Back
Cyhoeddi Canlyniadau Prawf Rheoli Chwyn Amgen

Mae adroddiad gwyddonol annibynnol a asesodd dri math gwahanol o chwynladdwr i reoli twf planhigion ar briffyrdd a phalmentydd Caerdydd wedi dod i'r casgliad mai glyffosad yw'r "dull rheoli chwyn mwyaf effeithiol a chynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd."

Roedd y prawf gwyddonol yn asesu hyfywedd dau ddewis 'eco-gyfeillgar' amgen i'r dull sy'n seiliedig ar glyffosad a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn y DU. Canfu'r astudiaeth fod gan glyffosad ôl troed amgylcheddol cyffredinol llai na'r ddau ddewis arall a dreialwyd, sef asid asetig (finegr hynod grynodedig) a thriniaeth ewyn poeth (cynnyrch sy'n seiliedig ar blanhigion ac sy’n  cyfuno dŵr poeth gydag ewyn bioddiraddiadwy). Glyffosad hefyd oedd y cynnyrch rhataf a brofwyd ac roedd yn sgorio’n uwch na’r un arall o ran boddhad cwsmeriaid.

Roedd y prawf, a ddigwyddodd yn dilyn argymhelliad gan YmchwiliadPwyllgor Craffu Amgylcheddol Cyngor Caerdydd i'r ffordd y mae bioamrywiaeth a'ramgylchedd naturiol yn cael ei reoli, wedi’i gynnal gan Dr Dan Jones, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd yn Adran Biowyddoniaeth Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Masnachol Advanced Invasives, ymgynghoriaeth a sefydlwyd yn 2016 i ddod â meddylfryd a arweinir gan dystiolaeth i reolaeth masnachol planhigion goresgynnol.

Dywedodd Dr Jones:  "Dyma un o'r astudiaethau mwyaf cynhwysfawr yn y byd go iawn sy'n cymharu glyffosad â'r dulliau amgen o reoli chwyn sydd ar gael ledled y byd ar hyn o bryd.  

"Yr hyn a ddarganfyddom oedd nid yn unig mai glyffosad oedd y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o reoli chwyn, ond unwaith i chi edrych ar gylch bywyd llawn y cynnyrch, gan ystyried pethau fel faint o danwydd a dŵr sy'n cael ei ddefnyddio, mae hefyd y lleiaf niweidiol i'r amgylchedd. 

"Y dull cyfrifol o reoli chwyn gyda glyffosad sydd ar waith gan y Cyngor ar hyn o bryd yw'r dull rheoli chwyn mwyaf cynaliadwy sydd ar gael yn y DU nawr."

Yn sgil y canlyniadau, bydd y Cyngor yn parhau â'i ddull integredig presennol o reoli chwyn, sy'n cyfuno chwynnu â llaw, ceibio chwyn, fforchio, taenu ac ysgubo mecanyddol, a rhoi chwynladdwyr cymeradwy. Ar yr un pryd, cymerir mesurau i barhau i leihau'r defnydd o gynhyrchion sy'n seiliedig ar glyffosad.

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod:

  • Mewn 18 categori effaith amgylcheddol gwahanol, ewyn poeth gafodd yr effaith uchaf ym mhob categori ond un, gydag effaith amgylcheddol glyffosad isaf ym mhob categori ond dau.
  • Roedd cyfanswm y defnydd o gynnyrch sydd ei angen i drin un cilomedr o balmant, isaf gyda glyffosad, sef 0.33 litr fesul km o dir, o'i gymharu â 4.06 litr o asid asetig (12 gwaith yn fwy o chwynladdwr), a 5.38 litr o ewyn poeth (16 gwaith yn fwy na glyffosad).
  • Er enghraifft, roedd angen 629.64 litr o ddŵr fesul cilometr ar driniaeth gydag ewyn poeth - 62 gwaith yn fwy o ddŵr na glyffosad, a oedd angen 13 litr y cilometr. Roedd angen 8.44 litr y cilometr ar asid asetig.
  • Roedd defnyddio glyffosad yn defnyddio llai o danwydd - dim ond 0.18 litr o ddisel fesul km a driniwyd, o'i gymharu â 0.19 litr ar gyfer asid asetig, a 12.33 litr o ddisel, ynghyd â 2.13 litr o betrol ar gyfer ewyn poeth – mae hynny 63 gwaith yn fwy o ddisel a 100% yn fwy o betrol nag sydd ei angen ar gyfer glyffosad.
  • Cymerodd 0.16 awr o lafur i drin un cilometr gyda glyffosad, o'i gymharu â 0.23 awr ar gyfer asid asetig, a 4.89 o oriau ar gyfer ewyn poeth.
  • Glyffosad hefyd oedd y cynnyrch a weithiodd orau – gan arwain at bedair cwyn yn unig, o'i gymharu â 22 yn sgil asid asetig, a 29 yn sgil ewyn poeth.

Mae Glyffosad wedi'i drwyddedu'n llawn gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y DU fel cynnyrch diogel i'w ddefnyddio, ond mae pryderon wedi'u codi am ei effaith ar iechyd pobl, peillwyr a'r blaned.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal i gadw strydoedd a phalmentydd Caerdydd yn rhydd o beryglon baglu ac mae hefyd yn benderfynol o gyflawni ei nodau Un Blaned Caerdydd, lleihau allyriadau carbon a gwarchod yr amgylchedd. Mae canlyniadau'r treial annibynnol yn awgrymu mai'r ffordd orau o wneud hynny yw parhau gyda'n dull presennol o reoli chwyn, sydd eisoes wedi gweld y cyfanswm o glyffosad sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghaerdydd yn gostwng 80% o'i gymharu â dulliau blaenorol."

Fe gysylltodd y Cyngor â chynhyrchwyr y ddau gynnyrch amgen wnaethon ni eu treialu, am eu barn cyn cyhoeddi'r adroddiad terfynol.

Roedd ymateb gwneuthurwyr y cynnyrch asid asetig yn ymwneud â manylion technegol yn ymwneud â chrynodiad y cynnyrch. Gwnaed nifer o fân newidiadau i'r adroddiad terfynol i egluro bod y cynnyrch y maent yn ei gynhyrchu yn cael ei wanhau â dŵr i ostwng y lefelau crynodiad ac felly lleihau unrhyw risgiau posibl i bobl a bywyd gwyllt.

Ymateb gwneuthurwyr y cynnyrch ewyn poeth a dreialwyd oedd eu bod yn teimlo bod y ffigur o 4.89 awr o lafur i drin un cilometr yn anghywir ac y gellid cyflawni'r dasg gydag un gweithredwr fesul uned yn hytrach na'r tri a ddefnyddiwyd yn y prawf. Tynnon nhw sylw hefyd at y ffaith eu bod wedi cyflwyno system hybrid newydd yn ddiweddar sy'n defnyddio pŵer batri i helpu i leihau allyriadau.

Mae canlyniadau llawn y treial ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s65772/Item%203%20-%20Appendix%20A.pdf?LLL=0

Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon: https://newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30578.html

Craffwyd ar ganlyniadau'r Treial Rheoli Chwyn Amgen  gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol am 4.30pm ar 12 Ionawr. Yn dilyn y cyfarfod fe ysgrifennodd y Pwyllgor Craffu at y Cabinet gyda nifer o sylwadau.  Gellir gweld y llythyr yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/b21005/Correspondence%20following%20the%20Committee%20meeting%2012th-Jan-2023%2016.30%20Environmental%20Scrutiny%20Committe.pdf?T=9&LLL=0 ac mae recordiad o'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/731757 

Trafododd Cabinet Cyngor Caerdydd yr adroddiad am y Treial Rheoli Chwyn yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir am 2pm ddydd Iau 19 Ionawr. Mae agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7958&Ver=4