Back
Angen cau ffyrdd gyda'r nos ar ran o Heol Caerffili, Caerdydd er mwyn cryfhau pont reilffordd

06/03/23


Bydd y gwaith o gryfhau Pont Reilffordd Heol Caerffili yn dechrau ddiwedd mis Mawrth, gyda gwyriad ar waith i yrwyr tra bydd y gwaith yn digwydd.

Mae angen gwneud gwaith adferol ar y bont, sy'n eiddo i Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau bod y strwythur yn ddiogel.

Yn ystod y gwaith, bydd ffyrdd yn cael eu cau yn ystod y nos ar Heol Caerffili (A469) rhwng Tŷ-Wern a Waun-y-Groes Avenue ar yr amserau a'r dyddiadau canlynol:

  • O 8pm ar 25 Mawrth tan 5am ar 26 Mawrth 
  • O 8pm ar 1 Ebrill tan 5am ar 2 Ebrill 
  • O 8pm ar 15 Ebrill tan 5am ar 16 Ebrill 
  • O 8pm ar 22 Ebrill tan 5am ar 23 Ebrill 
  • O 8pm ar 29 Ebrill tan 5am ar 30 Ebrill 
  • O 8pm ar 6 Mai tan 5am ar 7 Mai 
  • O 8pm ar 13 Mai tan 5am ar 14 Mai 
  • O 8pm ar 20 Mai tan 5am ar 21 Mai 
  • O 8pm ar 27 Mai tan 5am ar 28 Mai 

Ar gyfer pob cerbyd modur sydd o dan 14.9 troedfedd o uchder, bydd gwyriad ar waith ar hyd Heol Heathwood, Heol y Fid-las, Rhodfa Tŷ-Glas a Heol Tŷ Glas.

Ar gyfer unrhyw gerbydau sy'n uwch na'r cyfyngiad uchder hwn, bydd gwyriad ag arwyddion ar waith ar hyd Heol Tŷ Wern, Heol Pant-bach, Heol Beulah ac yn ôl i Heol Caerffili.

Rydym ar ddeall y bydd y gwaith ar y bont reilffordd yn cael ei gwblhau ddechrau Mehefin.