Back
Ehangu cynllun ailgylchu newydd ymyl y ffordd

21/10/22


Mae'r cynllun ailgylchu newydd didoli ar garreg y drws yn cael ei ehangu i 5,000 o eiddo pellach ledled y ddinas, er mwyn gwella ansawdd yr ailgylchu sy'n cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr, cynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas ac ymdrechu tuag at dargedau heriol Llywodraeth Cymru i ailgylchu.

Bydd eiddo penodol mewn wyth ward ar draws y ddinas yn derbyn y gwasanaeth newydd, a bydd pob un o'r trigolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn llythyr yr wythnos nesaf, i'w cynghori am y newidiadau.

Y cynwysyddion newydd y gellir eu hailddefnyddio yw:

Sach goch am blastig a chaniau

Sach las ar gyfer papur a chardfwrdd

Cadi glas ar gyfer poteli a jariau gwydr.

Y dull ailgylchu o fathu wrth ymyl y ffordd yw'r dull y mae Llywodraeth Cymru'n ei ffafrio o gasglu ailgylchu o gartrefi preswylwyr - fel y nodir yn eu Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Mae'r dull hwn o gasglu ailgylchu yn cael ei ddefnyddio gan bron pob awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae wedi helpu i wneud Cymru'n un o'r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd.

Mae'r dull ailgylchu newydd eisoes wedi ei dreialu mewn pedair ward yng Nghaerdydd a'n nod yw cyflwyno'r cynllun newydd ledled y ddinas dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae arwyddion cynnar o'r treialon yn dangos bod ansawdd yr ailgylchu a gasglwyd o gartrefi preswylwyr wedi cynyddu'n aruthrol o'i gymharu â chasglu ailgylchu mewn bagiau gwyrdd. Yn yr ardaloedd prawf, mae'r gyfradd halogi - sef eitemau sy'n cael eu rhoi allan i'w hailgylchu, ond mewn gwirionedd ni ellir eu hailgylchu - wedi gostwng o 30% i 6% yn yr ardaloedd hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd: "Rydym o ddifrif am ein hymrwymiadau ynghylch newid hinsawdd a chawsom ein hethol ar fandad i gymryd camau beiddgar. Mae'r gwastraff a'r ailgylchu rydym i gyd yn ei greu yn rhan o'n hôl troed carbon, a nod y system newydd hon yw lleihau hyn wrth i ni reoli adnoddau gwerthfawr y ddaear mewn ffordd llawer mwy cynaliadwy. Mae angen i ni symud i economi fwy cylchol ble yn lle defnyddio deunyddiau unwaith ac yna eu taflu i ffwrdd, rydym yn ail-ddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu deunyddiau. Byddai hyn nid yn unig yn llawer gwell i'r blaned ond yn creu swyddi gwyrdd wrth i ni ail-weithgynhyrchu ac ail-bwrpasu'r deunyddiau hyn yn lleol.

Hyd yn hyn mae'r trigolion sy'n rhan o'r treialon wedi bod yn wych, ac mae eu hadborth gwerthfawr yn cael ei ddefnyddio i wella'r system wrth i ni ei thyfu."

Mae'r angen i fynd i'r afael â'r Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd yn adnabyddus i drigolion ledled y ddinas, ond gall pawb wneud gwahaniaeth enfawr i leihau ôl troed carbon y ddinas trwy leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu a chompostio cymaint o'u gwastraff â phosib, wrth i ni ymdrechu tuag at fod yn ddinas garbon niwtral erbyn 2030."

Bydd cam nesaf y broses o'i gyflwyno yn cael ei ehangu i 5,000 yn fwy o eiddo, mewn wyth ward ar draws y ddinas ond nid pob eiddo yn y wardiau hyn. Yr ardaloedd yw:

Gorllewin y Mynydd Bychan a Grangetown

Sblot a Rhiwbeina

Radur a Llandaf

Pentwyn a Trowbridge

Bydd hefyd nifer fach o eiddo yn ein rowndiau casglu gwledig, sy'n rhychwantu ar draws nifer o ardaloedd.

Bydd trigolion sy'n rhan o'r cynllun yn derbyn llythyr yr wythnos nesaf i'w cartref (24 Hydref hyd at 28 Hydref) yn amlinellu'r gwasanaeth newydd. Bydd y cynwysyddion newydd yn cael eu cyflwyno o 7 Tachwedd, gyda thaflen fanwl yn egluro sut i'w defnyddio. Bydd staff y cyngor yn gweithio ar y stryd i ymgysylltu â thrigolion am y cynllun i ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw.

Bydd cerbydau pwrpasol newydd yn cael eu defnyddio yn y treialon hyn, gydag adrannau ar wahân i storio'r gwahanol eitemau y gellir eu hailgylchu, felly mae'r deunydd ailgylchadwy yn cael ei wahanu ar ffynhonnell yn hytrach na thrwy broses ddidoli eilaidd.

Bydd trigolion sy'n rhan o'r cynllun estynedig yn cael eu casgliad olaf o wythnos bagiau gwyrdd yn cychwyn ar 21 Tachwedd, gyda'r casgliad cyntaf o ailgylchu yn eu sachau ailddefnyddiadwy yn yr wythnos yn dechrau mis 28 Tachwedd.

Pan fydd y cynllun ailgylchu didoli ymyl y ffordd yn cael ei ehangu i bob eiddo yng Nghaerdydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ni fydd 24 miliwn o fagiau gwyrdd yn cael eu defnyddio mwyach ar gyfer casgliadau gwastraff yn y ddinas, gan leihau'r defnydd o blastig untro yn sylweddol.

Bydd y cyngor yn parhau i fonitro'r cynllun, wrth i ni ei gyflwyno i wahanol wardiau yn y ddinas, i fonitro maint a math y cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio, unrhyw newidiadau i'r gyfradd ailgylchu yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â lefel yr halogi yn y sachau y gellir eu hailddefnyddio. Bydd y cyngor wedyn yn defnyddio'r data yma i wella'r cynllun, wrth i ni barhau i gyflwyno'r cynllun ledled y ddinas.