Back
Adroddiad Estyn yn canmol profiadau dysgu 'hynod fuddiol' ysgol

25/4/2023

Mae ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi derbyn adroddiad gwych gan arolygwyr, wnaeth ganmol ei ffocws ar arloesi sy'n helpu i gyflwyno "profiadau dysgu pleserus a hynod fuddiol i ddisgyblion."

Roedd adroddiad Estyn, a gynhaliwyd yn dilyn archwiliad ym mis Ionawr yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach yn Rhiwbeina, yn pwysleisio arweinyddiaeth gref ac effeithiol yr ysgol. Mae arweinwyr yn annog staff i arbrofi gyda'u gwersi a rhoi cynnig ar ddulliau newydd, meddai'r adroddiad, gan eu grymuso i arloesi a chymryd risgiau wedi'u rheoli i wella profiadau dysgu a chanlyniadau i ddisgyblion.

Yn unol ag arwyddair yr ysgol - 'Meithrin meddyliau chwilfrydig... galluogi plant i ffynnu... fel eu bod nhw'n barod am fywyd, yn barod am waith, ac yn barod am y byd' - tynnodd yr adroddiad sylw at gwricwlwm amrywiol a diddorol yr ysgol, gyda llawer o brofiadau dysgu dilys yn dal dychymyg a brwdfrydedd dysgwyr yn hynod effeithiol ym mhob ystafell ddosbarth yn ogystal â chaniatáu i'r disgyblion ymarfer ystod o sgiliau "mewn sefyllfaoedd go iawn."

Canmolodd hefyd gynllunio a pharatoi manwl gan y staff addysgu.  O ganlyniad: Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Mae gan Llanisien Fach 511 o ddisgyblion, gydag 8% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, o'i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 23%. Mae gan ychydig dros 10% anghenion dysgu ychwanegol (ADY) - y cyfartaledd cenedlaethol yw 16.1%. Er nad oes yr un o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Cymraeg gartref, mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 4.3% o'r plant yno.

Fe wnaeth Estyn gydnabod bod disgyblion yn gwneud llai o gynnydd wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg o ganlyniad i ddiffyg cyfle, gydag argymhelliad fod yr ysgol yn gwneud gwelliant yn y maes yma.

Canmolwyd yr ysgol am ei safonau uchel o lythrennedd a rhifedd gyda disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn meysydd fel ysgrifennu, darllen, rhifedd a gyda'u sgiliau creadigol.

Ychwanegodd yr adroddiad bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd ardderchog yn eu datblygiad fel llenorion ac yn dod yn awduron brwdfrydig a chymwys gyda'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn cyflawni sgiliau a dealltwriaeth gref mewn mathemateg.

"Mae'r rhan fwyaf yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu eu sgiliau creadigol, datrys problemau'n effeithiol, ystyried cwestiynau'n ofalus ac ymgysylltu'n aeddfed ag oedolion a'u cyfoedion."

Fe wnaeth Estyn hefyd ganmol y berthynas waith ardderchog rhwng y staff a'r disgyblion a'r flaenoriaeth uchel y mae'r ysgol yn ei rhoi ar les disgyblion gyda'r "diwylliant meithrin" yn cael ei gydnabod fel cryfder. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn diwallu eu hanghenion llesiant yn hynod effeithiol.  Ychwanegodd bod y staff yn dda iawn am roi profiadau i ddisgyblion sy'n cyfuno sawl maes yn y cwricwlwm ac yn gwella eu synnwyr o les ar yr un pryd.

Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod y disgyblion yn dangos "gofal go iawn" am ei gilydd a bod ganddyn nhw ymwybyddiaeth gref o faterion sy'n wynebu pobl yn eu cymuned a'r byd ehangach.

Ychwanegodd bod yr ysgol yn hynod gynhwysol a bod disgyblion yn dysgu parchu a dathlu gwahaniaethau rhwng pobl a'u bywydau. Canmolodd hefyd y ddarpariaeth effeithiol iawn ar gyfer disgyblion ag ADY sydd wedi'i datblygu'n dda,  gyda lefelau uchel o gynhwysiant yn dangos agosrwydd a chryfder cymuned yr ysgol.

Dywedodd Sarah Coombes, sydd wedi bod yn bennaeth ar yr ysgol ers 2009, ei bod wrth ei bodd gyda'r adroddiad arolygu.  "Rydym yn hynod falch o'n disgyblion.  Dylid canmol eu hagwedd bositif, ofalgar a'r lefelau uchel o barch maen nhw'n ei ddangos i'w gilydd a'u cymuned.

"Mae eu hymdrech barhaus a'u parodrwydd i herio eu hunain ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol yn sicrhau eu bod yn elwa ar brofiadau dysgu wrth iddynt ymdrechu i gyrraedd eu potensial i fod y gorau y gallant fod."

"Drwy ymroddiad ac ymdrechion tîm y staff cyfan, rwyf wrth fy modd gyda'r adroddiad a'r gydnabyddiaeth haeddiannol y mae'n ei rhoi i gymuned yr ysgol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wireddu profiadau dysgu dychmygus a dilys sy'n sicrhau cynnydd cryf i'r disgyblion.  Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth barhaus gan ein teuluoedd, ein cymuned a'n corff llywodraethol sy'n galluogi'r ysgol i barhau i sbarduno arloesedd a gwelliant."

Dywedodd aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, bod yr ysgol yn enghraifft o sut y dylid darparu addysg gynradd yn y ddinas.  "Mae Sarah Coombes a'i thîm wedi gosod safon uchel iawn yn y gwaith maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn Llanisien Fach a dylen nhw - a'r disgyblion sy'n amlwg yn mwynhau eu hamser yno - fod wrth eu boddau gyda'r adroddiad."

"Fel Cyngor, rydym yn edrych ymlaen at barhau i helpu'r ysgol i gynnal y safonau uchel hyn yn y blynyddoedd i ddod ac, wrth gwrs, gwneud gwelliannau lle bo angen."

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru.   Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

 

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad. Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.