Back
Cam arall ymlaen i gynlluniau am ffordd gyswllt a phont newydd dros Afon Rhymni

11/10/22



Mae cynlluniau ar gyfer pont newydd i greu cyswllt uniongyrchol o Lanrhymni i'r A48 yng nghyffordd Pentwyn wedi cymryd cam ymlaen, gyda chais am ganiatâd gan Gabinet Cyngor Caerdydd i ymrwymo i gontract cyfreithiol gyda'r datblygwr i adeiladu'r seilwaith newydd.

Bydd adroddiad ar y bont a'r ffordd gyswllt newydd - sy'n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd - yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ar Hydref 20.

Fel rhan o'r datblygiad bydd ffordd gyswllt a phont newydd yn cael eu hadeiladu dros Afon Rhymni gan gysylltu Llanrhymni â'r safle Parcio a Theithio a'r A48. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i drigolion lleol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn rhoi mynediad arall i yrwyr i mewn i'r ddinas ac yn creu cyfleoedd am swyddi.

Mae ymgynghoriad wedi digwydd ar werthu a datblygu tri darn o dir i ariannu'r ffordd gyswllt a'r bont newydd, gyda chyllid ychwanegol ar gael trwy gyfraniadau Adran 106, sy'n gyfraniad gan ddatblygwr tuag at seilwaith cymunedol,er mwyn sicrhau bod beicffordd i'r ddau gyfeiriad yn cael ei hadeiladu dros y bont newydd.

Mae'r tir fydd yn cael ei werthu yn cynnwys y tir ger Neuadd Llanrhymni, oddi ar Ball Road, y mae cae chwarae Clwb Rygbi Llanrhymni arno ar hyn o bryd. Caiff swm sylweddol o'r ardal werdd o flaen Neuadd Llanrhymni ei chadw, ond cytunwyd i ail-leoli'r cae chwarae i dir oddi ar Mendip Road nad yw'n addas i gael ei ddatblygu.

Yn ogystal â chreu cae newydd i Glwb Rygbi Llanrhymni, bydd y cynllun hefyd yn cynnwys creu cae glaswellt newydd i Glwb Pêl-droed Llanrhymni, caeau bach a chlwb newydd sbon ac ystafelloedd newydd i'r ddau dîm eu defnyddio.  Bydd clybiau lleol yn gallu defnyddio, ar gyfraddau cymunedol, ardal chwaraeon newydd o'r radd flaenaf sy'n cael ei chreu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar safle cyfredol caeau chwarae Prifysgol Caerdydd.

Hefyd, ar y tir sy'n cael ei werthu gan y Cyngor, bydd canolfan logisteg ar y safle ar bwys yr A48 fydd yn creu swyddi newydd yn yr ardal. Cedwir yr holl fannau parcio a theithio sydd ar gael ar hyn o bryd. Hefyd bydd 170 o gartrefi newydd ar y tir oddi ar Ball Road a Ball Lane, y bydd tua 80 ohonynt yn dai Cyngor newydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Ar hyn o bryd mae'r holl draffig cymudo sy'n teithio i ganol y ddinas o wardiau Llanrhymni, Tredelerch, Trowbridge ac i ryw raddau Llaneirwg yn gorfod defnyddio Heol Casnewydd sy'n peri tagfeydd sylweddol yn ystod yr oriau brig. 

"Bydd y seilwaith newydd hwn yn gwella dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus i drigolion lleol o'r diwedd.  Bydd yn creu cyswllt uniongyrchol â'r cyfleuster Parcio a Theithio lle bydd lôn fysus ddynodedig i fynd â phobl yn syth i ganol y ddinas ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â beicffordd i'r ddau gyfeiriad.  O ganlyniad bydd pobl yn cyrraedd y gwaith yn gyflym, bydd teithiau mewn ceir yn llawer byrrach a bydd llai o dagfeydd.

"Bydd y cynllun hefyd yn helpu i ysgogi buddsoddiad mewn cyfleusterau cymunedol. Caiff y clybiau lleol yn yr ardal gyfleusterau newydd a gwell a bydd hefyd modd iddynt ddefnyddio ardal chwaraeon newydd Llanrhymni ar gyfraddau cymunedol. 

"Er mwyn sicrhau y gall y gwaith datblygu symud yn ei flaen, mae angen i ni addasu tir yn yr ardal at ddibenion gwahanol.  Mae hyn yn cynnwys rhyddhau tir sy'n addas ar gyfer datblygu tai a rhoi cyfleusterau lleol ar dir nad yw'n addas ar gyfer datblygu tai.

"Caiff yr arian a godir trwy werthu'r safleoedd hyn ei glustnodi i adeiladu'r bont a'r ffordd gyswllt newydd a bydd yn ariannu'r cyfleusterau chwarae newydd, gan ddod â buddsoddiad y mae ei angen yn fawr i'r ardal."

Gofynnir i Gabinet Cyngor Caerdydd a all y Cyngor ymrwymo i gontract cyfreithiol gyda'r datblygwr, i adeiladu'r bont a'r ffordd gyswllt newydd, yn amodol ar brisiad annibynnol.