Back
30,000 o goed wedi eu plannu yng Nghaerdydd ers Hydref 2022

30/03/23 

Ers mis Hydref y llynedd, mae 30,000 o goed wedi eu plannu yng Nghaerdydd fel rhan o brosiect Coed Caerdydd. 

A group of people standing in a fieldDescription automatically generated with medium confidence

Fferm Caerwen, Pentyrch yn plannu gwrychoedd gyda gwirfoddolwyr Coed Caerdydd a Hayes Recruitment

 

Mae'r prosiect 10 mlynedd sydd bellach ar ddiwedd ei ail dymor plannu, yn rhan o ymateb y cyngor i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a'i nod yw cynyddu gorchudd canopi coed y ddinas o 18.9% i 25%. 

Mae 152 o ddigwyddiadau plannu wedi eu cynnal ar draws y ddinas ers mis Hydref, gyda thrigolion, grwpiau cymunedol lleol ac ysgolion yn helpu i blannu coed ar 11.5 hectar o dir, sy'n cyfateb i 21 cae pêl-droed.  

A picture containing grass, outdoor, person, skyDescription automatically generated

Ysgol Gynradd Ton Yr Ywen, y Mynydd Bychan gyda disgyblion yr ysgol yn plannu gwrychoedd

A picture containing grass, outdoor, sky, treeDescription automatically generated

Parc Sblot, plannu coetir cymysg Sblot gyda gwirfoddolwyr Coed Caerdydd

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Os ydym am wireddu ein gweledigaeth o ddinas garbon niwtral erbyn 2030, nid yn unig y mae'n rhaid i ni leihau allyriadau carbon wrth eu tarddiad trwy annog pobl i adael eu ceir gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio, mae angen i ni hefyd blannu llawer mwy o goed er mwyn helpu i amsugno allyriadau carbon. 

"Mae coed yng Nghaerdydd eisoes yn dileu allyriadau tua 14,000 o geir o'r atmosffer, ac yn amsugno 10.5% o'r llygryddion sy'n cael eu gollwng gan draffig. Drwy gydweithio â chymunedau a gwirfoddolwyr, nod prosiect uchelgeisiol Coed Caerdydd yw tyfu canopi coed y ddinas flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan greu coedwig drefol a fydd yn darparu aer glanach a dinas werddach i ni gyd allu ei mwynhau." 

A group of people standing in a fieldDescription automatically generated with medium confidence

Man agored Maes Y Coed, y Mynydd Bychan gyda disgyblion Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog yn plannu coed ffrwythau

A group of people in yellow vests standing in a forestDescription automatically generated with low confidence

Parc y Mynydd Bychan, y Mynydd Bychan plannu coetir cymysg gyda gwirfoddolwyr o Wates Construction a Legal & General

 

Yn gyffredinol, rhywogaethau brodorol yw'r coed sydd wedi eu plannu fel rhan o'r prosiect, sydd wedi'u dewis i fod yn wydn yn wyneb newid yn yr hinsawdd ac mae sesiynau plannu hefyd yn cynnwys cyngor i grwpiau cymunedol ar sut y gallan nhw helpu i ofalu am y coed sydd newydd eu plannu, er mwyn helpu i sicrhau bod cymaint â phosibl yn goroesi i aeddfedrwydd llawn. 

Ers i Brosiect Coed Caerdydd ddechrau yn 2020, mae mwy na 50,000 o goed wedi cael eu plannu yng Nghaerdydd.  

Ychwanegodd y Cyng. Burke: "Mae'n hyfryd gweld cynifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal gyda grwpiau cymunedol, y cyhoedd ac yn bwysig mewn ysgolion, gan alluogi plant i ddysgu am bwysigrwydd coed, sut i ofalu amdanynt, a'u manteision amgylcheddol. 

"Mae 1,300 o wirfoddolwyr wedi rhoi 2,600 awr o'u hamser i blannu coed y tymor hwn, sy'n wych ac yn dangos y gwir ysbryd cymunedol sy'n bodoli yn ein dinas.  Dyma brosiect y gall pawb gymryd rhan ynddo, boed hynny drwy awgrymu safleoedd ar gyfer plannu newydd, monitro iechyd coed, ac os oes gennych le awyr agored preifat, gall y tîm hefyd gyflenwi coed a chyngor am ddim, ar gyfer eich gardd.  Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a lleihau ôl troed carbon Caerdydd."

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Helpu i fonitro coed sydd newydd eu plannu drwy gysylltu os byddwch yn sylwi ar unrhyw arwyddion o ddifrod neu iechyd gwael.

Awgrymu safleoedd newydd ar gyfer plannu coed yn eich ardal.

Cymryd rhan mewn arolygon safleoedd, plannu coed a chyfleoedd gwirfoddoli mewn meithrinfa goed.

Ymunwch â rhestr bostio Coed Caerdydd drwy e-bostio  coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk   neu dilynwch @coedcaerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am blannu coed, ôl-ofal a digwyddiadau eraill.