Back
Rhandiroedd Caerdydd yn ennill gwobr 'Trawsnewid Cymuned'

Mae'r gwaith o drawsnewid safle rhandiroedd yng Nghaerdydd, a oedd wedi'i guddio bron yn llwyr y tu ôl i wal o fieri ddwy flynedd yn ôl ac sydd bellach yn gartref i erddi cychwyn newydd, lleiniau hygyrch, gardd gymunedol, perllan, a llecyn addysg, wedi ennill gwobr 'Trawsnewid Cymuned'.

Yn 2021, aeth deiliaid lleiniau yn rhandiroedd Pafiliwn Pengam ar Ffordd Rover ati eu hunain i glirio rhan o'r safle a oedd dan gymaint o fieri fel "nad oedd modd gweld bod coeden yno" yn ôl aelod o gymdeithas y rhandiroedd, John Cook, wrth iddo bwyntio at goeden dderw fawr sy'n sefyll yn dalsyth ymysg 21 o 'erddi cychwyn' newydd a gynlluniwyd i annog garddwyr a allai fod wedi cael trafferth gyda llain safonol mwy o faint oherwydd problemau iechyd neu symudedd.

"Roedd yn ddolur llygaid i'w weld o'r ffordd," cadarnhaodd ysgrifennydd y safle Tracey Woodberry, "ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gydag e, felly fe ddechreuon ni glirio gan bwyll."

Wedi cwblhau'r gwaith clirio, gwahoddodd y gymdeithas Gyngor Caerdydd i weld y gwaith roedden nhw wedi ei wneud a rhannu eu cynlluniau ar gyfer y safle, sydd yn un o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. "Cafodd gymaint o argraff arnyn nhw," meddai Tracey, "dwi ddim yn meddwl y gallen nhw gredu'r peth."

Bryd hynny, cyflwynodd y Cyngor gynlluniau'r gymdeithas i gael grant gan Gronfa Waddol Travis Perkins, a sefydlwyd fel rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol a sicrhawyd gan y Cyngor fel rhan o gontract a ddyfarnwyd i'r cwmni i gyflenwi a darparu deunyddiau adeiladu.

Dwedodd Martyn Piper, Rheolwr Cyfrif Travis Perkins: "Roedd y prosiect yn edrych yn wych ar bapur, ond wrth ddechrau siarad â phobl a theimlo'u hangerdd a'u brwdfrydedd, dyna pryd rydych chi'n cael dealltwriaeth wirioneddol o faint y gallai ei olygu i'r gymuned."

Y canlyniad terfynol oedd rhodd o £25,000 o ddeunyddiau adeiladu, offer a llafur a wnaeth helpu tuag at y gwaith o drawsnewid y llecyn a fu'n segur cyn hynny, ynghyd â gwaith caled y gwirfoddolwyr, a chefnogaeth gan y Cyngor.

"Mae'n hyfryd meddwl eich bod wedi gwneud rhywbeth o fudd i'r gymuned," ychwanegodd Martyn, "a gwybod bod y daith yn parhau ac mae'r prosiect yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol fisoedd ar ôl i ni roi ein rhodd."

Daeth y gydnabyddiaeth honno ar ffurf enwebiad ar gyfer Gwobr Cymru Daclus ond, er gwaethaf ymdrechion cymdeithas y rhandiroedd, a oedd yn eistedd wrth fwrdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wrth i'r canlyniadau gael eu darllen, doedd ganddyn nhw ddim syniad o hyd eu bod ar fin bod yn 'Enillwyr Gwobr Trawsnewid Cymuned 2023.'

"Roeddwn i'n geg agored," meddai Tracey, "doedd dim geiriau. O ddifri, roedd hi'n anhygoel, mae lot o waith caled wedi cael ei wneud yma ac mae pobl wedi bod yn gymaint o help, mae'n ddigon i godi gwên."

Fel mae John yn nodi, nid dim ond y safle sydd wedi newid, ond hefyd y gymuned sy'n defnyddio'r safle. "Flynyddoedd yn ôl dim ond dynion fyddai yno, ond byddwn i'n dweud bod tua 70% yn fenywod erbyn hyn fwy na thebyg, ac mae gennym ni ddeiliaid lleiniau aml-wladol ac aml-ddiwylliannol sy'n arwain at dyfu amrywiaeth o blanhigion, mae gennym ni blant o'r feithrinfa leol yn dod draw i gael eu cinio yn yr ardd bywyd gwyllt a dysgu am dyfu. Mae'n gymuned go iawn."

Hyd yn oed gyda 30 o goed ffrwythau brodorol yn dwyn ffrwyth yn y berllan, ardaloedd newydd i beillwyr, cynnal digwyddiadau cymunedol cyfnewid hadau, rhaglen ailgylchu sy'n golygu bod dŵr glaw yn cael ei ail-ddefnyddio a siediau wedi'u hadeiladu o hen setiau ffilm, ynghyd â llawer o arddwyr newydd yn cael eu croesawu i'r lleiniau cychwynnol newydd a'r gwelyau uwch hygyrch, nid yw'r trawsnewidiad wedi ei orffen eto.

"Mae gennym ni gwmni lleol eisoes sydd wedi dweud y byddan nhw'n helpu i ariannu ardal ystafell ddosbarth, rydyn ni eisiau annog ysgolion eraill i gymryd rhan," meddai Tracey, "creu rhywle i gael y plant allan o'r ystafell ddosbarth, rhywle maen nhw'n gallu gweld sut mae llysiau'n cael eu tyfu, sut mae mêl yn cael ei greu. Trwy weld mae credu."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud i drawsnewid y safle hwn yn hynod drawiadol ac mae'n cyd-fynd yn wych â'n strategaeth rhandiroedd sy'n ceisio gwella mynediad i grwpiau difreintiedig a lleihau rhestrau aros."

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ddeiliad rhandir, ewch i:  https://www.outdoorcardiff.com/cy/cymrwch-ran/rhandiroedd/

Mae rhagor o wybodaeth am strategaeth rhandiroedd y Cyngor ar gael yma:  https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s56479/Cabinet%2010%20March%202022%20Alltoment%20Strat.pdf