Back
Perchennog o Gaerdydd yn cael ei orchymyn i dalu ychydig dros £3,000

26/04/23


Mae landlordes o Gaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu ychydig dros £3,000 am fethu â chydymffurfio â'r amodau trwyddedu eiddo a oedd yn cael ei rentu fel Tŷ Amlfeddiannaeth.

 

Mae'r eiddo rhent, 50 Heol Ninian ym Mhlasnewydd, yn dy teras tri llawr, Fictoraidd, sy'n cynnwys wyth ystafell wely gyda chyfleusterau cegin ac ymolchi a rennir.

 

Plediodd Mrs Nayer Javedo Penylan Place, Caerdydd yn euog i un drosedd ar 13 Hydref 2022. Plediodd y cwmni rheoli, Umbrella Homes Ltd a'r unig gyfarwyddwrMr Farshid Mansouri o Heol Woodville, Caerdydd, yn euog hefyd i sawl trosedd ar wahân o dan Reoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru). Gorchmynnwyd Umbrella Homes Ltd. a Mr Mansouri hefyd i dalu ychydig o dan £2,500 yr un yn y gwrandawiad dedfrydu yr wythnos diwethaf (20 Ebrill 2023).

 

Yn ystod y dedfrydu Ddydd Iau diwethaf, clywodd y llys bod Mrs Javed, o Penylan Place, Caerdydd, wedi trwyddedu'r eiddo ym mis Mehefin 2019, ond cafodd wybod bod rhaid gosod system larwm tân newydd wedi'i huwchraddio, drysau tân newydd ar gyfer ystafelloedd gwely a diogelwch tân digonol o amgylch y mesuryddion trydan er mwyn sicrhau bod yr eiddo'n ddiogel ac yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.

 

Dangosodd archwiliad dilynol gan swyddogion y cyngor ym mis Rhagfyr 2021 nad oedd y gwaith wedi'i gwblhau a nodwyd namau eraill hefyd, gan gynnwys:

 

  • Roedd y system larwm tân yn ddiffygiol.
  • Roedd drysau tân wedi eu difrodi ac yn ddiffygiol.
  • Diffoddwyr tân nad oedd wedi eu gwasanaethu ers dros 12 mis
  • Gwteri wedi torri ac yn gollwng
  • Arwynebau gwaith cegin yn pydru
  • Gosodiadau trydanol anniogel, a;
  • Deunyddiau fflamadwy yn rhwystro'r llwybr dianc.

 

Dwedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid sector preifat yn cynnig gwasanaeth da iawn i'w trigolion, ond yn anffodus mae yna leiafrif sydd ddim.

 

"Pan fyddwn yn mynd â'r materion hyn i'r llys, rydym yn gwneud hyn er budd y preswylwyr sy'n byw yn yr eiddo, fel bod y diffygion a nodwyd yn cael eu trwsio a'r eiddo'n ddiogel."

Cafodd Mrs Nayer Javed ddirwy o £1,830, ei gorchymyn i dalu costau o £1,000 gyda gordal dioddefwr ychwanegol o £183.

 

Cafodd Umbrella Homes a'r cyfarwyddwr Mr Farshid Mansouri ddirwy o £1,080, eu gorchymyn i dalu £1,250 a gordal dioddefwr o £108 yr un.