Back
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf; 'Amgylchedd dysgu gofalgar lle mae disgyblion yn datblygu sgiliau eff

30/3/2023

Mae'r arolygwyr wedi disgrifio Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf fel "amgylchedd dysgu gofalgar lle mae disgyblion yn datblygu sgiliau effeithiol mewn meysydd fel iaith a mathemateg."

Yn dilyn ei ymweliad ym mis Rhagfyr, canfu tîm o Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, fod yr uwch arweinwyr wedi sefydlu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol wedi'i seilio'n gadarn o gwmpas ei hethos Gristnogol ac yn gofalu am anghenion cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol ac addysgol disgyblion. Caiff y weledigaeth bwrpasol hon ei rhannu gan bawb, gan gynnwys disgyblion, ac mae'n sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd dysgu cynnes a gofalgar. Mae diwylliant cryf o ddiogelu yn yr ysgol ac mae'r holl staff yn deall yn dda eu rôl yn hyn o beth.

Canfu Estyn fod arweinwyr ysgolion yn gweithio'n ddiwyd i ddarparu'r gorau i bawb, gan weithio'n feddylgar, ac ystyried yn gadarn lles y disgyblion. Maent yn cefnogi ac yn herio pawb yn yr ysgol i wneud eu gorau ac yn ystyried yn feddylgar y ffordd orau o werthuso gwaith yr ysgol, er bod angen i'r prosesau hyn fod yn fwy miniog.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi bod yr ysgol yn gweithio'n feddylgar tuag at weithredu newidiadau yn sgil diwygiadau Cwricwlwm i Gymru a bod disgyblion yn elwa o ystod o brofiadau dysgu ysgogol. Mae darpariaeth i ddatblygu sgiliau Cymraeg y disgyblion yn effeithiol ac mae'r disgyblion yn defnyddio'r iaith yn hyderus. Nododd hefyd fod disgyblion o'r ysgol ffydd yn Llandaf yn feddylgar ac yn chwilfrydig, yn siarad yn huawdl ac yn rhannu eu meddyliau a'u syniadau'n rhwydd gyda llawer yn mynegi barn wedi'i datblygu'n dda.

Nodwyd bod gwaith i'w wneud o hyd mewn meysydd fel cydbwysedd y cwricwlwm, datblygu sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu disgyblion (TGCh) ac asesiad ffurfiannol yn y dosbarth.

Yn gyffredinol mae'r adroddiad yn gadarnhaol, ac mae Estyn wedi gwneud cyfres o argymhellion, y mae pob un ohonynt eisoes wedi'u nodi gan yr ysgol a byddant yn parhau i gael sylw fel rhan o'u Cynllun Gwella Ysgol.

  • Datblygu'r cwricwlwm i gynnig ystod mwy cytbwys o ddysgu i ddisgyblion a rhoi cyfleoedd cryfach i ddatblygu eu sgiliau rhifedd a digidol trawsgwricwlaidd
  • Monitro'n graffach i ganolbwyntio'n well ar nodi cryfderau a diffygion yn nysgu'r disgyblion, a gwerthuso ansawdd ac effaith y ddarpariaeth
  • Gwella arferion asesu ffurfiannol fel bod disgyblion yn gwybod sut i fod yn llwyddiannus a beth sydd angen iddynt ei wneud i wella A4 Gwella sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu disgyblion (TGCh)

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan yr ysgol 421o ddisgyblion, gyda 3.9% ohonyn nhw'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Dywedodd Mrs Annette James-Griffiths, y Pennaeth: "Fel cymuned ysgol rydym yn falch iawn bod Estyn wedi cydnabod gwaith caled ac ymroddiad athrawon, staff cynorthwyol a rhieni i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau i ffynnu nid yn unig yn academaidd ond hefyd yn emosiynol, yn ysbrydol ac yn gymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni barhau i ddelio ag effeithiau'r pandemig. Er nad ydym byth yn hunanfodlon, mae'n galonogol gweld bod Estyn wedi cydnabod y meysydd rydym wedi buddsoddi llawer o amser ynddynt, a bod y meysydd sy'n cael eu hamlygu ar gyfer gwelliant yn rhai sydd eisoes yn hysbys i'r ysgol ac yn rhan o'n Cynllun Gwella Ysgol."

 

Ychwanegodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Mr David Oliver: "Hoffwn longyfarch holl staff yr ysgol a diolch iddyn nhw am eu holl waith caled bob dydd ond yn enwedig yn ystod y cyfnod arolygu hwn er mwyn sicrhau amgylchedd dysgu cadarnhaol, cynhwysol a chefnogol ar gyfer holl ddisgyblion Ysgol Dinas Llandaf. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth am y gwaith dros y cyfnod arolygu i gefnogi'r holl staff a sicrhau ein bod yn parhau gyda lles ar flaen ein meddyliau. Gall arolygiadau fod yn straen ar aelodau o staff ond cafodd hyn ei leihau gan gefnogaeth yr Uwch Arweinwyr. Mae hwn yn adroddiad arolygu cadarnhaol iawn sy'n ein paratoi ar gyfer y dyfodol."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Estyn wedi amlygu rhywfaint o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf ac fe wnes i fwynhau'n arbennig glywed am yr ystod eang o weithgareddau a wneir yn yr ysgol, sy'n helpu i hyrwyddo cydweithio a gweithio creadigol ymysg disgyblion. Roedd hefyd yn braf clywed yr iaith gadarnhaol iawn a ddefnyddir i ddisgrifio disgyblion yr ysgol.

"Bydd y meysydd lle gellid gwneud gwelliannau yn flaenoriaeth i'r ysgol a bydd y Cyngor yn darparu'r gefnogaeth briodol i helpu'r arweinwyr i'w cyflawni."

Mae Estyn wedi mabwysiadudull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.   Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio cyfansymiol (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.