Back
Gŵyl Caerdydd sy’n Deall Dementia i nodi Wythnos Gweithredu ar Ddementia


12/5/23
Fe fydd Gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia yn cael ei chynnal yn Neuadd Llanofer yr wythnos nesaf, yn rhan o weithgareddau Wythnos Gweithredu Dementia y ddinas.

Bydd y digwyddiad ddydd Iau 18 Mai, 11am - 3pm, yn gyfle i bobl â dementia a'u gofalwyr gael gwybod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, a bydd hefyd yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl. 

Bydd paentio dyfrliwiau, ysgrifennu creadigol a sesiynau gwnïo, ioga eistedd a mwy ar gael i bobl roi cynnig arni. Bydd amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau yno sy'n helpu pobl gyda dementia a'u teuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau Teleofal a phrydau Pryd ar Glud y Cyngor, Gwasanaethau Byw'n Annibynnol i gyflwyno'r wefan asesu cymorth Gofyn i Sara, Gofal a Thrwsio Caerdydd a'r Fro, ac Age Cymru i rannu gwybodaeth a chyngor.

Wythnos Gweithredu Dementia (Mai 15 - 21) yw ymgyrch ymwybyddiaeth fwyaf a hiraf y Gymdeithas Alzheimer's. Bob blwyddyn, mae unigolion a sefydliadau ledled y DU yn cael eu hannog i 'weithredu ar ddementia'. 

Mae Caerdydd sy'n Deall Dementia yn bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Alzheimer's Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio tuag at wneud Caerdydd yn gymuned sy'n deall dementia.  Mae'r mudiad hwn yn annog ac yn cynorthwyo sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn y ddinas i ddeall dementia a chynnig gwell cymorth i bobl sy'n byw â dementia a'u teuluoedd.

Bydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, a'r aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion), y Cynghorydd Norma Mackie yn y digwyddiad ddydd Iau nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Mackie: "Mae'n bwysig ein bod yn nodi Wythnos Gweithredu Dementia bob blwyddyn, ac rwy'n falch iawn ein bod ni'n gwneud hynny mewn ffordd mor ysbrydoledig eleni gyda gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia yn Llanofer.

"Rhagwelir i gyfran poblogaeth ein dinas sy'n byw â dementia gynyddu dros y blynyddoedd i ddod felly mae'n hanfodol bod gennym ni wasanaethau a darpariaeth ar gyfer eu hanghenion. Mae'r ŵyl yr wythnos nesaf yn gyfle i gyflwyno rhai o'r gwasanaethau hynny sy'n gallu gwneud byd o wahaniaeth i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda dementia, a'u teuluoedd, yn byw'n dda.

"Bydd cyfle hefyd i gael hwyl, cwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar rai o'r gweithgareddau sydd yn cael eu cynnig yn Neuadd Llanofer felly rydw i wir yn edrych ymlaen at y digwyddiad."

 

Bydd Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnig ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau dementia-gyfeillgar drwy gydol Wythnos Gweithredu Dementia, fel y maen nhw'n ei wneud drwy'r flwyddyn. Mae manylion am gaffis dementia, gweithgareddau iechyd a lles, canu grŵp, a rhagor i'w weld ar https://hybiaucaerdydd.co.uk/

 

Mae gwefan Caerdydd sy'n Deall Dementia https://caerdydddealldementia.co.uk/ hefyd yn rhoi manylion am ddigwyddiadau yn y gymuned leol a chyfoeth o gyngor ac adnoddau i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.