Back
Twyllwr gafwyd yn euog wedi cael gorchymyn i dalu ychydig o dan £133,500 i'w ddioddefwyr neu wynebu tair blynedd arall y

27/04/23


Anfonwyd Alan Lee i'r carchar ym mis Rhagfyr 2021 am 6 blynedd a 10 mis am dwyllo dioddefwyr oedrannus a bregus allan o dros £500,000 ar gyfer gwaith adeiladu eilradd a oedd yn aml yn gadael adeiladau yn anniogel i fyw ynddo.

 

Roedd yr achos yn ymwneud â Mr Lee yn twyllo pobl oedrannus o'u harian drwy ddyfeisio problemau oedd ganddyn nhw gyda'u heiddo, cyn gwneud gwaith adeiladu diangen, cynyddu pris y gwaith yn barhaus a gwneud bygythiadau i'r rhai oedd yn ei gwestiynu.

 

Cynhaliwyd y gyfres o droseddau rhwng Medi 2018 a Rhagfyr 2020 - gan dargedu eiddo, yn aml gyda phobl oedrannus yn byw yno, yny Rhath, y Barri, Trelái, Draenen Pen-y-graig, Casnewydd a Llanisien.

 

Yn Llys y Goron Caerdydd ddoe (26/04/23) clywodd Gwrandawiad Enillion Troseddau fod Mr Lee,49, o Heol Gwynllŵg yn Nhredelerch yn meddu ar ychydig o dan £133,500 mewn asedau, y cytunodd Alan Lee bod £100,000 wedi'i guddio.

 

Rhoddwyd gorchymyn atafaelu llawn gan Ei Anrhydedd y Barnwr Jeremy Jenkins a fydd yn rhoi cyfran o 35.74% i bob un o'r 24 o ddioddefwyr yn yr achos hwn am bob £1 a gollon nhw. Roedd rhaid talu'n llawn o fewn 3 mis neu bydd 3 blynedd arall o garchar yn cael ei ychwanegu at ei ddedfryd bresennol.

 

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:  "Mae Alan Lee yn honni ei fod yn adeiladwr, ond mae'n ddyn twyllwr anonest oedd yn targedu pobl oedrannus, bregus ac anabl gan ddwyn llawer o arian. Bu'n troseddu am flynyddoedd ac yn aml yn gwawdio ein swyddogion safonau masnach a oedd yn ymchwilio iddo.

 

"Roedd yn meddwl ei fod uwchben y gyfraith, ond mae'n dal yn y carchar am y troseddau mae wedi'u cyflawni. Nawr, rydym wedi mynd ar ôl ei asedau, a dyw hi ddim yn syndod iddo geisio cuddio £100,000 oddi wrth yr awdurdodau. Felly, pan fydd yn mynd allan o'r carchar, ni fydd ganddo arian a byddwn yn monitro unrhyw waith y mae'n ei wneud, fel y gallwn gymryd camau priodol os yw'n ail-droseddu."