Back
Bydd archebu bagiau ailgylchu gwyrdd i gartrefi preswylwyr yn dod i ben ar Ionawr 31

17/01/23


O Ionawr 31, ni fydd modd i breswylwyr archebu bagiau ailgylchu gwyrdd i'w cartrefi, gan fod system newydd bellach yn ei le i bobl gael casglu'r bagiau o siop leol neu adeilad cymunedol ble maen nhw'n byw.

Bydd danfoniadau swmpus yn cael eu gyrru i ddarparwyr lleol fel mater o drefn a gall trigolion ddod o hyd i'w darparwr lleol trwy roi eu cod post i'r wefan Cyngor Caerdydd yma -https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspxneu drwy Ap Caerdydd Gov -https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd-gov/Pages/default.aspx

Ni fydd unrhyw breswylydd sydd ar y cynllun casglu â chymorth yn cael ei effeithio gan y newid hwn i'r gwasanaeth, gan y bydd danfoniadau chwarterol arferol yn parhau i gael eu gwneud i'w heiddo.

Bydd cyflenwadau bagiau gwastraff bwyd, cadis ymyl ffordd a chadis cegin yn parhau i gael eu danfon i eiddo yng Nghaerdydd ar gais, drwy naill ai archebu ar wefan y cyngor neu trwy Ap Caerdydd Gov.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:  "Er bod y rhan fwyaf o bobl yn casglu eu bagiau ailgylchu gwyrdd gan ddarparwyr lleol eisoes, yn ystod y pandemig, fe wnaeth y galw i ddosbarthu nwyddau i'r cartref gynyddu'n sylweddol.

"Ar hyn o bryd mae 7% o holl geisiadau bagiau ailgylchu gwyrdd ar gyfer danfoniadau cartref, ond rhwng Ebrill eleni, roedd hyn gyfystyr â 44,000 o geisiadau i gyd. Nid ydym yn credu mai dyma'r ffordd orau o anfon bagiau ailgylchu gwyrdd i drigolion wrth symud ymlaen, gan fod nifer y ceisiadau wedi arwain at amser cyflenwi o dros 6 wythnos iddynt gael eu danfon.

"Bydd cwmnïau rheoli sy'n cynrychioli blociau fflatiau mawr yn dal i allu archebu bagiau ailgylchu gwyrdd i'w datblygiad a bydd y cyngor yn ceisio anrhydeddu'r holl geisiadau am fagiau ailgylchu gwyrdd sydd yn y system ar hyn o bryd, gyda dyddiad terfyn o 28 Chwefror. "

"Os oes unrhyw un wedi archebu sachau ailgylchu gwyrdd i'w cludo i'w cartref ac heb eu derbyn erbyn diwedd mis Chwefror, casglwch nhw oddi wrth eich darparwr lleol."

Bydd nifer y rholiau o fagiau ailgylchu gwyrdd y gellir eu rhoi i drigolion gan y darparwyr lleol yn ôl disgresiwn perchnogion y siopau, yn seiliedig ar y stoc sydd ganddyn nhw.