Back
Gosod 47 o fesuryddion ansawdd aer amser go iawn newydd yng Nghaerdydd

26/04/23


Bydd 47 o orsafoedd monitro ansawdd aer newydd yn cael eu gosod ar draws y ddinas er mwyn helpu i fesur y llygredd yn yr aer yr ydym yn ei anadlu.

 

Bydd y mesuryddion - a fydd yn nodi lefelau o Nitrogen Deuocsid a gronynnau bach iawn o lwch a elwir yn Ddeunydd Gronynnol (PM10a PM2.5) - yn gwella ymhellach sut mae Cyngor Caerdydd yn mesur llygredd aer a chanfod problemau'n well ac yn gynt a chymryd camau i leihau llygredd.

 

Byddan nhw'n cael eu rhoi ym mhedair Ardal Rheoli Ansawdd Aer y ddinas (ARhAAau) ac yn ehangach ar draws y ddinas gyfan ger ardaloedd sy'n peri pryder, fel ysgolion a chanolfannau iechyd yn dilyn gweithdrefn trefn asesu sydd wedi'i chynllunio i adnabod ardaloedd o risg uchel.

 

Bydd yr offer newydd yn monitro llygredd aer 24 awr y dydd a bydd y data'n cael ei gasglu a'i adrodd naill ai'n chwarterol neu'n fisol ar wefan y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir -https://www.srs.wales/en/Home.aspx 

 

Mae ARhAAau yn cael eu gosod mewn wardiau lle mae'r cyfartaledd blynyddol o lygryddion hysbys yn peri pryder oherwydd bod lefelau hanesyddol wedi torri neu'n agos at y terfyn cyfreithiol. Ar hyn o bryd maent ar waith yng nghanol y ddinas, Stephenson Court (Heol Casnewydd), Pont Elái a Llandaf. Mae adroddiad diweddaraf y Cyngor ar fonitro ansawdd aer blynyddol yn dangos bod llygredd aer ym mhob un o'r ARhAAau yng Nghaerdydd yn gwella gyda chrynodiadau islaw'r gwerthoedd terfyn a ganiateir yn gyfreithiol ar gyferNO2.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd: "Ansawdd aer gwael yw'r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU, ac ar ôl ysmygu, yr ail fygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae tystiolaeth glir i ddangos bod dod i gysylltiad â llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes ac yn cynyddu'n sylweddol y risg o farw o glefyd y galon, strôc, clefydau anadlol, canser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill.

"Mae'r astudiaeth ddiweddaraf i lygredd aer yng Nghaerdydd yn dangos bod trigolion wedi mwynhau aer glanach ledled y ddinas gydol 2021 o gymharu â ffigyrau cyn y pandemig yn 2019. Er bod y data hwn yn galonogol, mae mwy o waith i'w wneud.  Mae angen i ni barhau i leihau lefelau llygryddion.  Os ydyn ni am i bobl fod yn iachach, mae'n rhaid i ni annog pobl i fod yn llai dibynnol ar eu ceir, ac i wneud y newid i drafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded.  Nid yn unig y bydd o fudd i iechyd pobl ond bydd yn helpu'r ddinas i leihau ein hôl troed carbon wrth i ni geisio brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

 

"Ynghyd ag allyriadau diwydiant, allyriadau cerbydau, yn enwedig o gerbydau disel, yw'r ffactor sy'n cyfrannu fwyaf at ansawdd aer gwael mewn dinasoedd ledled y gwledydd hyn. Trwy wella ein rhwydwaith monitro gyda'r mesuryddion newydd hyn, byddwn yn deall ansawdd yr aer yng Nghaerdydd yn well a fydd yn caniatáu inni ymateb yn gyflym i unrhyw bryderon llygredd a sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i leihau llygredd aer a gwella'r aer y mae ein trigolion yn ei anadlu."

 

Dwedodd Nick Ruxton-Boyle, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd i Vortex IOT: "Rydym yn gyffrous i gefnogi prosiectau Aer Glân gyda Chyngor Dinas Caerdydd ac yn croesawu awdurdod lleol arall o Gymru i'n rhestr gleientiaid sy'n tyfu yn y DU. Bydd y rhwydwaith newydd o fesuryddion VTX Air ledled y ddinas, ac ardal ehangach Caerdydd yn darparu data manwl a lleol iawn ar ystod o lygryddion i gefnogi prosiectau gwella ansawdd aer lleol a hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o effeithiau niweidiol llygredd aer."

 

Nodiadau i'r Golygydd: 

Y terfyn cyfreithiol ar gyfer NO2yng Nghymru yw crynodiad cyfartalog blynyddol o 40 μg/m3a dyma'r canlyniadau o'r pedwar ARhAA yn y ddinas:

Canol y Ddinas:Mae lefelau NO2yng nghanol y ddinas mae wedi gostwng yn sylweddol ers 2019 ond wedi cynyddu ychydig o gymharu â 2020 (pan oedd Stryd y Castell ar gau i draffig yn ystod adferiad COVID). Yn 2019, mae data'n dangos fod lefel yr NO2yn 44μg/m3o ddwy orsaf fonitro ar wahân, a ostyngodd i 23 μg/m3a 26μg/m3yn y drefn honno yn 2020. Yn 2021, roedd data o'r un gorsafoedd monitro yn dangos cyfartaledd blynyddol o 26 μg/m3.

Stephenson Court: Mae'r tair gorsaf fonitro yn yr ARhAA hwn yn dangos cydymffurfiaeth â'r gofynion NO2, gyda'r cyfartaledd blynyddol yn parhau o dan 30μg/m3o'r tri safle. Mae'r data yn 2019 yn dangos cyfartaledd darlleniadau NO2o 35.7 μg/m3, yn gostwng i 28.4μg/m3yn 2020 a chynyddu ychydig i 29.3 μg/m3yn 2021.

Pont Elái:Mae tri safle monitro ar waith yn y lleoliad hwn ac mae'r tri safle'n cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer NO2.  Yn 2019, y cyfartaledd blynyddol o'r lleoliad hwn oedd 38.6μg/m3, yn gostwng i 30.4μg/m3yn 2020 ac yn cynyddu ychydig i 31.7 μg/m3yn 2021.

Llandaf: Mae'r holl orsafoedd monitro yn dangos bod y gwerthoedd terfyn ar gyfer NO2yn cydymffurfio â'r gwerth terfyn a nodir yn y ddeddfwriaeth. Yn 2019 roedd y cyfartaledd blynyddol yn dangos y lefel ar 41.3μg/m3, yn gostwng i 33 μg/m3yn 2020, ond yn cynyddu i 37 μg/m3yn 2021. Mae'r cynnydd yn y lefel rhwng 2020 a 2021 yn adlewyrchu'r cynnydd mewn traffig yn defnyddio'r llwybr hwn, sef un o'r prif lwybrau rhydwelïol i'r ddinas. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod monitro â ffocws yn cael ei gynnal a'i wella Llandaf yn 2023.