Back
Gwasanaeth Coffa'r Nadolig yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

Cynhelir Gwasanaeth Coffa Eciwmenaidd y Nadolig yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar ddydd Sul, 11 Rhagfyr, am 2pm.

Mae croeso i unrhyw un ddod i'r gwasanaeth i goffau eu hanwyliaid dros gyfnod y Nadolig.

Bydd y gwasanaeth, a gynhelir gan y Parchedig Lionel Fanthorpe, yn cynnwys nifer o ddarlleniadau, cerddi a charolau'r Nadolig.   Bydd Deborah Morgan Lewis yn arwain y canu a daw'r gwasanaeth i ben tua 3pm.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:   "Mae colli anwylyd bob amser yn anodd iawn, ond gall yr adeg hon yn y flwyddyn fod yn arbennig o heriol. Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfle i bobl o bob ffydd ddod ynghyd a chofio'r rhai sy'n anffodus wedi'n gadael."

Bob blwyddyn mae tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn cefnogi elusen wahanol, ac eleni bydd casgliad er budd Hosbis y Ddinas yn cael ei gynnal yn ystod y gwasanaeth.

Hosbis y Ddinas yw hosbis leol Caerdydd sy'n cynnig gofal lliniarol yn y gymuned i bobl sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, gan eu cefnogi fel y gallant fyw eu bywyd yn eu dewis le, gydag urddas a chysur, a gyda'r rhai sy'n agos atynt yn eu profedigaeth.

Dywedodd Rheolwr Partneriaethau Corfforaethol Hosbis y Ddinas, Nicky Piper, "Rydym yn edrych ymlaen at ein blwyddyn o gefnogaeth gan Amlosgfa Draenen Pen-y-graig, yn enwedig y digwyddiad cyntaf, y Gwasanaeth Cofio ar 11 Rhagfyr. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r math yma o ddigwyddiad o ran caniatáu i deulu a ffrindiau alaru a chofio anwyliaid dros y Nadolig."

Gofal hosbis George Thomas gynt, sefydlwyd Hosbis y Ddinas ym 1984 ac mae wedi gofalu am dros 40,000 o gleifion a'u teuluoedd.

Mae tagiau coffa sydd i'w gosod ar un o'r coed Coffa Nadolig yng Nghwrt Capel y Wenallt yn cael eu gwerthu i gefnogi'r elusen, am roddion o isafswm o £2.00, er cof am anwyliaid.

Bydd y coed yn cael eu gosod yn y cwrt erbyn 11 Rhagfyr, a byddant yn aros yn eu lle tan Ionawr 6, 2023 pan fyddan nhw'n cael eu tynnu lawr yn unol â thraddodiad 'Nos Ystwyll'.