Back
Gorchymyn i dipiwr anghyfreithlon dalu dros £1,500 yn Llys Ynadon Caerdydd

21/02/23


Cafodd Nazir Ahmed, o Heol Albany, Caerdydd orchymyn i dalu ychydig dros £1,500 yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher diwethaf (15 Chwefror) am dipio anghyfreithlon yn East Bay Close yn Butetown.

 

Ar 19 Ionawr 19 y llynedd, ymwelodd swyddog gorfodi gwastraff ag East Bay Close, yn dilyn adroddiadau bod pum bag du, dau gês a gwastraff cyffredinol wedi'u gadael ar dir gwastraff.

 

Yn dilyn archwiliad pellach, gwnaeth nodiadau dosbarthu, llythyrau personol a hyd yn oed tag cyfeiriad ar un o'r cesys ddangos yn glir fod yr holl wastraff yn perthyn i Mr Ahmed.

 

Cafodd llythyr ei anfon at gyfeiriad Mr Ahmed i'w wahodd i gyfweliad dan rybudd er mwyn iddo allu egluro sut cafodd gwastraff o'i aelwyd ei dipio'n anghyfreithlon mewn ward nad yw'n byw ynddi. Ni chafwyd ymateb ar ddau achlysur, ac roedd yr Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £400 yn parhau heb ei dalu, felly cafodd yr achos ei ffeilio ar gyfer achos llys.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae tipio anghyfreithlon yn gwbl ddiangen, gan fod y cyngor yn darparu'r cyfleusterau i bobl gael gwared o'u gwastraff, gan gynnwys casgliadau gwastraff wrth ymyl y ffordd a defnyddio canolfannau ailgylchu ar gyfer gwaredu eitemau mwy.

 

"Gallai'r holl eitemau a gafodd eu gollwng gan Mr Ahmed fod wedi cael eu gwaredu am ddim gan ddefnyddio'r cyfleusterau hyn, ond gan fod y gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon, mae'n rhaid iddo nawr dalu swm sylweddol o arian am waredu ei wastraff. Dylai hyn anfon neges glir i'r rhai sy'n tipio'n anghyfreithlon yng Nghaerdydd, gan nad yw'n dderbyniol a phan fydd angen, byddwn yn erlyn y materion hyn drwy'r llysoedd."

 

Cafodd ddirwy o £1,100 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £440 a thâl dioddefwr o £110.