Back
'Yr achos gwaethaf o esgeulustod mewn bwyty ry'n ni wedi dod ar ei draws yn y 15 mlynedd diwetha'

24/03/23


Mae tad a merch wedi eu gorchymyn i dalu £10,000 am gyfres o droseddau iechyd a diogelwch - gan gynnwys pla o lygod mawr - ym mwyty Lilo Grill ar Heol y Plwca, Caerdydd.

Cafodd y troseddau eu disgrifio fel 'yr achos gwaethaf o esgeulustod mewn bwyty ry'n ni wedi dod ar ei draws mewn 15 mlynedd' gan arolygwyr iechyd a diogelwch.

Roedd Mr Sabz Ali Khan, 77, a Miss Sabrina Khan, 41, yn cynrychioli eu hunain yn y llys. Cawsanteu canfod yn euog ar 21 Chwefror,2023,o 18 trosedd wedi achos yn Llys y Goron Casnewydd. Cafodd y ddau ddiffynnydd eu dedfrydu heddiw am y troseddau hyn (23 Mawrth 2023).

Gweithredwr Busnes Bwyd cyfreithiol Lilo Grill yw 'Nightcover Limited' a Sabrina Khan yw unig gyfarwyddwr y busnes.  Gorchymynwyd Nightcover Ltd hefyd i dalu £18,500. Roedd ei thad Sabz Khan yn rheoli gweithrediadau'r bwyty o ddydd i ddydd.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Rwy' wedi cael gwybod gan y swyddog achos mai dyma'r achos gwaethaf o esgeulustod mewn bwyty yr ydym wedi dod ar ei draws yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Nid yn unig roedd cyflwr yr eiddo yn warth llwyr a beryglodd eu cwsmeriaid, ond roedd y rheolwr hefyd yn hynod gyndyn ei gymwynas ac yn llesteiriol iawn gydol yr ymchwiliad. I goroni'r cyfan, mae'r ddadl a ddefnyddiodd yn ei amddiffyniad fod y llygod mawr yn y bwyty yno oherwydd agosatrwydd myfyrwyr oedd yn byw yn yr ardal, yn gwbl chwerthinllyd.

"Os ydych yn berchen ar neu'n rhedeg busnes bwyd, mae gennych gyfrifoldebau a nodir yn y gyfraith.  Os nad ydych yn dilyn yr arferion cywir ac yn caniatáu i'ch busnes fynd i adfeiliad, rydych yn rhoi eich cwsmeriaid mewn perygl o ddioddef afiechyd a haint."

Daeth yr achos i'r amlwg drwy nifer o archwiliadau diogelwch hylendid bwyd rhwngAwst 2019 ac Ionawr 2020.

Canfu'r swyddog achos fod gan y bwyty bla eang ac afreolus o lygod mawr gyda draeniau agored yn caniatáu i lygod mawr ddod i mewn o'r carthffosydd. Roedd baw llygod mawr drwy'r safle; tyllau yn y waliau a'r nenfwd; wrin llygod mawr yn rhedeg i lawr y waliau yn y storfa sych; llygod mawr o dan y cyfarpar coginio a thu ôl i'r griliau a'r dystiolaeth bod llygod mawr yn llusgo cig amrwd i ffwrdda oedd wedi'i adael allan i ddadrewi,gan adael rhimynnau o waed ar arwynebau, yn ogystal â bwyta saim o ddraeniau wedi'u blocio a braster yn diferu o'r ffan echdynnu aer.

Roedd y cnofilod wedi achosi difrod sylweddol i'r eiddo, gan gynnwys:

  • Difrod helaeth i du fewn yr adeilad gan gynnwys bwyta trwy ddwy wal geudod a thu ôl i y rhewgell gist.
  • Difrod sylweddol i'r nenfwd yn y storfa sych
  • Cnoi drwy'r silffoedd, drysau, fframiau drysau a cheblau trydan.

Pan ymchwiliodd y swyddog i'r arogl yn y bwyty, daeth yn amlwg bod y llygod mawr yn byw o dan y llawr lle'r oedd cwsmeriaid yn bwyta eu bwyd, ond nid y pla llygod mawr oedd yr unig broblem yn y bwyty.

Canfuwyd bod gan y staff arferion hylendid gwael iawn hefyd ac ni chawsant eu hyfforddi na'u goruchwylio'n gywir a nodwyd sawl nam arall hefyd:

  • Roedd problemau trawshalogi helaeth rhwng trin cig amrwd a bwydydd parod i'w bwyta.
  • Roedd salad yn cael ei storio mewn stordy heb olau, llawn llygod mawr a oedd yn llawn sachau sbwriel.
  • Gosodwyd y cig wedi'i goginio o'r gril ar yr un arwynebau a ddefnyddid i gadw cig amrwd oedd yn aros i fynd ar y gril i'w goginio.
  • Cafodd y cig ei goginio mewn raciau metel brwnt a gynhaliwyd ynghyd â thâp gaffer felly doedd dim modd i'rraciau gael eu glanhau.
  • Roedd oeri bwyd yn gyffredinol wael. Canfuwyd bod y pysgod amrwd yn yr oergell arddangos dros 20°C pan mae'n rhaid storio bwyd oer yn gyfreithiol o dan 8°C.
  • Roedd gwybodaeth a ddylai fod wedi cael ei chadw yn y System Rheoli Diogelwch Bwyd yn anghyflawn a heb ei ddiweddaru, gyda thystiolaeth wedi ei ganfod bod staff yn ffugio cofnodion.

Ar Awst 152019, cytunodd Mr Khan i gau'r busnes o'i wirfodd nes bod y gwaith gofynnol wedi ei wneud a chafodd ganiatâd i ailagor ddiwedd Awst pan oedd y gwaith wedi ei wneud. 

Cyhoeddwyd nifer o Rybuddion Gwella ar gyfer troseddau hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch ac ni chydymffurfiwyd â nifer o'r rhain, felly cafodd yr achos ei brosesu ar gyfer camau cyfreithiol.

Cafodd Nightcover Ltd ddirwy o £12,000 a gorchymyn i dalu £6,500 o gostau; cafodd Sabrina Khan ddirwy o £1,500 a gorchymyn i dalu £1,500 o gostau a chafodd Sabz Ali Khan ddirwy o £5,000 a gorchymyn i dalu £2,500 o gostau.

Mae'r cyngor yn deall fod Mr Sabaz Ali Khan yn apelio yn erbyn ei ddyfarniad.