Back
Deddf Etholiadau 2022: Newidiadau i System Etholiadol y DU
19/01/23

Mae'r llywodraeth ganolog wedi pasio deddf fydd yn newid y ffordd rydyn ni'n pleidleisio yn Etholiad San Steffan a’r Etholiad ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Gelwir y ddeddf hon yn Ddeddf Etholiadau 2022. 

Sylwer:NIDyw’r gyfraith hon yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru nac i Lywodraeth Leol (Cyngor Caerdydd a Chynghorau Cymuned), gan mai Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r ddeddfwriaeth ar gyfer y rhain. 

  

Newidiadau i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio:  Angen cerdyn adnabod â llun

Rhaid i chi nawr ddangos dogfen adnabod â llun i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio pan fo etholiad i Senedd San Steffan neu etholiad ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Rhaid i’r ddogfen â llun fod yn un gymeradwy, fel pasbort neu drwydded yrru. Dogfennau gwreiddiol yn unig sy'n cael eu derbyn. Ni dderbynnir delweddau wedi'u sganio neu gopïau. Fodd bynnag, os yw'ch cerdyn adnabod â llun wedi dod i ben fe'i derbynnir cyn belled â bod y llun yn dal yn ymdebygu i chi.

 

Mae'r mathau o gardiau adnabod a dderbynnir amlaf yn cynnwys:

·       Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwlad â statws AEE neu wlad yn y Gymanwlad.

·       Trwydded yrru â llun a gyhoeddwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE neu wlad yn y Gymanwlad

·       Cerdyn adnabod â llun yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)

·       Cerdyn adnabod ag arno hologram y Cynllun Prawf Oed Safonol (cerdyn PASS)

·       Bathodyn Glas

·       Pàs Bws Person Hŷn

·       Pàs Bws i Bobl Anabl

·       Cerdyn Oyster 60+

Beth i'w wneud os nad oes gennych gerdyn adnabod â llun cymeradwy?

Os nad oes gennych gerdyn adnabod cymeradwy, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr' am ddim (TAP).

Gallwch wneud cais ar-lein am TAP drwy'r llywodraeth ganolog GOV.UK Gwefan Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.

Gallwch hefyd wneud cais am TAP drwy argraffu a llenwi ffurflen bapur a'i hanfon at ein Swyddfa Gofrestru Etholiadol yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r cyfeiriad isod. Cliciwch yma i lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen. 

Gwasanaethau Etholiadol

Ystafell 263, Neuadd y Sir

Glanfa'r Iwerydd,

Caerdydd

CF10 4UW

Neu e-bostiwch gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920872088 i ofyn am ffurflen bapur.

Gall ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol eich helpu gyda'ch cais. Cysylltwch â ni i gael unrhyw gymorth neu os oes angen i chi fynychu'r swyddfa etholiadau yn bersonol i gael help gyda'ch cais.

Ar ôl i chi dderbyn eich TAP, ni fydd dyddiad dod i ben arno. Fodd bynnag, cynghorir eich bod yn adnewyddu eich TAP (ail-wneud cais am TAP) mewn 10 mlynedd i sicrhau bod y llun arno yn parhau i fod yn wir debygrwydd i chi.

Y dyddiad cau i wneud cais am TAP fydd 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.

Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod cymeradwy neu TAP mewn gorsafoedd pleidleisio o fis Mai 2023 ymlaen ar gyfer etholiadau San Steffan a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Yr etholiad nesaf sydd wedi’i gofrestru yng Nghaerdydd lle bydd angen dangos dogfen adnabod â llun neu TAP i bleidleisio, fydd yr etholiad ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024. 

 

A ydych chi'n ansicr a oes gennych ffurf ddilys a derbyniol o gerdyn adnabod â llun?

Os ydych yn ansicr a yw ffurf y cerdyn adnabod sydd gennych ar hyn o bryd yn cael ei dderbyn gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion ar y ffurfiau derbyniol drwy glicio yma. Neu gallwch gysylltu â'n Swyddfa Cofrestru Etholiadol drwy e-bostio: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920872087 am gymorth. 

 

Pleidleisio trwy'r post neu drwy ddirprwy

Os ydych yn dewis pleidleisio drwy'r post, ni fydd hyn yn effeithio arnoch a byddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio drwy'r post fel arfer.

Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirprwy, yna bydd yn rhaid i'r sawl rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan fynd â’u cerdyn adnabod â llun eu hunain i gael papur pleidleisio.

Os ydych yn teimlo'n ansicr a oes gennych ffurf dderbyniol o gerdyn adnabod â llun, neu’n ansicr am unrhyw newidiadau sy’n dod i rym yn sgil y Ddeddf Etholiadau, yna cysylltwch â'n Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol.

Gwasanaethau Etholiadol

Ystafell 263, Neuadd y Sir

Glanfa'r Iwerydd,

Caerdydd

CF10 4UW

E-bost:gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk

Ffôn: 02920872088

Newidiadau pellach o ganlyniad i Ddeddf Etholiadau 2022

Mae newidiadau pellach a fydd yn dod i rym ar gyfer Etholiadau San Steffan a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Byddwn yn eich diweddaru ar y newidiadau wrth iddynt ddod i rym. 

I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf hon, gallwch ymweld â'r ddolen isod.

(Cerdyn Adnabod Pleidleisiwr | y Comisiwn Etholiadol )