Back
Ydych chi'n ailgylchu eich podiau coffi?

 27/04/23


Mae gwasanaeth ailgylchu newydd i'r cyngor, sydd wedi'i ariannu gan Podback, wedi cael ei lansio yng Nghaerdydd sy'n rhoi cyfle i breswylwyr sy'n byw mewn tai ledled y ddinas, ailgylchu eu podiau coffi plastig neu alwminiwm sy'n cael eu defnyddio yn y rhan fwyaf o beiriannau coffi.

 

Mae'r system casglu ar alw newydd yn gofyn i drigolion gofrestru ar gyfer y cynllun trwy wefan Podback - https://www.podback.org/. Bydd rholyn o 13 o fagiau yn cael ei ddanfon i'r eiddo gan Podback gyda chyfarwyddiadau o sut i ddefnyddio'r cynllun.

 

Pan fo bag yn llawn, gofynnir i drigolion drefnu casgliad wrth ymyl y ffordd drwy fynd iwww.caerdydd.gov.uk/podback. Bydd casgliadau Ymyl y Ffordd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd o 2 Mai.

 

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid yn yr Hinsawdd: "Ers lansio'r cynllun yng Nghaerdydd ar 17 Ebrill, mae dros 1,000 o aelwydydd wedi ymuno â'r cynllun hyd yn hyn, sy'n galonogol iawn. Mae ailgylchu eitemau sy'n cael eu gwneud o ddeunyddiau lluosog yn aml yn anodd, felly mae'n wych gweld gweithgynhyrchwyr y cynhyrchion hyn yn mentro i roi prosesau ar waith fel y gellir eu hailgylchu. Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda 'chynhyrchwyr gwastraff' fel y gallwn barhau i ganfod ffyrdd newydd o ailgylchu mwy o wastraff Caerdydd."

 

Bydd podiau a gesglir drwy'r gwasanaeth newydd yn cael eu hailgylchu yn y DU, gyda phlastig ac alwminiwm yn cael eu defnyddio i wneud cynhyrchion newydd, gan gynnwys deunydd pecynnu a chydrannau ceir, a'r mâl coffi yn cael ei ddefnyddio i greu ynni adnewyddadwy a gwella pridd.

 

Dywedodd Rick Hindley, Cyfarwyddwr Gweithredol Podback: "Rydym yn gyffrous i groesawu trigolion Caerdydd i Podback. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gennym doedd dros hanner yfwyr podiau coffi yng Nghymru ddim yn ymwybodol bod modd ailgylchu podiau, felly rydyn ni'n gobeithio newid hynny, a helpu Caerdydd i wella ei pherfformiad ailgylchu. Lle mae Podback yn gweithredu mewn awdurdodau lleol eraill mae wedi cael croeso gwresog gan drigolion, felly gobeithiwn y bydd Podback yn ennill ei blwyf yn gyflym fel rhan o drefn ailgylchu trigolion Caerdydd."

 

I gael gwybod mwy am gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Podback newydd a pha bodiau coffi y gellir eu hailgylchu, ewch i:www.podback.org