Back
Annog trigolion Caerdydd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyllideb

16/12/22

Gofynnir i drigolion Caerdydd roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau'r Cyngor yn dilyn y newyddion y bydd dal angen i'r awdurdod lleol ddod o hyd i £23.5m er mwyn mantoli'r cyfrifon yn 2023/24, er gwaethaf derbyn cynnydd o 9% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n well na'r disgwyl.

Oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys cynnydd mewn costau ynni, chwyddiant aruthrol, pwysau galwadau a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr sector cyhoeddus eraill, bydd cyllideb y cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio £75m yn fwy y flwyddyn nesaf nag y bydd eleni.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i wneud arbedion a chodi incwm yn agor ddydd Gwener, 23 Rhagfyr ac yn para am tua phum wythnos tan 29 Ionawr. Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd gofyn i drigolion roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau er mwyn helpu pontio'r bwlch.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Yn union fel y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar gyllideb pob cartref ar draws Cymru, mae'r un peth yn wir am bob gwasanaeth y mae'r cyngor yn ei ddarparu. Mae'n golygu bod popeth rydyn ni'n ei wneud, pob gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig nawr yn costio llawer mwy i'w ddarparu.

"Does dim dwywaith bod y cynnydd gwell na'r disgwyl o 9% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn newyddion da. Ychydig ddyddiau yn ôl, roeddem yn edrych ar ddiffyg £53m yn ein cyllideb, ond trwy haelioni Llywodraeth Cymru wrth sicrhau bod mwy o arian ar gael, mae hwn bellach wedi gostwng i £23.5m. Ond mae hyn yn dal i fod yn swm enfawr o arian i ddod o hyd iddo, yn enwedig ar ôl torri tua chwarter biliwn o'n cyllideb dros y deng mlynedd diwethaf.

"Rwyf am i drigolion wybod ein bod eisoes wedi bod yn gwneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol trwy gydol y flwyddyn i baratoi ar gyfer y storm ariannol yr oeddem yn ei gweld yn dod tuag atom, a'r flwyddyn nesaf rydym yn bwriadu gwneud o leiaf £8.5m arall mewn arbedion effeithlonrwydd.

"Er y bydd y dreth gyngor yn codi i helpu i gau'r bwlch, rydym yn gweithio i gadw'r cynnydd hwnnw ymhell islaw'r gyfradd chwyddiant.  Mae pob cynnydd canrannol yn y Dreth Gyngor yn dod â £1.6 miliwn yn unig, felly i osod cyllideb gytbwys bydd angen i ni wneud arbedion sylweddol o wasanaethau a thaliadau incwm.

"Mae'r cynnydd o 9% yn y gyllideb gan Lywodraeth Cymru yn golygu y byddwn ni'n gallu diogelu gwasanaethau pwysig fel gofal cymdeithasol a chyllidebau ysgolion yn well. Rydym yn edrych ar gynyddu cyllidebau ysgolion o £25 miliwn y flwyddyn nesaf, sef cynnydd o 9.2%, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu gwasanaethau cymdeithasol a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae hefyd yn golygu nad oes angen trafod  llawer o'r opsiynau mwy annymunol yr oeddem yn gorfod eu hystyried, o leiaf am y tro, ond rydym yn gwybod bod dewisiadau anodd i'w gwneud o hyd, a dyna pam mae mor bwysig bod trigolion yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a dweud wrthym beth sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw."

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn cyfres o gwestiynau i drigolion am nifer o opsiynau cyllideb, gan gynnwys:

  • Ystyried ffyrdd newydd o weithredu Neuadd Dewi Sant, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, ac Amgueddfa Caerdydd (yn yr Hen Lyfrgell, ar yr Aes) i leihau cymorthdaliadau'r cyngor
  • Lleihau oriau gweithredu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff cartref
  • Cyfyngu ar amserau agor Hybiau a llyfrgelloedd a defnyddio mwy o wirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth
  • Cynyddu tâl preswyl a ffioedd parcio talu ac arddangos
  • Lleihau'r cymhorthdal ychydig ar gyfer oedolion sy'n llogi caeau chwaraeon
  • Cynyddu pris y gwasanaeth claddu ac amlosgi, ond o lawer llai na chwyddiant
  • Cynyddu cost prydau ysgol, er y byddwn yn parhau i roi cymhorthdal i'r gwasanaeth hwn.

Bydd y manylion llawn ar gael i drigolion pan fydd yr ymgynghoriad yn agor ar-lein ar 23 Rhagfyr. Bydd copïau printiedig o'r ymgynghoriad mewn sawl iaith hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd, hybiau ac adeiladau'r cyngor yn y flwyddyn newydd ar gyfer unrhyw un sy'n methu cymryd rhan yn ddigidol.

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, bydd cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno gerbron y Cyngor Llawn i'w ystyried ddechrau mis Mawrth. 

Mae'r rhan fwyaf o gyllideb flynyddol bresennol y cyngor o £744m - tua 70% - yn mynd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Mae pob 1% o'r cynnydd yn y dreth gyngor yn creu tua £1.6m o incwm.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Daw'r rhan fwyaf o'r arian y mae'r Cyngor yn ei dderbyn o grantiau gan Lywodraeth Cymru.   Dim ond tua 27% sy'n dod o'r Dreth Gyngor.   Mae'r rhan fwyaf o'n cyllideb - dros dwy ran o dair - yn cael ei gwario ar redeg ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.  Heb y dreth gyngor, gallai llawer o'r gwasanaethau pwysig eraill a ddarparwn gael eu colli neu wynebu toriadau difrifol.   Mae cynnydd o 3% yn dod i 77c yr wythnos ar eiddo Band D, tua £3.34 y mis, ond byddai hynny'n cyfrannu rhywfaint at ein helpu i gynnal y gwasanaethau y mae ein dinasyddion yn dibynnu arnynt wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol gwell wedi'r pandemig.

"Rydym yn bwriadu gwarchod ysgolion rhag toriadau ac rydym wedi ceisio sicrhau ein bod ni'n cynnal gwasanaethau allweddol ledled y ddinas cystal ag y gallwn, er y gallai fod rhai gostyngiadau mewn gwasanaethau neu fwy o daliadau yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. "Yn ystod cyfnodau anodd, gwyddom fod nifer o drigolion y ddinas, ac yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, yn troi at y Cyngor am gymorth. Mae hynny'n amlwg eisoes o ystyried y cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n cysylltu â gwasanaeth cynghori'r Cyngor, sydd wedi cynyddu 107% ers mis Ebrill y llynedd.

"O ystyried hyn i gyd, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol yn y galw a chostau cynyddol sy'n arwain at her gyllidebol mor sylweddol ag unrhyw beth a welwyd dros y 10 mlynedd diwethaf."

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar y gyllidebyma.

Canllaw i Gyllideb 2023/24 y Cyngor