Back
Cyngor Caerdydd yn cefnogi cais y DU ac Iwerddon i gynnal EURO 2028 UEFA

12.4.23

Mae Cyngor Caerdydd wedi cefnogi'r cais ar y cyd rhwng y DU ac Iwerddon i gynnal EURO 2028 UEFA, a gyflwynwyd ar y cyd heddiw ganGymdeithasau Pêl-droed Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae Caerdydd yn ddinas fywiog a chroesawgar, gyda hanes cryf iawn o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn llwyddiannus, ac mae'r posibilrwydd, os bydd cais y DU ac Iwerddon yn llwyddiannus, o ddod â chefnogwyr pêl-droed o bob rhan o Ewrop ynghyd i fwynhau ein hanes a'n diwylliant unigryw, yn ogystal â'r awyrgylch anhygoel ar ddiwrnod gêm, yn gyffrous iawn i'r ddinas.

"Gallai hyn fod yn gyfle gwych i arddangos Caerdydd i'r byd, adeiladu ar ein henw da fel cyrchfan digwyddiadau rhyngwladol, a sicrhau manteision economaidd i'r ddinas a'r rhanbarth ehangach. Byddai hefyd yn gadael gwaddol bêl-droed i bawb, gyda mwy o gyfleoeddi bobl yng Nghaerdydd gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol."

Pe bai'n llwyddiannus, byddai gemau Caerdydd yn cael eu cynnal yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru, gyda gemau eraill yn cael eu cynnal yn Llundain, Manceinion, Lerpwl, Newcastle, Birmingham, Glasgow, Dulyn a Belffast.

Mae disgwyl i UEFA gyhoeddi'r cais buddugol yn hydref 2023.