Back
Strategaeth Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol
7/2/23

Mae strategaeth newydd sy'n nodi sut bydd y Cyngor yn defnyddio ei bŵer prynu i gefnogi ymrwymiad yr awdurdod at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn y ddinas wedi cael ei lansio.

 

Mae Strategaeth Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol 2022-27 yn nodi’r rôl allweddol y bydd caffael yn parhau i'w chyflawni wrth alluogi'r Cyngor i gyflawni ei weledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach, drwy sicrhau bod ei wariant yn cael yr effaith gymdeithasol fwyaf posibl, cyflymu'r symudiad i sero net ac arwain y ffordd fel cyflogwr 'Gwaith Teg'.

 

Mae'r Cyngor yn darparu ystod eang ac amrywiol o wasanaethau cyhoeddus statudol a dewisol yn y ddinas, a’r llynedd fe wariwyd £560m yn caffael ystod amrywiol o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan dros 8,000 o gyflenwyr a chontractwyr.

 

Yn ogystal â sicrhau bod y gwariant cyhoeddus hwn yn cynnig gwerth da am arian, mae mwy a mwy o bwysigrwydd ar gaffael sy'n cefnogi materion allweddol fel datgarboneiddio, gwaith teg, cyflawni buddion cymunedol a darparu cefnogaeth i fusnesau a chymunedau lleol.

 

Mae’r strategaeth newydd yn nodi’r hyn y bydd y Cyngor yn ei wneud i barhau i wella'r ffordd y mae'n rheoli ei weithgaredd caffael i gefnogi cyflawni'r blaenoriaethau hyn ac mae’n cynnwys amcanion allweddol fel:

 

·       Cyfrannu at nod y Cyngor i fod yn Ddinas Garbon Niwtral erbyn 2030.

·       Gwneud gwariant caffael yn fwy hygyrch i fusnesau bach lleol a’r trydydd sector.

·       Gwella arferion Gwaith Teg a Diogelu a fabwysiedir gan gyflenwyr.

·       Cynyddu’r buddion cymunedol a’r gwerth cymdeithasol a ddarperir gan gyflenwyr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae'r strategaeth newydd yn nodi ymrwymiad parhaus y Cyngor i'w werthoedd cymdeithasol-gyfrifol a gwaith teg ac yn gosod y safon i sefydliadau eraill ei dilyn wrth fynd i'r afael â materion fel newid hinsawdd ac effaith yr argyfwng costau byw ar fusnes a'n cymunedau.

 

"Yn sail i'r amcanion allweddol mae blaenoriaethau ein gweledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach, fel datgarboneiddio ein cadwyni cyflenwi i gefnogi’r strategaeth Caerdydd Un Blaned, cadw gwariant y Cyngor yn lleol a'i wneud yn fwy hygyrch i fusnesau bach a chanolig, a defnyddio ein pŵer prynu i wella hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol.

 

"Bydd caffael yn parhau i chwarae rôl ganolog yn y gwaith o alluogi'r Cyngor i greu cyfleoedd ar gyfer gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol yn y ddinas."

 

Bydd cynllun cyflenwi manwl yn nodi'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd i wireddu'r strategaeth a fydd yn cael ei diweddaru a'i hadolygu am gynnydd bob blwyddyn.

 

I ddarllen y strategaeth ewch i: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Busnes/Tendrau-Comisiynu-a-Chaffael/Polisiau-gweithdrefnau-a-chanllawiau/Documents/SOCIALLY%20RESPONSIBLE%20PROCUREMENT%20POLICY%20Welsh%2017.4.18.pdf