Back
Ffederasiwn The Oaks, "ysgolion cynnes a chroesawgar gyda phwyslais cryf ar gydraddoldeb a chynhwysiant" meddai Estyn

25/1/2023

 

Mae Estyn wedi disgrifio ysgolion cynradd Greenway a Trowbridge fel ysgolion cynnes a chroesawgar y mae eu hethos o ofal a chefnogaeth yn treiddio drwy'r cyfan maen nhw'n ei wneud.

Wedi'u lleoli yn nwyrain y ddinas, mae'r ysgolion cynradd wedi cydweithio fel rhan o Ffederasiwn The Oaks ers 2019 ac yn ystod arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Addysg Cymru, canfuwyd bod y disgyblion sy'n mynychu'r ysgolion yn hapus a bod y berthynas waith rhwng y disgyblion a'r staff yn gadarnhaol.

O ganlyniad, mae safonau ymddygiad yn dda ac yn ystod eu hamser yn yr ysgolion, mae llawer o'r disgyblion yn gwneud cynnydd cadarn o'u mannau dechrau amrywiol, gan elwa ar addysgu gan staff sy'n eu hadnabod yn dda iawn ac sy'n gwrando arnynt, gan gynnwys pan fyddant yn gwneud awgrymiadau am yr hyn yr hoffent ei ddysgu.

Mae Ffederasiwn The Oaks yn rhannu pennaeth gweithredol, adnoddau, staff a Llywodraethwyr ar draws safleoedd y ddwy ysgol ac yn ymdrechu i sicrhau bod y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig yn gyson ac yn cael eu hadlewyrchu ar draws y ddwy ysgol.

Nododd yr adroddiad gan Estyn fod y disgyblion yn ymwybodol o'u hawliau fel plant ac yn ystyried sut mae trin pobl eraill yn deg, a bod yr ysgol yn awyddus i gefnogi teuluoedd a sicrhau bod pwyslais cryf ar gydraddoldeb a chynhwysiant. O ganlyniad, mae'r disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn awyddus i ddysgu, gan gynnwys y rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol sef 58% o'r disgyblion yn Greenway a 54% o'r disgyblion yn Trowbridge.  

Canfu'r arolygwyr fod gormod o ddisgyblion yn absennol neu'n hwyr yn cyrraedd yr ysgol yn aml ac yn colli allan ar amser dysgu pwysig er gwaethaf ymdrechion gorau'r staff i hyrwyddo presenoldeb rheolaidd.

Gwnaeth Estyn bedwar argymhelliad i'r ffederasiwn gan gynnwys; Cryfhau prosesau monitro a gwerthuso i ganolbwyntio ar wella canlyniadau disgyblion, cryfhau adborth athrawon a chyfleoedd i ddisgyblion fyfyrio ar eu gwaith fel eu bod yn gwybod beth i'w wneud i wella, sicrhau bod addysgu'n herio pob disgybl, gan gynnwys y rheiny sy'n fwy galluog, datblygu annibyniaeth wrth ddysgu a gwella safonau ar gyfer disgyblion hŷn yn Gymraeg.

Gan fyfyrio ar yr adroddiad, dywedodd Nic Naish, Pennaeth Ffederasiwn The Oaks: "Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o Ffederasiwn The Oaks ac mae adroddiad Estyn ar gyfer pob ysgol yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad yr holl dîm. Rydym yn arbennig o falch bod y tîm arolygu wedi tynnu sylw at ein hethos cynhwysol, gofalgar a chefnogol yn ogystal â'r berthynas gref rhwng y staff ysgol a'r disgyblion.

"Y meysydd hyn yw sylfeini ein twf parhaol fel Ffederasiwn a byddant yn helpu wrth i ni weithio tuag at fynd i'r afael â'r argymhellion ar gyfer pob ysgol."

Dywedodd Bryan Jeffries, Cadeirydd Llywodraethwyr Ffederasiwn The Oaks: "Rwy'n falch o weld bod y tîm arolygu wedi cydnabod bod y ddwy ysgol yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn dda, gan rannu staff ac adnoddau i gefnogi'r broses o weithredu'r cwricwlwm newydd.

"Mae'n amlwg bod gan y ddwy ysgol eu personoliaethau eu hunain, ond ein bod yn gweithio fel un Ffederasiwn cyfan i gefnogi ein cymunedau cyffredin. Rwy'n falch iawn o'r tîm cyfan sydd wedi cael cefnogaeth arbennig gan y Corff Llywodraethu i sicrhau bod ein hysgolion yn lleoedd cadarnhaol a hapus.

"Bydd yr argymhellion yn cael sylw drwy ein gwaith partneriaeth ac yn ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn un o ffederasiynau blaenllaw Cymru."

Mae'r Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysgyn cydnabod cryfderau niferus Ysgol Gynradd Trowbridge a ganfuwyd gan Estyn yn ystod yr arolygiad, gan gynnwys ymddygiad da'r disgyblion a'r gefnogaeth a ddangosir gan y staff addysgu."Mae sawl maes lle mae'r ysgol yn gwneud cynnydd da ac rwy'n siŵrmai blaenoriaeth yr ysgol yn ystod y misoedd nesaf fydd mynd i'r afael â'r argymhellion pwysig ar gyfer gwelliant mae Estyn wedi'u gwneud.

"Gan ganolbwyntio ar bresenoldeb yn yr ysgol, yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y Cyngor yn lansio ymgyrch newydd iwella safonau presenoldeb yn yr ysgol ar draws y ddinas mewn partneriaeth ag ysgolion, gyda'r nod o dynnu sylw at y ffaith bod colli diwrnodau dysgu yn cael effaith go iawn. Rydym am atgoffa teuluoedd bod mynychu'r ysgol bob dydd yn bwysig, gyda phresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn chwarae rhan bwysig wrth helpu dysgwyr i gyflawni mwy a gwella cyrhaeddiad yn ystod eu bywydau ysgol a thu hwnt."

Mae Estyn wedi mabwysiadudull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru. Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.