Back
Diweddariad ar gynnydd ar gyfer datblygu Campws Cymunedol y Tyllgoed


11/11/2022

Mae cynlluniau yn symud ymlaen o ran darparu tair ysgol newydd yng Nghaerdydd a fydd yn rhannu'r un campws yn ardal y Tyllgoed ond, mae'r costau wedi cynyddu yn bennaf oherwydd chwyddiant cynyddol, bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn clywed.

Mae Campws Cymunedol y Tyllgoed yn brosiect arloesol i Gaerdydd a fydd, pan gaiff ei gwblhau, yn gweld Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank, ac Ysgol Woodlands i gyd wedi'u lleoli mewn adeiladau newydd ar un safle pwrpasol

Bydd y campws ar y cyd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael at ddefnydd y gymuned a'r cyhoedd y tu allan i oriau'r ysgol. 

Mae cynlluniau ar gyfer y cynllun ar y gweill, ond yn ei gyfarfod ddydd Iau, 17 Tachwedd, bydd y Cabinet yn clywed sut, yn bennaf oherwydd chwyddiant, mae cost y prosiect wedi cynyddu'n sylweddol.

Bydd adroddiad i'r Cabinet yn argymell rhyddhau arian ychwanegol gan y Cyngor a Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru fel y gall y cynllun barhau heb oedi.

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Caerdydd, fel pob cyngor ar draws y DU, yn profi effaith pwysau chwyddiant sylweddol oherwydd llu o ffactorau, ac nid lleiaf o gynnydd mewn costau materol a llafur.

"Bydd Campws Cymunedol y Tyllgoed yn darparu capasiti y mae mawr ei angen ar gyfer dysgwyr uwchradd a rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r cynllun yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ardal Y Tyllgoed a bydd yn sicrhau dyfodol cyffrous i Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank. Rydym wedi ymrwymo i roi'r prosiect cyffrous hwn i ddarparu cyfleusterau eithriadol, arbenigedd a chyfleoedd addysgu i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol.

"Rwy'n falch o ddweud bod y cynllun yn cynrychioli'r dyluniad a'r ateb gorau ar gyfer addysg disgyblion, yn y byrdymor a'r hirdymor. Bydd gohirio'r prosiect yn dod â risgiau pellach i'r datblygiad ac ni fydd o fudd."

Campws y Tyllgoed yw datblygiad arloesol Caerdydd sy'n gosod y safon ar gyfer prosiectau ysgolion yn y dyfodol. Hwn fydd y campws Carbon Net Sero cyntaf, cwbl weithredol. Bydd hefyd yn targedu gostyngiad sylweddol mewn carbon a ymgorfforir yn ystod cyfnod adeiladu'r prosiect.

Mae hyn yn golygu y bydd y tair ysgol yn adeiladau hynod effeithlon o ran ynni, wedi'u pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan alluogi Caerdydd iweithredu ar ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas iliniaru newid yn yr hinsawdd.

Bydd y Cabinet hefyd yn clywed, yn dilyn datblygiadau dylunio manwl, fod angen rhai newidiadau i'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun hefyd.

Mae hyn yn cynnwys newidiadau i ffurfweddiad adeiladu, trefniadau mynediad i'r safle diwygiedig a threfniadau parcio a darpariaethau Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCDC) sydd eu hangen ar gyfer adeiladau ysgolion dros dro, a fydd ar waith nes y bydd yr ysgol newydd wedi'i chwblhau.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd y byddai ISG yn ymgymryd â'r broses ddylunio ac adeiladu fanwl ar gyfer y cynllun, gan gynnwys yr adeiladau dros dro sy'n gysylltiedig â'r gwaith.

Ar hyn o bryd mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd yn ystyried y cynlluniau ar gyfer y gwaith galluogi, sy'n cynnwys;

  • Ystafelloedd dosbarth a derbynfa symudol, maes parcio dros dro i ysgolion, neuadd chwaraeon, cegin a ffreutur;
  • Llwybr troed dros dro o Heol y Tyllgoed i Rodfa Doyle.
  • Ffens Terfyn;
  • Caeau chwaraeon ac Ardaloedd Chwaraeon Amlddefnydd a ffensio a goleuadau cysylltiedig.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r gwaith galluogi a sefydlu adeiladau ysgol dros dro ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian yn rhan annatod o'r prosiect. Pan fydd adeiladau newydd y tair ysgol wedi'u cwblhau, byddwn ni'n gweld sefydlu campws cyd-addysgol cyntaf Caerdydd. Bydd yn arloeswr ar gyfer Caerdydd, gan arwain y ffordd wrth ddarparu campws addysgol gyda rhinweddau ecogyfeillgar anhygoel, ac yn un a fydd yn gweithio i'r gymuned leol lawn cystal ag y bydd i'w myfyrwyr."

Ymhlith y cynigion ar gyfer prif adeiladwaith y campws newydd mae;

  • Codi adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian yn lle'r rhai presennol ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth mynediad i wyth dosbarth mynediad gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion;
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA), a leolir yn Ysgol Uwchradd Cantonian, i 30 lle mewn adeiladau pwrpasol ar safle newydd yr ysgol;
  • Adleoli Ysgol Woodlands i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r capasiti i 240 o ddisgyblion mewn adeilad newydd;
  • Adleoli Ysgol Riverbank i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r lle i ddarparu ar gyfer 112 o ddisgyblion mewn adeilad newydd.

I ddysgu mwy am Strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd ewch iDdogfen weledigaeth OPC.pdf (oneplanetcardiff.co.uk)

Gall delweddau newid yn dilyn ymgynghoriad a chymeradwyaeth statudol.