau isel ar y rhwydwaith;
  • Adeiladu'r seilwaith a fydd yn gwneud teithio ar fysus yn haws ac yn gynt; a
  • Gwella profiad y cwsmeriaid.

"Mae'r Cyngor wedi ymgysylltu â holl weithredwyr bysus Caerdydd i roi gwybod iddyn nhw am y cyfle cyllido cyffrous hwn. Os bydd y cabinet yn cytuno, byddwn yn defnyddio'r adborth hwn gan y gweithredwyr bysus i osod meini prawf y broses ymgeisio a chael y cerbydau trydan newydd hyn i'r rhwydwaith cyn gynted â phosib."

Ym mis Ionawr 2022, gweithiodd y cyngor gyda Chynllun Bysus Allyriadau Isel Iawn yr Adran Drafnidiaeth i helpu i gefnogiBws Caerdyddi ddod â 36 o fysus trydan newydd yn ei fflyd. Fe wnaeth yr Adran Drafnidiaeth sicrhau bod £5.7 miliwn ar gael drwy'r cynllun.

Ychwanegodd y Cynghorydd De'Ath: "Rydyn ni i gyd yn gwybod erbyn hyn pa mor bwysig yw hi i'n hiechyd i wella ansawdd yr aer. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod angen i ni leihau'r defnydd o geir preifat os ydym am leddfu tagfeydd. Mae gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy deniadol a hyfyw yn allweddol i'n helpu ni i wneud hynny. Rydyn ni eisiau gwneud teithio ar fws yn gyflymach, yn rhatach ac yn haws i'r cyhoedd ei ddefnyddio yn y ddinas ac o'i chwmpas.

"Drwy weithio gyda gweithredwyr bysus a gwneud y defnydd gorau o'r holl gyfleoedd ariannu sydd ar gael mae'r cyngor hwn yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu'r fasnach i symud tuag at fysus trydan glanach, heb allyriadau."

Bydd pob gweithredwr bysus yn cael amserlen ar gyfer y broses ymgeisio, gyda dyddiad cau wedi'i osod ar gyfer cyflwyno costau terfynol i Gyngor Caerdydd erbyn mis Hydref 2023. 