Back
Caerdydd yn sicrhau £50m o gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd

19/01/23


Bydd cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd - a fydd yn rhedeg o orsaf Caerdydd Canolog i orsaf Bae Caerdydd yn cael ei ddarparu - nawr bod cyllid wedi'i sicrhau gan Gyngor Caerdydd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

Mae cais Cronfa Codi'r Gwastad, sy'n werth £50m, a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd, wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu £50m pellach ar gyfer y prosiect.

 

Bydd y cyllid yn darparu cyswllt cludiant cyflym newydd o Gaerdydd Canolog i Fae Caerdydd, drwy Sgwâr Callaghan, gan ddarparu cyswllt trafnidiaeth hanfodol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Sgwâr Callaghan, Stryd Bute, Rhodfa Lloyd George ac uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd.

 

Bydd y buddsoddiad yn gatalydd ar gyfer y cynllun Cledrau Croesi ehangach sydd, yn y pen draw, yn ceisio cysylltu â Gorsaf arfaethedig Parc Caerdydd yn Llaneirwg, yn nwyrain Caerdydd, a fydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer nifer o orsafoedd newydd yn nwyrain y ddinas.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, "Mae'r cyhoeddiad am y pecyn cyllido yma'n cymeradwyo'n cynlluniau i adfywio Bae Caerdydd a Glanfa'r Iwerydd. Bydd y llwybr newydd hwn o'r diwedd yn golygu bod Butetown yn cael ei gysylltu'n iawn â chanol y ddinas drwy orsaf Caerdydd Canolog. Bydd nid yn unig yn gwasanaethu ymwelwyr i'r Bae ac i Arena newydd Caerdydd, ond bydd hefyd yn dechrau gwireddu uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer gwasanaeth tram Cledrau Croesi a fydd yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas yr holl ffordd i ardal ddwyreiniol y ddinas, gan gysylltu â gorsaf arfaethedig Parc Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru - sy'n rhoi arian cyfatebol i'r hyn a gymeradwywyd drwy gronfa Codi'r Gwastad - er mwyn cyflawni'r cynllun ar gyflymder."

 

  • Gwasanaeth tram rheolaidd o orsaf Caerdydd Canolog i blatfform newydd yng ngorsaf drenau Bae Caerdydd.
  • Dau blatfform newydd yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog
  • Gwelliannau ardal gyhoeddus o gwmpas y platfformau trenau presennol a newydd
  • Cynllun priffyrdd newydd sy'n caniatáu trosglwyddo diogel i'r cyhoedd newid rhwng defnyddio ffyrdd, rheilffyrdd, beicio a cherdded.

 

Bydd cam cyntaf y datblygiad hefyd yn ymestyn i Stryd Pen y Lanfa ac yn cynnwys datblygu Gorsaf Drafnidiaeth newydd, sy'n cysylltu ag uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae hyn yn newyddion rhagorol, gan y bydd y cyllid hwn yn darparu cam cyntaf Cledrau Croesi i ddarparu gwasanaeth tram amhrisiadwy sy'n cysylltu Canol Caerdydd â Bae Caerdydd.

 

"Ar ôl i'r cam cyntaf gael ei gyflawni, gellir ymestyn y llwybr hwn yn hawdd i'r dwyrain neu'r de, gan gynnwys safle HMS Cambria, sy'n darparu llwybr trafnidiaeth dibynadwy a fforddiadwy newydd i'r cyhoedd ei ddefnyddio."

  

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ar gynlluniau a fydd yn cyfrannu at y weledigaeth gydweithredol ehangach ar gyfer Caerdydd.

 

“Mae gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad y ddinas a’r rhanbarth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'r Cyngor wedi amlinellu cynlluniau uchelgeisiol ar sut rydym yn buddsoddi ym Mae Caerdydd gydag arena dan do newydd â 15,000 o seddi ac Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd, sy'n clustnodi tai newydd, gofod swyddfa, gwestai a 50,000 metr sgwâr o ofod manwerthu, hamdden a diwylliannol.

 

"Ym Mae Caerdydd, mae 200 hectar o dir llwyd nad yw'n cael ei ddefnyddio a allai gael ei ddefnyddio, ond pan fydd Cledrau Croesi yn cael ei ymestyn, bydd y tir hwn yn dechrau cael ei ddefnyddio gan ganiatáu ar gyfer buddsoddiad a thwf pellach ym Mae Caerdydd a Dwyrain Caerdydd.

 

"Mae Cledrau Croesi wedi bod yn uchelgais ers cryn amser, i ddarparu gwasanaeth tram traws-ddinas sy'n fforddiadwy ac yn ddibynadwy i'r cyhoedd ei ddefnyddio, a chysylltu rhai o gymunedau tlotaf Caerdydd â'r rhwydwaith rheilffyrdd am y tro cyntaf.

 

"Bydd y cam cyntaf yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus o ganol y ddinas i Fae Caerdydd yn sylweddol, gan ddarparu rhagor o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr gael mynediad i'r ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i'w cynnig."