Back
Garddwr Caerdydd yn ymddeol wedi 51 o flynyddoedd yn tendio mannau gwyrdd Caerdydd

26/4/23

Roedd adeg pan oeddem i gyd yn gobeithio bod mewn swydd am oes ond faint all honni heddiw eu bod wedi gweithio i'r un cyflogwr - gan wneud mwy neu lai yr un tasgau - am y 50 mlynedd diwethaf?

Yn camu ymlaen mae Mark West, neu 'Westy', sy'n ymddeol yr wythnos hon, 51 mlynedd ers iddo ddechrau gweithio fel garddwr dan hyfforddiant 15 oed diniwed yn adran Parciau Cyngor Caerdydd.

Dwedodd Mark: Rwy' wedi bod wrth fy modd gyda'r swydd hon o'r diwrnod y dechreuais hi ar £7 yr wythnos ac rwy'n dal i fod wrth fy modd yr un faint nawr." Hyd yn oed pan nad ydw i'n gweithio rwy'n gofalu am fy ngardd gartref yn Y Ddraenen felly pan fydda i'n gorffen am y tro olaf, fydda i ddim yn seguro ar y soffa."

Fodd bynnag, gallai pethau fod wedi bod mor wahanol.  Ar ôl gadael yr ysgol yng Nghaerffili, daeth ei dad o hyd i swydd iddo yn y Ffatri Ordnans Frenhinol yng Nghaerdydd lle roedd yntau'n gweithio, am £18 yr wythnos, ond roedd yn well gan y Mark ifanc flodau'r haul i'r powdr gwn a dewisodd yn lle hynny weithio ar safle'r adran Barciau yn Llanisien, ychydig i lawr y ffordd.

Gweithiodd ei ffordd i fyny i fod yn brif arddwr ym Mharc Bute ond 25 mlynedd yn ôl daeth rôl y goruchwyliwr yn wag ac fe'i dyrchafwyd. Roedd ei gylch gorchwyl yn dal i gynnwys canol gwyrdd ysblennydd y ddinas, ond hefyd cymerodd gyfrifoldeb dros Erddi'r Orsedd, Parc Cathays, y Ganolfan Ddinesig a mannau eraill.

Dwedodd Jon Maidment, rheolwr Mark a'rRheolwr Gweithredol dros Parciau, Chwaraeon ac Awdurdod yr Harbwr:'Dyw brwdfrydedd ac ymrwymiad Mark i barciau Caerdydd ddim wedi gwanio dros y blynyddoedd.  Mae'n aelod uchel ei barch a gwerthfawr o'r tîm, ac yn batrwm o weithiwr a ffynhonnell ysbrydoliaeth i eraill. Bydd colled ar ei ôl, ac rydym yn dymuno'r gorau iddo yn ei ymddeoliad haeddiannol."