Back
Cyngor i weithredu i gadw canolfannau hamdden ar agor yng nghanol yr argyfwng ynni

Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried ffyrdd y gall helpu i gynnal gwasanaethau canolfannau hamdden y ddinas yn wyneb costau ynni cynyddol.

Ar hyn o bryd, y fenter gymdeithasol GLL sydd â'r contract i redeg 8 canolfan hamdden Caerdydd, sy'n eiddo i'r cyngor, gan arbed £3.5m i'r awdurdod lleol mewn cymorthdaliadau blynyddol ar gyfer y cyfleusterau.

Ond mae costau ynni cynyddol yn golygu bod y sefydliad dielw bellach yn wynebu colled sylweddol y flwyddyn nesaf ar ben dwy flynedd lle cafodd y pandemig effaith fawr ar fusnes. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Mae'r heriau sy'n wynebu GLL yng Nghaerdydd wedi'u hefelychu ar draws diwydiant hamdden y DU, ac rydym eisoes wedi gweld straeon mewn ardaloedd eraill am brisiau'n cynyddu'n sylweddol, neu wasanaethau'n cael eu torri a chyfleusterau'n cau - yn enwedig pyllau nofio sy'n costio cymaint i'w gwresogi. Dydyn ni ddim am ddilyn y trywydd hwnnw ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gynnal gwasanaethau presennol i drigolion trwy weithredu i leddfu effaith andwyol prisiau ynni cynyddol a rhoi mesurau mwy hirdymor ar waith i sicrhau cynaliadwyedd y contract GLL."

Er bod GLL wedi gweld tua 90% o'r incwm yn dychwelyd ers i'r pandemig ddod i ben, mae costau ynni cynyddol yn golygu eu bod yn disgwyl diffyg gweithredol sylweddol yng Nghaerdydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

Yn sgil yr heriau hyn mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn argymell cymeradwyo, mewn egwyddor:

  • Taliad rhyddhad wedi'i gapio i GLL i helpu i wrthbwyso'r cynnydd mewn costau ynni.
  • Gweithio i alluogi GLL i gael mynediad at ynni ar yr un cyfraddau is â'r Cyngor drwy Wasanaeth Masnachol y Goron.
  • Datblygu strategaeth i ddisodli'r seilwaith ynni ym mhob safle i ddarparu ynni adnewyddadwy cost is.

O ystyried bod GLL yn darparu gwasanaeth ar ran y Cyngor, bydd y Cyngor yn archwilio a oes modd cysylltu GLL â chonsortiwm ynni'r sector cyhoeddus a fyddai'n galluogi GLL i elwa o gostau ynni is a sicrhawyd drwy bŵer prynu ynni swmp yr awdurdod lleol.

Mae'r awdurdod lleol hefyd yn awyddus i edrych ar sut y gallai uwchraddio'r canolfannau hamdden fel y gallent fanteisio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy fel PV solar, gwynt, a phympiau gwres o'r ddaear/ffynhonnell aer. Byddai angen adolygiad llawn o'r seilwaith a'r anghenion ynni presennol ym mhob un o'r 8 cyfleuster hamdden. Byddai hefyd angen datblygu modelu ar gyfer pob canolfan er mwyn deall effaith technoleg adnewyddadwy ar gostau gweithredu.  Er y byddai angen talu costau sylweddol ymlaen llaw i weithredu unrhyw atebion newydd, byddai'r cyngor yn ceisio ariannu unrhyw newidiadau drwy gynlluniau'r llywodraeth a grantiau sydd wedi'u cynllunio i helpu'r broses o drosglwyddo i garbon sero.

Yn dilyn cyngor cyfreithiol annibynnol, mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu dull diwygiedig o gyflwyno cynigion ar gyfer Canolfan Hamdden Pentwyn. Mae pwysau cost sy'n cael eu teimlo ar draws y sector adeiladu wedi oedi cynlluniau i uwchraddio'r cyfleuster, ond mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r prosiect. Byddai'r cynigion newydd yn golygu bod canolfan wedi'i moderneiddio yn parhau o fewn y contract GLL, gyda GLL yn rhedeg y cyfleusterau cymunedol a rhan o'r adeilad yn cael ei rhentu'n ecsgliwsif i Rygbi Caerdydd. Pe bai'r cynigion newydd yn cael eu cymeradwyo mewn egwyddor, byddent wedyn yn destun achos busnes llawn.