Back
Galw am farn ar gynllun cyffrous pont newydd i gerddwyr


 17.11.22

Mae cynlluniau cyffrous ar gyfer pont newydd i feics a cherddwyr dros Afon Taf wedi eu datgelu, rhan o adfywio ehangach ystâd Trem y Môr  Grangetown.

 

Mae'r Cyngor yn dechrau ar waith ailddatblygu gwerth £80 miliwn ar ystâd Trem y Môr yn Grangetown yn lle'r cartrefi presennol sy'n dioddef o ymsuddiant a difrod strwythurol a chreu cymdogaeth werddach, mwy cynaliadwy a mwy deniadol ar gyfer y gymuned bresennol.

 

Fel rhan o'r uwchgynllun a gymeradwywyd gan yr Adran Gynllunio fis Rhagfyr 2021, bydd y bont droed newydd arfaethedig yn darparu cyswllt teithio llesol i gerddwyr a beicwyr rhwng ystâd Trem y Môr, y Marl a'r ardal o amgylch Rhodfa Jim Driscoll ar lan orllewinol yr afon i Barc Hamadryad ar y lan ddwyreiniol.

 

Byddai'r bont yn cynnig cysylltiad pwysig i gymunedau naill ochr i'r afon, gan gysylltu ag ysgolion, parciau, cyfleusterau hamdden a mannau agored yn ogystal â'r rhwydwaith ehangach o lwybrau ar gyfer cerdded a beicio, gan gysylltu â Llwybr y Bae, Llwybr Elái a Thaith Taf Caerdydd

 

Mae hwn wedi bod yn ddyhead allweddol i brosiect Adfywio Trem y Môr i wella cysylltedd yr ystâd ar gyfer y gymuned bresennol a chynnig  llwybr teithio llesol cynaliadwy mwy addas.

 

Mae dyluniadau cysyniadol bellach wedi'u cwblhau ar gyfer y rhan yma o'r prosiect ac mae ymgynghoriad bellach yn mynd rhagddo i glywed barn pobl leol a phartïon â diddordeb er mwyn helpu i lunio'r set derfynol o gynlluniau i'w cyflwyno i gael caniatâd cynllunio'r flwyddyn nesaf. Gellir cyflwyno barn trwy arolwg ar-lein yma https://www.devandregencardiff.co.uk/cy/tai/trem-y-mor-grangetown/ tan 6 Rhagfyr.

 

Cynhelir digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn CF11 Fitness (Canolfan Hamdden Trem y Môr gynt) Ddydd Mercher 23 Tachwedd, 11.30am - 7.30pm lle bydd cyfle gan bartïon â diddordeb i ddysgu mwy am y cynllun, siarad â swyddogion y cyngor am y cynlluniau a rhoi eu barn ar y bont.

 

Cynhelir sesiwn galw heibio lai ei maint i unrhyw un sy'n methu â dod i'r prif ddigwyddiad ymgynghori hefyd yn Hyb Grangetown Ddydd Iau 17 Tachwedd, 12 - 5pm.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Yn ogystal â darparu cartrefi newydd cynaliadwy o ansawdd da ar gyfer preswylwyr presennol ystâd Trem y Môr ac chodi mwy o gartrefi, sydd mawr eu hangen yn y ddinas, rhan allweddol o'n gweledigaeth ar gyfer Trem y Môr yw cynnig gwell cysylltedd i bobl yn yr ardal, gwella'r amgylchedd lleol a chreu mannau cymunedol o ansawdd uchel.

 

"Mae pont newydd ar draws Afon Taf yn rhan bwysig o'r cynlluniau yma, yr ydym wedi bod wedi bod yn siarad yn ei gylch gyda thrigolion yn Nhrem y Môr a phobl a busnesau yn yr ardal ehangach ers nifer o flynyddoedd nawr. Rydym ni ar gamau cynnar y broses gyda'r bont ac yn ddiweddar wedi penodi tîm i ddechrau ei dylunio felly mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl roi eu barn i ni, a gaiff ei fwydo i'r broses honno.

 

"Byddem wrth ein boddau gweld cymaint o bobl â phosib yn y digwyddiad ymgynghori yn CF11 Fitness yn ddiweddarach y mis hwn a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynlluniau i gael dweud eu dweud trwy gwblhau'r ymgynghoriad byr ar-lein."