Back
Tri phrosiect bwyd cynaliadwy arloesol i dderbyn cyllid

Mae prosiect i droi bwyd sydd dros ben yn brydau parod, astudiaeth sy'n archwilio sut y gallai ffermydd fertigol sy'n defnyddio amgylcheddau amaethyddol rheoledig adfer cynhyrchu bwyd yn lleol, a phrosiect i dyfu ffrwythau a llysiau drwy ôl-osod technoleg aeroponig mewn adeiladau segur, oll wedi cael cyllid dichonoldeb o her cynhyrchu bwyd cynaliadwy gwerth £2.1 miliwn.

Nod y prosiect, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth MYBB (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yw nodi a chefnogi prosiectau a all harneisio potensial tir, technoleg a phobl i gynyddu cynhyrchiant a chyflenwad cynaliadwy o fwyd lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Wedi'u dewis o fwy nag ugain o geisiadau am gyllid, mae'r tri chais llwyddiannus i gyd wedi derbyn contract dichonoldeb pedwar mis o hyd at £50,000 y prosiect.  Ar ddiwedd y pedwar mis, bydd y prosiectau yn cael eu hasesu a bydd y rhai mwyaf addawol yn derbyn arian ychwanegol i beilota a phrofi brototeipiau.

 

Y Prosiectau

  • Mae LettUs Grow Ltd o Fryste yn arbenigwyr mewn ffermio fertigol dan do ac yn ddarparwr technoleg ar gyfer amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig. Mae eu project yn dod â chonsortiwm o arbenigwyr lleol at ei gilydd i archwilio dichonoldeb masnachol, amgylcheddol a chymdeithasol integreiddio amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig gyda chadwyni cyflenwi Cymreig.
  • Wedi'i datblygu gyntaf gan NASA yn y 1970au, mae technoleg aeroponig yn dechnoleg dan do, modiwlaidd sy'n tyfu ffrwythau a llysiau drwy chwistrellu symiau bach o ddŵr wedi ei ailgylchu a maetholion yn uniongyrchol ar i wreiddiau cnydau. Mae'r system yn defnyddio 95% yn llai o ddŵr a llawer llai o ynni na hydroponeg traddodiadol a gellir ei ôl-osod mewn adeiladau segur, neu hyd yn oed ar doeau. Bydd Soilessentials Ltd yn defnyddio eu harian i edrych ar y posibilrwydd o osod system aeroponeg dan do ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  • Fe wnaeth Fairshare Cymru, ail-ddosbarthu 750 tunnell o fwyd i elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru y llynedd.  Nhw yw'r ail-ddosbarthwr mwyaf o fwyd dros ben y diwydiant bwyd yng Nghymru, ond dydyn nhw ddim yn gallu defnyddio'r holl fwyd sydd ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd. Yn hytrach na'i wastraffu maen nhw am ei droi'n brydau parod neu gynnyrch i'w storio, ar raddfa, y gallant wedyn ei wneud ar gael i'w cleientiaid. Bydd eu hastudiaeth ddichonoldeb yn edrych i ddarganfod a yw'n bosibl defnyddio cyfleusterau gweithgynhyrchwyr bwyd a diod i weithgynhyrchu cynhyrchion o fwyd sydd dros ben.

Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb "Mae'r rhan fwyaf o'r bwydydd rydyn ni'n ei fwyta yn diweddu ar ein platiau ar ddiwedd cadwyni cyflenwi hir, cymhleth, byd-eang, gan ddod â chostau amgylcheddol uchel a photensial o wynebu tarfu yn sgil digwyddiadau byd-eang, gan arwain at brisiau uwch i ddefnyddwyr.

"Mae'r prosiectau sy'n derbyn cyllid yng ngham un yr Her Fwyd yn cyflwyno rhai atebion posibl diddorol iawn a allai helpu i sicrhau'r cyflenwad o fwyd cynaliadwy, cost isel a bwyd wedi'i dyfu'n lleol sy'n allweddol i oresgyn heriau newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a salwch sy'n gysylltiedig â deiet, pob un ohonynt yn effeithio'n drwm ar y lleiaf cefnog mewn cymdeithas."

Meddai'r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gymunedau Cynhwysol ac Actif: "Mewn oes o newid yn yr hinsawdd ac anwadalwch economaidd mae'n bwysig ein bod yn cynhyrchu mwy o fwyd yn lleol ac yn gwastraffu llai o'r hyn rydyn ni'n ei gynhyrchu. Rwy'n wirioneddol gyffrous bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cefnogi'r prosiectau arloesol hyn.  Ein ffocws yn Sir Fynwy fydd ffermio traddodiadol cynaliadwy bob amser, ond mae'r Her wedi dod â llawer o gyfleoedd cyffrous i'n rhanbarth a'n sir."

Dywedodd Gareth Browning Pennaeth Heriau P-RC: "Mae 2023 wedi dechrau yn y ffordd fwyaf positif bosibl, gyda dyfarnu tri chontract datblygu sy'n argoeli'n dda ar gyfer llwyddiant Her Arloesi Bwyd P-RC. Mae'r tri phrosiect yn dangos yr uchelgais a'r weledigaeth sydd eu hangen i fynd i'r afael â her diogelwch bwyd, drwy ddyfeisgarwch ysbrydoledig ac ymrwymiad i wthio ffiniau'r meddylfryd presennol yn y ffordd fwyaf dychmygus a thrawiadol bosibl. 

"Rydym bellach yn gobeithio gweld yr arloesi yma yn tyfu ar raddfa a'n cadwyni cyflenwi lleol yn ffynnu, yn bennaf gan fod difrifoldeb posibl yr her fwyd ehangach yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg, o fis i fis, ledled y byd. Mae pob un o'r tair gwobr yma yn dangos ymrwymiad ein Rhanbarth i ddod o hyd i atebion cynaliadwy a all ysgogi ein hymdrechion wrth lunio dyfodol gwell i bobl de-ddwyrain Cymru"    

Oherwydd lefel y diddordeb yng ngham dichonoldeb cychwynnol yr her, mae rownd arall o gyllid dichonoldeb cam un, hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach yn 2023.