Back
"Mae ‘Dysgu, Byw, Credu' yn adlewyrchu nodau Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette yn amlwg," meddai Estyn

5/4/2023

Mae arolygwyr Estyn wedi canfod bod disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette yn mwynhau dod i'r ysgol yn fawr ac yn falch iawn o fod yn aelodau o gymuned eu hysgol.

Yn ystod arolygiad diweddar o'r Ysgol Gynradd Gatholig ym Mhentwyn, cymeradwyodd tîm o arolygiaeth addysg Cymru, y pennaeth a'r staff am greu amgylchedd hapus iawn sy'n croesawu pob disgybl sy'n teimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Yn ôl canfyddiadau’r arolygwyr, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau'n dda ac yn gwneud cynnydd cryf o ran datblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ac mae sgiliau llefaredd disgyblion yn Saesneg o'r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6 yn eithriadol.

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod cydweithio gan ddisgyblion yng ngweithgareddau'r dosbarth ac o amgylch yr ysgol yn gryfder. Maen nhw'n garedig ac yn ystyriol o'i gilydd ac mae eu hymddygiad yn eithriadol bob amser. Maent yn cyfrannu'n dda at amrywiaeth o grwpiau a phwyllgorau, ac yn rhannu enghreifftiau yn frwdfrydig o ble mae eu dylanwad wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd yr ysgol.

Ychwanegodd hefyd fod athrawon yn darparu profiadau dysgu pwrpasol ar draws yr ysgol sy'n llwyddo i ysgogi ac ennyn diddordeb yr holl ddisgyblion a sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ADY yn gadarn.

Tynnodd Estyn sylw hefyd at y ffaith bod y pennaeth, sy’n cael cefnogaeth dda gan yr uwch dîm arwain, yn sicrhau bod lles disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol yn ganolog i'r ysgol. Mae cyfathrebu rhwng staff a rhieni yn dda ac mae llywodraethwyr yn gwybod yr ysgol yn dda iawn, gan gyflawni eu rôl fel cyfaill beirniadol ac yn cefnogi'r pennaeth wrth symud yr ysgol yn ei blaen.

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan yr ysgol 234 o ddisgyblion ar y gofrestr, yr oedd 16.3% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyda 16.1% o ddisgyblion wedi’u nodi fel bod ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Ar y cyfan roedd hyn yn adroddiad cadarnhaol iawn, gan dynnu sylw at agwedd feithringar y Santes Bernadette. Rhoddodd Estyn dri argymhelliad i'r ysgol: Sicrhau bod y cwricwlwm yn ystyrlon i bob disgybl ac yn adeiladu'n systematig ac yn gydlynol ar draws yr ysgol; datblygu sgiliau annibynnol disgyblion a sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i wella eu gwaith eu hunain.

Dywedodd Pennaeth Ysgol y Santes Bernadette, Suzanne Williams: "Rydym yn falch iawn bod Estyn wedi cydnabod, oherwydd gwaith caled ac ymrwymiad y tîm staff cyfan, mai ein prif flaenoriaeth yn Ysgol y Santes Bernadette yw llesiant a bod ein hethos croesawgar a chynhwysol yn hybu datblygiad moesol ac ysbrydol ein holl ddisgyblion'."

Dywedodd Paul Newbury, Cadeirydd Llywodraethwyr y Santes Bernadette: "Roedd y corff llywodraethu’n hynod falch bod Estyn wedi cydnabod safonau ardderchog yr addysgu a'r lles ar gyfer ein disgyblion yn Ysgol y Santes Bernadette. Rydym yn ddiolchgar am yr ymdrechion a'r safonau parhaus a osodwyd gan bawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol ac rydym yn hyderus y bydd ein hysgol yn parhau i ymdrechu i ddarparu'r addysg orau i bob plentyn."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn ystod ei ymweliad diweddar, tynnodd Estyn sylw at rai o agweddau cadarnhaol iawn ar fywyd ysgol yn y Santes Bernadette, yn enwedig y berthynas gref rhwng disgyblion a staff.

"Mae'r lles yn amlwg yn chwarae rhan bwysig ac roeddwn i'n falch o glywed bod gan ddisgyblion ddealltwriaeth gadarn o'u hawliau a’u bod yn cyfrannu'n aeddfed at drafodaethau am degwch a chydraddoldeb.

"Mae hyn wedi'i gyflawni trwy'r gwaith helaeth y mae'r ysgol wedi'i wneud ar hawliau disgyblion a gwerthoedd yr ysgol a thrwy raglen Parchu Ysgolion Hawliau'r Cenhedloedd Unedig, gan gefnogi ymrwymiad Caerdydd i ddod yn un o Ddinasoedd sy’n Dda i Blant UNICEF y DU, lle mae hawliau'r plentyn yn hollbwysig."

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru. Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.