Back
Hawliau newydd i denantiaid wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ddod i rym


13/10/22 

Bydd un o newidiadau mwyaf y sectorau tai rhent cymdeithasol a phreifat yn cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gael ei rhoi ar waith.

 

Daw'r Ddeddf i rym ar 1 Rhagfyr 2022 a bydd yn berthnasol i gynghorau, cymdeithasau tai, tai cymorth a llety preifat ac mae goblygiadau mawr iddi, gan gynnwys rhoi mwy o ddiogelwch i denantiaid a rhoi cyfrifoldebau newydd ar landlordiaid.

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod goblygiadau'r Ddeddf newydd i'r Cyngor yn ei gyfarfod ddydd Iau 20 Hydref ac argymhellir ei fod yn cymeradwyo'r dull arfaethedig o weithredu'r newidiadau sydd eu hangen, gan gynnwys cyflwyno 'contractau meddiannaeth' newydd i holl denantiaid y Cyngor a newidiadau i weithdrefnau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd.

 

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ailenwi awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn 'landlordiaid cymunedol', a thenantiaid yn 'ddeiliaid contract'
  • Sicrhau bod gan ddeiliaid contract hawl i ddeufis o rybudd o unrhyw gynnydd mewn rhent
  • Rhoi hawliau olyniaeth gwell i ddeiliaid contract.  Dan y ddeddfwriaeth newydd, bydd hyd at ddwy olyniaeth yn cael eu caniatáu
  • Ymestyn hawliau i gyd-denantiaid a fydd yn gallu gadael eiddo heb ddod â chontract i ben ac ychwanegu tenantiaid newydd os yw perthynas yn torri i lawr, er enghraifft, ac mae un partner yn gadael yr eiddo
  • Rhoi pŵer i gynghorau adfeddiannu eiddo gadawedig heb orchymyn llys
  • Cyflwyno safon atgyweirio sy'n nodi sut i benderfynu a yw eiddo'n addas i bobl fyw ynddo

Yn y sector rhent preifat, sy'n chwarae rhan sylweddol yn strategaeth dai'r Cyngor i wella mynediad i gartrefi fforddiadwy, bydd yn rhaid i landlordiaid nawr roi chwe mis o rybudd o'r ffaith y byddant yn troi eu deiliaid contract allan. Ond ni ellir rhoi'r rhybudd hwn o fewn chwe mis cyntaf y contract, gan olygu i bob pwrpas y gall deiliad contract nad yw'n torri'r contract fyw'n ddiogel am 12 mis.

 

Mae'r adroddiad ar y Ddeddf newydd yn cydnabod y gallai rhai landlordiaid preifat gael eu hysgogi i adael y farchnad rent oherwydd y mesurau newydd.  I wrthsefyll unrhyw golled bellach o lety o'r fath ac o ganlyniad yr effaith ar wasanaethau digartrefedd, mae cymorth yn cael ei roi i landlordiaid preifat i'w helpu i ddeall gofynion y Ddeddf newydd ac i addasu iddynt. Un ffordd y mae'r Cyngor yn ceisio cefnogi landlordiaid yw trwy gynnig prydlesu eu heiddo a chymryd drosodd y materion rheoli sy'n aml yn gymhleth ac yn gysylltiedig â rhentu eiddo.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae'r Ddeddf newydd yn golygu newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae'r Cyngor, fel landlord cymunedol, yn gosod tai ac yn rheoli ei eiddo.

 

"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau fel landlordiaid o ddifrif ac yn croesawu'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan y ddeddfwriaeth.

 

"Rydym hefyd yn cydnabod y rôl fawr y mae landlordiaid preifat yn ei chwarae wrth ddarparu tai a lleddfu digartrefedd yn y ddinas ac rydym wedi datblygu amrywiaeth o fentrau i annog landlordiaid i aros yn y farchnad a chynnig eu heiddo i'w defnyddio gan gleientiaid digartref neu gan eraill sydd angen tai."

 

Er mwyn cefnogi landlordiaid preifat ymhellach, mae Cyngor Caerdydd yn cyflawni Cynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun hwn yn darparu gwasanaeth rheoli tenantiaeth a thrwsio llawn a ddarperir gan Gyngor Caerdydd, a all gynnwys cymorth gan ein gwasanaethau ein hunain gan gynnwys casglu rhent, rheoli tenantiaeth, Cymorth Tai, atgyweiriadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r Cynllun yn rhoi incwm rhent gwarantedig i'r landlord p'un a yw'r eiddo'n cael ei feddiannu ai peidio. Mae grant adnewyddu o £5,000 ar gael i wella'r eiddo, yn gyfnewid am brydles o bum mlynedd o leiaf i'r Cyngor.

 

I ddysgu mwy am gynlluniau prydlesu'r Cyngor ar gyfer landlordiaid yn y sector rhent preifat, ewch iwww.cardiff.gov.uk/LETS

 

I gael newyddion am y Ddeddf Rhentu Cartrefi a hyfforddiant Rhentu Doeth Cymru ar gyfer landlordiaid, ewch ihttps://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/newyddion/