Back
Arolygwyr Estyn yn canmol Ysgol Uwchradd y Dwyrain
5/4/2023

Mae un o ysgolion uwchradd mwyaf Caerdydd wedi derbyn adroddiad cadarnhaol gan arolygwyr Estyn a ganmolodd y flaenoriaeth uchel mae'n ei rhoi i les disgyblion.

Cafodd Ysgol Uwchradd y Dwyrain, a symudodd i safle arloesol newydd gwerth £26m yn Nhredelerch ym mis Ionawr 2018, ei graddio'n 'anfoddhaol' yn adroddiad diwethaf Estyn yn 2014 a'i rhoi mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd yn 2015.

Ond mae'r adroddiad diweddaraf yn pwysleisio gwaith da'r ysgol yn rhoi "lefel uchel o ofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion".

Ychwanegodd: "Mae athrawon yn adnabod eu disgyblion yn dda, ac mae llawer yn cynllunio’u gwersi'n ofalus i gipio dychymyg disgyblion a sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd da yn eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r pwnc.

"Mae'r staff yn ddigynnwrf ac yn meithrin perthynas waith gadarnhaol gyda disgyblion. O ganlyniad, mae llawer yn ymateb yn bositif i'r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig iddyn nhw ac ymddwyn yn dda mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol."

Cafodd Ysgol Uwchradd y Dwyrain, sydd â 1,162 o ddisgyblion, gyda bron un o bob pump (19.4%) wedi’u nodi’n rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) – o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 17.8% – glod arbennig am ei gwaith yn y maes hwn. "Mae’r ddarpariaeth ADY yn cael ei chydlynu'n arbennig o dda ac effeithiol," meddai arolygwyr, gan nodi bod disgyblion, a'u rhieni neu ofalwyr, yn cael cefnogaeth o ansawdd uchel.

"Mae disgyblion ag ADY yn ymateb yn dda i'r ddarpariaeth sydd wedi'i theilwra'n ofalus ac mae llawer yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau," ychwanegodd.

Roedd canmoliaeth, hefyd, i waith creadigol disgyblion, a’u gwaith perfformio a sgiliau corfforol ac, ar y cyfan, dywedwyd eu bod yn gwneud cynnydd addas yn eu gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg.

Yn yr ystafell ddosbarth, mae llawer o ddisgyblion yn gwrando'n astud ar eu hathro, meddai'r adroddiad. "Maen nhw'n ymateb i safbwyntiau gwahanol mewn trafodaethau a chyfleu eu barn a'u syniadau’n glir... Mae gan fwyafrif eirfa bwnc-benodol a chyffredinol eang. Mae ambell un yn huawdl iawn, yn siarad gyda hyder ac yn defnyddio iaith soffistigedig i fynegi eu syniadau."

Ond ychwanegodd, "Mae ambell ddisgybl yn gyndyn i ateb cwestiynau ac yn cynnig ymatebion geiriol byr yn unig, sydd heb eu datblygu... Mae ambell un yn oddefol mewn gwersi, a’u sylw’n cael ei dynnu’n rhy hawdd oddi ar y gwersi."

Mae presenoldeb hefyd yn ofid. "Mae nifer y disgyblion sy'n absennol o'r ysgol yn gyson yn arbennig o uchel ac yn effeithio ar y cynnydd y gall y disgyblion hyn ei wneud."

Penodwyd y pennaeth, Jonathan Angell, ym mis Medi 2021. Dywedodd yr adroddiad ei fod wedi "rhoi arweiniad digynnwrf a sicr, gan reoli newid yn effeithiol ac mewn modd sensitif. Mae ganddo weledigaeth glir i bob disgybl 'ffynnu mewn bywyd trwy ddysgu a chyflawni eu gorau’n bersonol'.

Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Mr Angell: "Mae'n adroddiad cadarnhaol iawn ac yn tynnu sylw’n benodol at y flaenoriaeth rydyn ni’n ei rhoi i les disgyblion a'r lefelau uchel o ofal, cymorth ac arweiniad a ddarparwn.

"Mae'r arolygwyr yn cydnabod y cynnydd cryf mae myfyrwyr yn ei wneud yn eu cyfnod yn yr ysgol oherwydd y gwersi sydd wedi'u cynllunio'n dda. Roedden nhw hefyd yn cydnabod y gwelliannau sydd wedi eu gwneud yn yr ysgol ers yr archwiliad llawn diwethaf yn 2014.

"Yn ôl yr arfer mae 'na argymhellion i'r ysgol ganolbwyntio arnyn nhw, ac fe fyddwn ni'n ystyried y rheiny wrth i ni barhau i wella."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd: "Mae llawer o bethau positif yn yr adroddiad hwn ac mae'n arbennig o braf gweld faint o gynnydd sydd wedi'i wneud ers yr arolygiad Estyn diwethaf ac ers i'r ysgol ddod allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2017.

"Mae Jonathan Angell wedi cymryd camau breision, yn enwedig gyda darpariaeth ADY, ac er bod gwelliannau i'w gwneud o hyd a meysydd sy'n peri pryder byddwn yn cefnogi Ysgol Uwchradd y Dwyrain wrth iddi barhau i ffynnu."